Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:52, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi bod yn tynnu sylw at restrau aros CAMHS ers peth amser. Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Prif Weinidog ataf yn esbonio'r rhesymau wrth wraidd y newidiadau yn y ffordd y câi'r rhestrau aros hyn eu mesur a'u cyhoeddi, gan egluro bod rhai byrddau iechyd lleol yn mynd ati'n amhriodol i gynnwys atgyfeiriadau plant a phobl ifanc at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yn eu cyflwyniadau data CAMHS arbenigol, ac mae gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol hefyd darged o 28 diwrnod ar gyfer asesiadau ac ymyriadau, ond caiff hyn ei gofnodi a'i fesur ar wahân. Fodd bynnag, nid yw hyn yn hollol gywir—nid oes modd dadansoddi'r data a gyhoeddwyd ar gyfer y gwasanaeth hwn yn ôl grŵp oedran. Mae hyn yn golygu nad oes gennym syniad faint o amser y mae plant yn aros am y gwasanaethau hyn. A oes gennych unrhyw gynlluniau i gyhoeddi'r data hwn er mwyn caniatáu mwy o graffu ar berfformiad y Llywodraeth hon mewn perthynas ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc?