Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Ar adeg etholiad y Cynulliad, roedd maniffesto'r Blaid Lafur yn addo,
'Byddwn yn cynnig toriad treth i bob busnes bach yng Nghymru'.
Rwy'n tybio mai hwn yw'r cyhoeddiad polisi sydd wedi'i gynllunio i roi effaith i'r addewid hwnnw. Nawr, gallai hynny fod wedi cael ei gyflawni mewn amryw o ffyrdd—drwy godi'r trothwyon isaf ac uchaf ar gyfer rhyddhad a chynyddu'r gyfradd, gan gyflwyno lluosydd hollt rhwng busnesau bach a mwy. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau nad yw wedi gwneud yr un o'r pethau hynny? Ac felly, i bob pwrpas, yn ôl fy nghyfrif i, bydd cyfran y busnesau bach a fydd yn elwa o'r rhyddhad y mae wedi'i gyhoeddi o gwmpas 70 y cant, ac nid pob busnes bach yng Nghymru, fel roedd yr addewid yn awgrymu.
O ran manylion yr hyn y mae wedi'i gyhoeddi, a allai roi ychydig mwy o fanylion am y cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cynlluniau ynni dŵr bach? Roeddwn yn falch iawn o weld hwnnw. Roedd yn rhan o gytundeb y gyllideb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Ond a allem gael mwy o fanylion mewn perthynas â hwnnw? Rwy'n tybio bod y cyfeiriad at y cyflog byw yn gyfeiriad at y cyflog byw go iawn, nid y cyflog byw cenedlaethol. Ac o ran y flaenraglen waith, y syniadau ar gyfer archwilio yn y dyfodol, ymddengys bod awgrym y bydd rhyddhad ardrethi busnes yn amodol yn y dyfodol. A yw'n rhagweld y bydd yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd â rhai o'r meini prawf a nodwyd yn y cynllun gweithredu economaidd ddoe o ran y cytundeb economaidd rhwng busnesau sy'n ceisio buddsoddiad a'r Llywodraeth?