Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Ymhellach i'r pwynt hwnnw o drefn, Lywydd, rwy'n pryderu am eich dyfarniad heddiw, oherwydd rwyf wedi darllen yr hyn a ddywedodd Gareth Bennett ddoe—nid oeddwn yn y Siambr ar gyfer yr araith—ac mae'n ymddangos i mi mai pwynt dadl yw hwn yn hytrach na phwynt o drefn. Mae'r sylwadau a wnaed gan Gareth ddoe i'w gweld yn gysylltiedig â Bil arfaethedig yn Nhŷ'r Cyffredin, y Bil cydnabod rhywedd, a fydd yn cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth, mae'n debyg, erbyn tymor yr hydref y flwyddyn nesaf. Os na allwn ddadlau ynghylch y materion sy'n cael eu cynnwys mewn Bil y bwriedir iddo gael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, yna credaf fod hynny'n cyfyngu ar hawliau democrataidd y bobl yng Nghymru sy'n cael eu cynrychioli gan y rhai y maent yn eu hethol i'r lle hwn. Nawr, mae'n bosibl iawn fod yr hyn y mae Aelodau yn ei ddweud mewn areithiau yn gallu achosi dicter mewn rhai rhannau o'r gymuned, ond dyna beth y mae dadl ddemocrataidd yn aml yn ei olygu.
Hoffwn i chi, os gwnewch chi, nodi beth yn union a ddywedodd Gareth yn ei araith ddoe, pa eiriau'n union, rydych yn eu gwrthwynebu mewn perthynas â Rheolau Sefydlog y Cynulliad.