Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Hoffem ni, ar y meinciau hyn, groesawu'r cynnydd yn y swm di-dreth hyd at £180,000. Yn yr un modd, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn croesawu'r toriad treth a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a sicrhaodd fod yr arian hwn ar gael iddo? A wnaiff ystyried a yw datganiad ysgrifenedig yn ddigon mewn gwirionedd i gyhoeddi newidiadau yn y cyfraddau treth, wrth iddo ystyried y gweithdrefnau ariannol sy'n esblygu yn y Cynulliad hwn?
A gaf fi hefyd ofyn a yw mewn cystadleuaeth dreth â Lloegr bellach? Credaf y gallai'r cynnydd hwn i £180,000 liniaru'r risg y bydd prynwyr tro cyntaf yn ystyried prynu dros y ffin o bosibl, ond mewn gwirionedd mae pobl sy'n prynu am yr ail dro neu fwy na hynny—a yw'n credu y bydd y gostyngiad o hyd at £1,100 ar gartref gwerth £180,000 yn ddigon i annog pobl i ddod i brynu yng Nghymru? Ac a yw hynny'n rhywbeth y byddai'n ei groesawu?
A allai egluro hefyd: a yw hwn yn ddatganiad mawreddog o wleidyddiaeth flaengar, yr hyn y mae'n ei wneud gyda'r dreth trafodion tir, neu a yw ond yn gyfliniad synhwyrol o'r cyfraddau treth ar lefel prisiau tai sy'n gyffredin yng Nghymru?
Yn olaf, yr wythnos diwethaf, dywedodd y byddai'r gyfradd fasnachol o 6 y cant yn arwain at godi ychydig o filoedd yn unig. Ar sail data gwahanol a gawsom gan ei adran, rydym yn cyfrifo y bydd yn £2.7 miliwn y flwyddyn fan lleiaf. A allai edrych eto ar ei gyfrifiadau, ac a allai barhau i adolygu'r gyfradd honno o 6 y cant o ystyried ei heffaith ar ddatblygu ledled Cymru?