2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg? OAQ51458
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau unigolion. Mae ein fframwaith strategol 'Mwy na Geiriau' yn nodi ein hymrwymiad a'n camau gweithredu i gefnogi a chryfhau'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal, gan gynnwys, wrth gwrs, gwasanaethau iechyd meddwl.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Mae'n wir i ddweud bod yna bryder bod yna ddiffyg cefnogaeth a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i ymdrin ag iechyd meddwl yn genedlaethol yma yng Nghymru. Mae'n hynod bwysig, wrth gwrs, fod unigolion sydd â salwch meddwl yn medru cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a hynny yn yr iaith y maent fwyaf cyffyrddus yn ei defnyddio—rydych chi'n dod i ddiagnosis ynghynt ac yn gwella ansawdd y gofal yn gyffredinol. Felly, a wnewch chi gytuno i edrych ar yr hyn sydd ar gael—yn cynnwys y pecynnau meddalwedd ac electroneg sydd ar gael—er mwyn cefnogi pobl yn effeithiol, a sut y mae pethau i wella i'r dyfodol?
Gwnaf. Rwy'n hapus i ymrwymo i hynny ac rwy'n cydnabod bod hwn yn fater nad yw'n ymwneud â dewis mewn gofal, mae'n ymwneud ag angen mewn gofal; mae'r ddau yn wahanol ac mae'n bwysig cydnabod y gwahaniaeth. Mae hefyd yn ymwneud â lle mae'r cynnig gweithredol yn digwydd, fel nad oes angen i bobl ddweud, 'Hoffwn allu cael gofal iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg', ond bod cynnig gweithredol i bobl wneud hynny mewn gwirionedd, yn enwedig gyda gwasanaethau iechyd meddwl lle y ceir ystod o heriau sy'n rhaid i chi eu goresgyn er mwyn defnyddio gwasanaeth a chydnabod yr angen i gymryd rhan yn y gwasanaeth hwnnw yn ogystal. Mae eich pwynt ynglŷn â meddalwedd hefyd—mewn gwirionedd, mae gennyf waith ar y gweill eisoes ar hyn o bryd yn edrych ar y cyfleoedd ar gyfer meddalwedd, gan edrych ar yr hyn sy'n bodoli yn Saesneg ac yn Gymraeg, a cheisio gwneud yn siŵr ein bod yn arfogi'r gwasanaeth iechyd a gofal yn briodol i wneud hynny. Felly, rwy'n cydnabod y pwynt ac rwy'n hapus i roi'r wybodaeth diweddaraf i chi ynglŷn â'n sefyllfa yn y dyfodol.FootnoteLink