Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:53, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Rydym yn disgwyl gallu rhyddhau data cywir sydd wedi bod drwy'r broses graffu briodol fel ystadegau swyddogol, fel y gall pobl weld yn dryloyw pa un a yw'r gwasanaeth iechyd yn bodloni'r 80 y cant o blant a phobl ifanc sy'n cael eu gweld mewn gwasanaethau CAMHS o fewn 28 diwrnod. Ni allaf fod yn gliriach ynglŷn â fy nisgwyliadau nac ynglŷn â thryloywder y wybodaeth y bydd y cyhoedd a'r Aelodau yn ei chael.