Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Wel, Lywydd, gwneuthum benderfyniad ymwybodol i ddefnyddio'r arian sydd ar gael i Gymru o ganlyniad i benderfyniad Canghellor y Trysorlys mewn perthynas â phrynwyr tro cyntaf yn Lloegr. Gwneuthum benderfyniad ymwybodol i ddefnyddio'r arian hwnnw at yr un diben fwy neu lai yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o'r anhwylustod rydym yn ei wynebu gyda'n cyllideb ddrafft yn cael ei gosod ar ddechrau mis Hydref ac yna digwyddiad mawr ar lefel y DU hanner ffordd drwyddi. Fy uchelgais oedd gallu cyflwyno gwybodaeth gerbron y Cynulliad mor gynnar ag y gallwn. Datganiad ysgrifenedig oedd y ffordd ymarferol o wneud hynny. Ni fydd y rheoliadau a fydd yn rhoi hyn i gyd mewn grym yn ymddangos gerbron y Cynulliad hwn tan y flwyddyn newydd, a bydd cyfle llawn i'r Aelodau graffu ar y rheoliadau bryd hynny.
Rwy'n gwrthod y syniad ein bod yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth dreth yn llwyr. Yr hyn y mae datganoli treth trafodion tir i Gymru yn ei wneud yw caniatáu i ni gynllunio'r dreth hon mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion Cymru. Deallaf fod Canghellor y Trysorlys, pan oedd yn rhaid iddo wneud penderfyniad ar sail Cymru a Lloegr, yn gorfod ystyried prisiau tai yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr yn ogystal â phrisiau tai ym Merthyr a Blaenau Gwent, yma yng Nghymru. Mae'n rhaid iddo fabwysiadu dull bras iawn felly lle nad yw rhai o'r ffigurau hynny'n berthnasol i'n hamgylchiadau. Mae cael y dreth yn ein dwylo ni yma yng Nghymru yn golygu fy mod wedi gallu gosod trothwyon sy'n adlewyrchu prisiau tai yma yng Nghymru. Ni fydd 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yn Lloegr yn talu unrhyw dreth o gwbl o ganlyniad i benderfyniad y Canghellor. Ni fydd 80 y cant o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu unrhyw dreth o ganlyniad i'r trothwy a osodais yma yng Nghymru.
Nid yw'r penderfyniadau rwyf wedi'u gwneud yn rhan o ddatganiad mawreddog, Lywydd. Maent yn rhan o gyhoeddiad wedi'i lunio'n ofalus lle rwyf wedi ceisio glynu wrth yr ymrwymiadau a roesom y byddwn yn dechrau ar daith y trethi datganoledig mewn modd gofalus sy'n canolbwyntio ar wneud gwaith cymwys, ac sy'n caniatáu i'r bobl sy'n gorfod gwneud y gwaith ymarferol i gael system ar ôl 1 Ebrill y maent yn ei hadnabod cystal â'r un y maent yn ei defnyddio ar hyn o bryd, ond gan ganolbwyntio ar yr un pryd ar roi'r cymorth y gallwn ei gynnig i'r rhai sydd ei angen fwyaf.