2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
6. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r risg o bobl yng Nghymru yn dioddef strôc? OAQ51451
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer strôc yn darparu fframwaith ar gyfer camau gweithredu gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG yn gweithio gyda'u partneriaid. Mae'n nodi disgwyliadau'r holl randdeiliaid ynghylch atal, gwneud diagnosis a thrin strôc mewn pobl o bob oed, pa le bynnag y maent yn byw yng Nghymru a beth bynnag fo'u hamgylchiadau.
Diolch i chi am yr ateb, Weinidog. Y ffaith yw, yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae ffibriliad atrïaidd—mae'n fath o glefyd gyda churiad calon afreolaidd—yn gallu cynyddu'r risg o gael strôc hyd at bum gwaith. Mae'n hawdd gwneud diagnosis o ffibriliad atrïaidd ac mae triniaethau effeithiol yn bodoli i leihau'r risg o strôc. Fodd bynnag, mae nifer y bobl nad ydynt wedi cael diagnosis o ffibriliad atrïaidd ynghyd â'r nifer sydd wedi cael diagnosis ond sydd ar feddygaeth amhriodol yn golygu bod llawer o bobl yng Nghymru yn cael strôc y gellid ei atal bob blwyddyn. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r gyfradd o achosion o ffibriliad atrïaidd a gaiff eu canfod yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael triniaeth briodol fel bod gostyngiad yn nifer y bobl sy'n wynebu'r risg o strôc yn ddiangen yng Nghymru? Diolch.
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n cydnabod bod ffibriliad atrïaidd yn risg sylweddol mewn pobl sy'n cael strôc. Roedd archwiliad clinigol diweddaraf y rhaglen archwilio genedlaethol ar gyfer sentinel strôc yn dangos bod gan 18 y cant o gleifion strôc Cymru ffibriliad atrïaidd cyn eu strôc. Mae gennym eisoes waith ar y gweill yn y maes hwn. Yn y datganiad blaenorol a wneuthum yn y lle hwn ar strôc a gwella strôc, crybwyllais y prosiect Atal Strôc a arweinir gan Ysbyty Athrofaol Cymru. Roedd hwnnw'n ymwneud yn benodol ag ymgynghorwyr yn gweithio gyda'r trydydd sector, Sefydliad Prydeinig y Galon, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i edrych ar sut y mae gennych driniaeth briodol ar gyfer pobl sydd â ffibriliad atrïaidd i leihau eu risg o gael strôc, ond mae hefyd yn ymwneud â'r cynnig rhagweithiol i geisio darganfod pwy sydd â ffibriliad atrïaidd heb ei drin a heb ddiagnosis. Hyd yma, nid oedd 40 y cant o gleifion ffibriliad atrïaidd yn cael y driniaeth briodol a gallent fod wedi cael meddyginiaeth wrth-geulo i leihau eu risg o gael strôc.
Felly, mae gwaith eisoes ar y gweill. Mae'r gwaith hwnnw yn awr, yn dilyn y cynllun peilot yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn cael ei gyflwyno ledled y wlad. Dyma un o'r ffactorau risg y gallem ac y dylem ei reoli, ond wrth gwrs mae llawer o rai eraill. Mae'r heriau mawr sy'n wynebu iechyd cyhoeddus megis ysmygu, goryfed alcohol, ein deiet a diffyg ymarfer corff i gyd yn gallu cael effaith sylweddol ar ein risg o amrywiaeth o gyflyrau, gan gynnwys strôc wrth gwrs. Os gallwn wneud mwy fel gwlad i newid ein hymddygiad, bydd gennym lai o bobl yn dioddef iechyd gwael yn y lle cyntaf mewn perthynas â strôc ac amrywiaeth o feysydd eraill.