Pwynt o Drefn

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:36, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cyfraniad hwnnw. Byddwch yn gwybod na wneuthum ymyrryd ddoe. Rwy'n cymryd hawl Aelodau Cynulliad i wneud sylwadau yn y Siambr hon nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n llwyr gan Aelodau eraill yn ddifrifol iawn. Ond ar ôl myfyrio'n ofalus ynghylch y geiriau hynny a ynganwyd ddoe, nid oes gennyf amheuaeth yn fy meddwl fy hun eu bod yn arbennig o gas tuag at bobl drawsryweddol, gan gyfeirio'n benodol at 'wyro oddi wrth y norm'. Rwyf wedi gwneud fy nyfarniad ar hyn. Rwyf wedi gofyn i'r Aelod ymddiheuro ac i dynnu ei sylwadau yn ôl. Mae wedi dweud na fydd yn gwneud hynny. Ni fydd yr Aelod yn cael ei alw yn y Siambr hon yn 2018 hyd nes y bydd wedi gwneud hynny.