Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr, yn eu gwelliant, yn cytuno â thema gyffredinol ein cynnig, ond maent hefyd wedi dilyn llwybr gwahanol i ni ar rai o'r cynigion penodol, yn benodol ar yr angen am y gorfforaeth datblygu tai. Mae'n well ganddynt gymell cynghorau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach na chreu rhywbeth newydd. Byddaf yn archwilio'r mater penodol hwnnw yn nes ymlaen yn y ddadl.
Un peth y gallwn i gyd gytuno yn ei gylch mae'n debyg yw'r angen i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru. Ar yr angen go iawn am dai yng Nghymru, gwnaed ymchwil arwyddocaol gan y diweddar Dr Alan Holmans. Ef oedd pennaeth Canolfan Ymchwil Tai a Chynllunio prifysgol Caergrawnt, a chyn-uwch-gynghorydd i Lywodraeth y DU, ac fe'i hystyrid gan lawer fel yr arbenigwr mwyaf blaenllaw ar ragweld yr angen a'r galw am dai yn y dyfodol. Cyhoeddwyd adroddiad gan Dr Holmans ychydig wedi ei farwolaeth yn 2015 yn dweud y gallai Cymru fod angen cynifer â 12,000 o gartrefi newydd fforddiadwy y flwyddyn. Deillia hyn o amryw o ffactorau, gan gynnwys cynnydd annisgwyl yn nifer yr aelwydydd un person. I grynhoi, rydym wedi nodi amryw o ffactorau, ac un ohonynt yn unig yw mewnfudo. Felly, er y byddwn bob amser yn UKIP yn cyfeirio at effaith mewnfudo torfol heb reolaeth ar y farchnad dai, nid ydym ar unrhyw gyfrif yn dweud mai dyna'r unig effaith.
Rwyf wedi defnyddio'r ymadrodd 'tai fforddiadwy', felly mae'n well i mi egluro beth a olygaf wrth hynny. Mae'n cyfeirio at dai cymdeithasol neu dai yn y sector rhentu preifat sy'n fforddiadwy i bobl nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y farchnad dai breifat arferol. Ni ddylai rhent misol cartrefi fforddiadwy gostio mwy na 80 y cant o rent cyfartalog y farchnad leol. Ffigur Dr Holmans oedd 12,000 o gartrefi fforddiadwy newydd y flwyddyn; mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, ond caiff hwn ei wasgaru dros dymor Cynulliad cyfan. I bob pwrpas, bydd hyn yn golygu 4,000 y flwyddyn, ac mae ymhell o gyrraedd ffigur Dr Holmans; mewn gwirionedd, nid yw ond traean yr angen a ragwelwyd.
Yn 2014-15, adeiladwyd ychydig dros 6,000 o gartrefi newydd yng Nghymru, a rhaid i ni roi'r ffigur hwn mewn cyd-destun. Hanner can mlynedd yn ôl, yn y 1960au, roedd y diwydiant adeiladu yn adeiladu tua 20,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru. Felly, rydym bellach yn adeiladu niferoedd llai o lawer o dai, ac mae'r cydbwysedd rhwng tai preifat a thai cyngor hefyd wedi newid. Yn 1955, adeiladwyd dros 70 y cant o'r holl gartrefi newydd gan y sector cyhoeddus ar ffurf tai cyngor. Heddiw, mae'r sefyllfa honno wedi ei throi ar ei phen, ac erbyn hyn mae dros 80 y cant o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat.
Mae gan lawer o gynghorau restrau aros mawr, a byddai llawer o bobl yn dweud bod hyn yn golygu ein bod yn wynebu prinder tai, neu argyfwng tai o bosibl hyd yn oed. Wrth gwrs, rydym wedi gweld prinder tai cyn hyn yn y DU, ac rydym wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â'r prinder hwnnw. Cafwyd prinder cartrefi o ansawdd gweddus yn syth ar ôl y rhyfel byd cyntaf ac eto ar ôl yr ail ryfel byd. Y pryd hwnnw, yr ateb oedd tai parod, neu fel y mae pawb ohonom yn eu hadnabod, tai pri-ffab.
Yn y chwe blynedd ar ôl y rhyfel, adeiladwyd 150,000 o dai parod. Fel ateb dros dro yn unig y cawsant eu cynllunio, gydag oes arfaethedig o 10-15 mlynedd yn unig. Parhaodd llawer o'r tai parod hyn yn llawer hwy na'u hoes arfaethedig; mae rhai yn dal i sefyll a phobl yn dal i fyw ynddynt, a rhaid eu bod yn 65 oed o leiaf. Roedd llawer o'r bobl a oedd yn byw mewn tai parod yn meddwl y byd ohonynt ac yn datgan eu bod lawn cystal ag unrhyw fath arall o dŷ.