Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rydym wedi bod yn glir iawn wrth fuddsoddi'r adnoddau ychwanegol ar gyfer CAMHS. Mae gennym yr arian rydym wedi'i glustnodi ym meysydd iechyd meddwl yn gyffredinol, ac mewn gwirionedd, gwyddom ein bod yn gwario mwy na'r arian a glustnodir ym maes iechyd meddwl ac ar wasanaethau CAMHS. Mae rhan o'r her yn ymwneud â gweld CAMHS fel rhan o system gyfan, oherwydd gwyddom mai rhan o'r her yw'r ffaith bod mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio, ac rydym yn dal i wynebu her sylweddol atgyfeirio amhriodol. Felly, yn ogystal â sicrhau buddsoddiad cywir yn CAMHS, ac rwy'n credu ein bod wedi gwneud hynny, mae gennym hefyd y buddsoddiad mewn gwasanaethau eraill lle mae gan bobl anghenion cymorth iechyd a gofal gwirioneddol. Rwy'n hyderus ein bod wedi gwneud y buddsoddiad cywir ac rwy'n hyderus fod yr arian hwnnw'n cael ei wario ar CAMHS fel roeddem wedi'i fwriadu, ac rwy'n llawn ddisgwyl y byddwn yn adrodd yn ôl ar y gwelliant. Os na fyddwn, byddaf yn wynebu eich cwestiynau, ac eraill, ynglŷn â pham nad oes gwelliant sylweddol wedi cael ei wneud a'i gynnal.