Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. O ystyried y sefyllfa sydd ohoni, fe gyflwynaf ran agoriadol y ddadl hon ar ran fy nghyd-Aelod Cynulliad.
Mae'r ddadl heddiw ar yr angen am dai a sut y gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd gennym yn y Cynulliad i ddiwallu'r anghenion hynny. Mae angen amrywiaeth o wahanol fathau o dai i fod o fudd i holl boblogaeth Cymru. Nid ydym ni yn UKIP yn ceisio cynnig unrhyw ateb cyflawn i'r broblem dai—mae'n her gymhleth a fydd yn galw am ateb amlweddog. Mae'r ddadl heddiw yn canolbwyntio ar un agwedd ar dai, sef tai modiwlar.
Yn ein barn ni, mae gan dai modiwlar rôl bwysig i'w chwarae yn darparu ar gyfer anghenion tai presennol a dyfodol Cymru. I fod yn deg, mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod hynny ac maent wedi clustnodi arian ar gyfer darparu'r tai modiwlar hyn. Felly, rydym wedi sefydlu bod hwn yn faes lle y gallwn gytuno â Llywodraeth Cymru i ryw raddau. A heddiw, am unwaith, nid ydynt wedi rhoi gwelliant inni sy'n dweud, 'Dileu popeth a rhoi yn ei le'. Dyna a wnânt fel arfer gyda chynigion UKIP. Yn wir, mae gan Ross, ein hymchwilydd dibynadwy, allbrint ar ei ddesg yn dweud, 'Dileu popeth a rhoi yn ei le'. Felly, heddiw, nid yw'r Blaid Lafur yn dileu popeth sydd gennym i'w ddweud—mae hynny'n destun cryn ddifyrrwch i ni, fel y gallwch ddychmygu.
Mae Llafur wedi anghytuno â phrif gorff ein cynigion penodol. Yn ddealladwy, mae'r Llywodraeth am dynnu sylw at y cynnydd y maent hwy eu hunain wedi ei wneud ym maes tai modiwlar. Roedd ein cynigion penodol yn galw am adolygu'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a'i gwneud yn haws i bobl sy'n dymuno adeiladu eu cartref eu hunain. Roeddem hefyd am annog datblygu safleoedd tir llwyd, ac rydym wedi argymell sefydlu corfforaeth datblygu tai i helpu i gaffael y safleoedd hyn a defnyddio gorchmynion prynu gorfodol, os oes angen, i ysgogi adeiladu tai ar y safleoedd hynny. Yn olaf, rydym am sefydlu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygiadau ar raddfa lai.