7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tai modiwlar

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:25, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Gyda'r tai parod hyn, gwelwyd troi cefn ar frics, a defnyddio fframiau pren, fframiau dur a fframiau alwminiwm yn lle hynny. Yn wir, mae rhai pethau'n debyg rhwng y tai parod wedi'r rhyfel a'r cartrefi modiwlar sy'n cael eu codi heddiw, er bod y niferoedd yn fach. Adeiladir cartrefi modiwlar mewn rhannau yn y ffatri a'u cludo i'r safle. Yno, cânt eu gosod ar sylfaen a wnaed yn barod, eu cysylltu a'u cwblhau gan yr adeiladwr.

Gyda thai modiwlar, mae canran sylweddol ohonynt wedi'u creu o ffrâm bren ar sylfaen goncrid. Maent yn eithaf unigryw, a gall prynwyr ofyn am ymgorffori nodweddion ychwanegol yn y cynllun, megis cydrannau plastr a gwydr. Y syniad yw y gellir bolltio'r rhannau at ei gilydd. Daw'r cydrannau yng nghefn lori a chânt eu rhoi at ei gilydd ar y safle. Mae'n debyg i dŷ pecyn fflat mawr.

Gellir adeiladu cartrefi modiwlar yn gyflym ac yn effeithlon, a gellir ychwanegu at yr eiddo yn ddiweddarach. Gan fod yr adeiladau yn cynnwys ynni ymgorfforedig, sydd wedi'i gloi yn y gwead o ganlyniad i'r broses adeiladu, maent yn ffurf hynod gynaliadwy o adeiladu. Yn achos adeiladau traddodiadol, caiff yr egni hwn ei golli pan gaiff tŷ ei ddymchwel. Yn achos adeiladau modiwlar, fodd bynnag, caiff yr ynni ymgorfforedig ei gadw pan fydd yr adeilad yn cael ei symud i safle arall, gan leihau effaith tirlenwi.

Ceir gwahanol fathau o gartrefi modiwlar. Gallant gynnwys cartrefi di-garbon, er enghraifft, sef anheddau heb unrhyw allyriadau carbon net o'u defnydd ynni. Gellir cyflawni hyn drwy leihau eu defnydd o ynni gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy, neu gyfuniad o'r ddau. Felly, gallai'r nodweddion gynnwys toeon â phaneli solar a phaneli inswleiddio arbennig. Fel y nodais yn gynharach, mae'r rhan fwyaf o gartrefi modiwlar yn debygol o fod yn defnyddio ynni'n effeithlon beth bynnag, oherwydd y deunyddiau cynaliadwy a ddefnyddir i'w hadeiladu. Ond byddai ymgorffori rhai o'r nodweddion eraill hyn yn golygu y gallech gael cartrefi modiwlar a fyddai hefyd yn gartrefi di-garbon. Yn ddamcaniaethol, gallai rhai o'r rhain gynhyrchu mwy o ynni nag y byddant yn defnyddio mewn gwirionedd, a gallent allforio ynni i'r grid cenedlaethol yn y pen draw. Mae rhai o'r Aelodau sydd yma heddiw wedi gweld hyn ar waith yn rhan o brosiect Tŷ SOLCER, a adeiladwyd gan Ysgol Bensaernïaeth Cymru, sef tŷ ynni clyfar cost isel cyntaf Cymru.

Syniad cymharol newydd arall yw'r cartref a wneir o gynhwysydd llongau. Gellir comisiynu'r rhain yn gyflym iawn gyda gwneuthurwyr yn honni y gellir eu darparu o fewn llai na phedair wythnos i dderbyn yr archeb. Mae'r unedau'n fodiwlar a gellir eu gosod un ar ben y llall neu ochr yn ochr, neu gefn wrth gefn, naill ai i ymestyn y gofod byw neu i greu blociau o unedau. Ym Mryste, mae prosiect wedi bod ar waith ers tua blwyddyn i helpu 40 o bobl ddigartref drwy ddarparu cartrefi o gynwysyddion llongau. Mae Cyngor Dinas Bryste wedi rhoi llain o dir iddynt er mwyn sicrhau dyfodol y prosiect. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi eu bod yn teimlo y gallai'r syniad o greu cartrefi o gynwysyddion llongau helpu gyda phroblem ddigartrefedd yn y tymor byr.

