Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch i Adam Price am y cwestiynau ychwanegol hynny. Lywydd, 70 y cant o eiddo busnes yng Nghymru sy'n cael cymorth gyda'u biliau ardrethi, ac nid yw mwy na hanner y rheini yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Nid 70 y cant o fusnesau bach ydyw. Mae'n 70 y cant o bob busnes. Dyna pam fod y mwyafrif helaeth—buaswn yn dweud ei bod yn anodd dod o hyd i fusnesau bach nad ydynt yn elwa o'r cymorth a ddarperir yma yng Nghymru, a'r hyn rydym wedi'i gyhoeddi yma heddiw yw bod y cymorth hwnnw yn ffynhonnell o gymorth parhaol, nid cynllun, fel y bydd yr Aelodau yma'n gwybod, y bu'n rhaid ei gyflwyno gerbron y Cynulliad bob blwyddyn heb unrhyw sicrwydd y byddai ar gael y flwyddyn wedyn.
Mae'r Aelod yn gywir yn dweud nad wyf yn argymell newid y trothwyon yn y newidiadau rydym yn eu gwneud heddiw, nac yn wir yn argymell cyflwyno lluosydd hollt. Cafodd y syniad o luosydd hollt ei wrthwynebu yn eithaf cadarn yn yr ymgynghoriad a gawsom ar newid y cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer busnesau bach. Roedd yna ymdeimlad cryf yn hynny o beth fod y ffaith bod gennym luosydd sengl yng Nghymru yn un o'r pethau sy'n ein helpu i ddenu pobl i sefydlu busnesau yma. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o gadarnhau y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr y cytunasom arno â Phlaid Cymru y llynedd ar sail untro—ein bod yn gallu dod o hyd i £5 miliwn i ymestyn hwnnw am flwyddyn arall. Bydd yn hanner y swm y gallem ei gynnig yn ystod y flwyddyn hon, ond bydd yn caniatáu i fusnesau ar y stryd fawr gael cymorth pellach yn 2018-19. Rwy'n falch o gadarnhau hefyd y bydd y pecyn hwn yn ein galluogi i ddarparu cymorth ychwanegol ym maes cynlluniau ynni dŵr bach, ac mae trafodaethau manwl ar y gweill ar hyn o bryd rhwng swyddogion polisi a'r sector ar gynllunio'r cymorth hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Lywydd, mae Adam Price yn gywir yn nodi, yn y wybodaeth rydym wedi'i chyhoeddi heddiw, fy mod i hefyd wedi gosod cyfres o syniadau rydym am barhau i'w harchwilio. Ni ddylid drysu'r ffaith ein bod wedi ymrwymo i gynllun parhaol—bydd yna bob amser gynllun—â chred na fydd y cynllun sydd gennym heddiw byth yn cael ei newid yn y dyfodol. Mae yna lawer o ffyrdd defnyddiol y credaf y gellid datblygu'r cynllun ymhellach. Ymhlith y syniadau—ac maent yn syniadau i'w trafod gyda'r sector—mae cyfres o syniadau sy'n deillio o adolygiad Barclay o ardrethi busnes a gynhaliwyd yn yr Alban eleni, a'r syniad, sydd wedi'i ddatblygu yn yr Alban eisoes er nad yw wedi cael ei roi ar waith yn llawn, o gysylltu'r cymorth y mae busnesau yn ei gael o bwrs y wlad ag amcanion allweddol polisi cyhoeddus. Sut y buasem yn gwneud hynny: yn sicr mae'r cynllun gweithredu economaidd a gyhoeddwyd ddoe yn cynnwys rhai ffyrdd y gallem wneud y cysylltiad hwnnw, a gallai'r gwaith y mae'r bwrdd gwaith teg yng Nghymru yn ei wneud ddarparu cyfres arall o ffyrdd inni allu cysylltu'r taliadau y mae cwmnïau'n eu cael o bwrs y wlad â bod yn hyderus eu bod yn cyflawni eu busnes mewn ffordd sy'n gyson â'n hamcanion polisi.