Math arall o gartref modiwlar yw'r cartref hunanadeiladu. Awgrymodd arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu yn 2011 fod 53 y cant o bobl, mwy na hanner y boblogaeth, yn ystyried adeiladu eu cartref eu hunain pe baent yn cael cyfle. Ar un o brif wefannau'r DU ar gyfer dod o hyd i leiniau tir, ceir hysbysebion ar gyfer 60 o gartrefi hunanadeiladu yng Nghymru. Ceir lefelau llawer is o hunanadeiladu yn y DU na'r hyn a welir mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae llai na 10 y cant o adeiladau newydd yn y sector hunanadeiladu, er bod tua 80 y cant o dai a gwblhawyd yn Awstria yn gartrefi hunanadeiladu. Yn Ffrainc, mae'r lefel yn agos at 60 y cant, ac mae'r un peth yn wir yn yr Almaen ac Iwerddon. Yn UDA, mae'n 45 y cant. Yr Iseldiroedd sydd agosaf at y DU yng ngorllewin Ewrop, ond hyd yn oed yn yr Iseldiroedd mae'r cyfanswm yn agos at 30 y cant.

Yn Lloegr, o dan Ddeddf Tai a Chynllunio 2016, mae cynghorau lleol yn gorfod ystyried sut y gallant gefnogi hunanadeiladu yn y ffordd orau. Nid oes unrhyw rwymedigaeth o'r fath ar gynghorau lleol yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn 2013, nododd adroddiad gan Brifysgol Caerefrog gyfres o heriau i brosiectau hunanadeiladu. Mae'r rhain yn cynnwys cyflenwad tir a chaffael tir, mynediad at gyllid, y broses gynllunio a rheoleiddio cyffredinol a biwrocratiaeth. Ar fater pwysig cyllid, mae benthycwyr yn tueddu'n gyffredinol i weld benthyciadau hunanadeiladu fel risg uwch. Nid oes unrhyw grant ar gael gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i bobl sydd eisiau hunanadeiladu.

Llaciodd Llywodraeth Cymru rai o'r gofynion cynllunio er mwyn galluogi datblygiad Lammas, eco-bentref gwledig yng ngogledd Sir Benfro, felly cafwyd rhywfaint o hyblygrwydd yn y maes hwn.

Rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau ym maes tai arloesol. Nid ydym yn ceisio lladd ar eu hymdrechion. Nid dyna yw diben y ddadl heddiw; rydym yn gwyntyllu'r syniad o rai argymhellion penodol a allai helpu i gyflawni'r nodau y mae pawb ohonom yn eu rhannu o ddarparu mwy o dai fforddiadwy gwell yng Nghymru.

Rydym am adolygu'r broses gynllunio fel y gallwn gael gwared ar beth o'r fiwrocratiaeth. Felly, yn ddelfrydol hoffem ymestyn yr hyn a wnaethant yng ngogledd Sir Benfro i Gymru gyfan. Byddem yn gofyn am yr un rhwymedigaeth ar gynghorau lleol i ddyrannu tir ar gyfer prosiectau hunanadeiladu ag sydd ganddynt yn Lloegr, felly byddai dyletswydd ar gynghorau i neilltuo lleiniau o dir ar gyfer hunanadeiladu yn eu cynlluniau datblygu lleol.

Mae bancio tir yn broblem a gafodd ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyflwyno'r syniad y gellid defnyddio pwerau trethiant i fynd i'r afael â phroblem bancio tir ar ffurf treth ar dir gwag. Nawr, dyna argymhelliad treth a allai'n hawdd ddenu cefnogaeth gan UKIP, oherwydd rydym eisiau sicrhau bod datblygu'n digwydd mewn cyfnod eithaf byr o amser lle y cafodd tir ei brynu. Ond fe arhoswn i weld yr argymhellion treth penodol gan Mark Drakeford ac nid ydym wedi cynnwys unrhyw beth yn y cynnig heddiw ar y mater hwnnw.

Yr hyn rydym wedi galw amdano yw corfforaeth datblygu tai fel y gellir prynu safleoedd tir llwyd yn gyflym ac yn gosteffeithiol. Credwn y gall sefydliad gydag arbenigedd penodol ym maes eiddo helpu i hwyluso adeiladu ar safleoedd tir llwyd. Gellid defnyddio gorchmynion prynu gorfodol i gaffael y safleoedd hyn os na cheir unrhyw ddatblygiad o fewn cyfnod o dair blynedd. Felly, gallai hwnnw fod yn ddewis amgen yn lle'r syniad o drethu safleoedd gwag, neu gallent weithio gyda'i gilydd o bosibl.

Mae angen corff i nodi'r safleoedd hyn yn y lle cyntaf, felly mae ein cynnig olaf yn galw ar y gorfforaeth datblygu tai hefyd i lunio cofrestr o safleoedd tir llwyd perthnasol y gellid eu datblygu yng Nghymru. Felly, dyna ein cynigion ac rydym yn awyddus i glywed beth yw barn yr Aelodau eraill yn eu cylch, felly rydym yn aros yn eiddgar am eich ymatebion.