Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl hon? Credaf ei fod yn bwnc pwysig iawn mewn gwirionedd ac yn ffordd o fynd i'r afael â'r her dai yng Nghymru. Rwy'n gobeithio ein bod yn datblygu lefel o gonsensws y tu hwnt i'n dulliau confensiynol traddodiadol arferol o adeiladu tai.
Roeddwn yn falch iawn, mewn gwirionedd, o sylwi bod hyd yn oed Llywodraeth Cymru i'w gweld yn symud ychydig yn y maes hwn. Yn y datganiad ym mis Hydref a gyflwynai'r rhaglen tai arloesol, un elfen a gafodd ei chynnwys oedd tai modiwlar. Felly, credaf ein bod yn gwthio yn erbyn drws sy'n agored, i ddefnyddio ymadrodd priodol.
Yn fy ymateb i'r datganiad hwnnw, siaradais ynglŷn â sut y gobeithiwn y byddai Llywodraeth Cymru yn adeiladu rhagor o dai modiwlar. Rwy'n falch o weld bod UKIP wedi nodi hyn hefyd ac yn rhannu gweledigaeth ar gyfer ei ddefnyddio'n fwy eang, yn enwedig yn rhai o'r amgylchiadau newidiol a'r cymunedau trefol rydym bellach yn eu gweld yn datblygu, yn rhannol mewn ymateb i'r math newydd o dai sydd eu hangen arnom.
Fel y nodwyd eisoes—. Yn gyffredinol, roeddwn am fod mor adeiladol â phosibl gyda'r cynnig, felly nid wyf ond wedi ei ddiwygio lle rydym yn anghytuno'n bendant, sef yr argymhelliad ynghylch corfforaeth dai, gyda'r nod o gynnwys llawer mwy o safleoedd tir llwyd. Rwy'n rhannu'r amcan yn llwyr, ond rwy'n meddwl bod hon yn ffordd braidd yn fiwrocrataidd o'i wneud a chredaf fod digon o ddulliau ar gael i'r Llywodraeth wneud hyn ac mae angen iddynt fynd ati i sicrhau canlyniadau gwell, rwy'n credu, o ran y cyflenwad tir. Ac nid yw'n ymwneud yn unig â safleoedd tir llwyd, ond maent yn ffynhonnell bwysig.
Mae angen inni adeiladu ar—. Yn amlwg, mae angen inni ryddhau mwy o dir os ydym am weld mwy o adeiladu tai. Mae'n bwysig iawn inni edrych o gwmpas a bod yn greadigol ac edrych ar y sector cyhoeddus. Mae llawer o dir yn weddol segur neu gellid ei ddefnyddio mewn ffordd fwy arloesol ac yn fwy economaidd, gan ryddhau tir ar gyfer datblygu. Felly, dyna pam rydym wedi diwygio'r cynnig.
Fel y dywedodd David, mae gan dai modiwlar, neu'r hyn yr arferem eu galw'n dai parod, hanes ardderchog. Roeddent yn rhan ganolog o ddatrys yr argyfwng ym maes adeiladu tai ar ôl y rhyfel. Roedd yr her a wynebent y tu hwnt i unrhyw beth a brofodd y genedl cyn hynny yn sgil dinistr yr ail ryfel byd. Adeiladwyd niferoedd helaeth, fel y disgrifiodd David. Pan edrychwn ar y cyfleoedd heddiw, credaf y dylem ystyried y rôl a chwaraeent y pryd hwnnw. Roedd llawer o'r unedau tai a adeiladwyd yn arloesol ar y pryd, ac roeddent yn boblogaidd—pwynt a wnaeth David. Rwy'n cofio ymgyrchu, yn erbyn Jane Hutt dylwn ddweud, mewn stryd gyfan o dai parod a oedd wedi goroesi yn y Barri, ac roedd y trigolion yn hapus iawn gyda'r ffordd honno o fyw. Roedd yn gynllun cyfleus iawn. Cefais fy nhywys o amgylch. Nid wyf yn siŵr a bleidleisiodd y person i mi, ond dyna ni. [Chwerthin.] Nid oeddwn yn llwyddiannus yn yr un o'r ddwy etholiad a ymladdais yno. Ond mae'n dangos y gall y dulliau hyn yn sicr fod yn rhai sy'n arwain y sector, a hyd yn oed yn fwy felly heddiw o ran cyflymder adeiladu a chost—oddeutu dwywaith mor gyflym a hanner mor ddrud. Ceir llawer o syniadau arloesol yn ogystal—deunyddiau newydd, sy'n dibynnu llai ar ynni, a gallant hefyd arwain at arbrawf anhygoel SOLCER, lle rydych yn cynhyrchu ynni mewn gwirionedd o'r tŷ yn hytrach na'i ddefnyddio. Felly, mae yna lawer o gyfleoedd yn hynny o beth.
Rwy'n meddwl ei fod hefyd yn caniatáu inni edrych ar y posibilrwydd o ddatblygiadau dwysedd uwch—nid adeiladau uchel iawn—lle y ceir mwy o rannu cyfleusterau, er enghraifft. Nid pawb sydd am ardd i'w chynnal. Rwy'n dweud yn aml wrth bobl pan ewch i ardaloedd crand yn Llundain, fel Belgravia, mae gan bawb allwedd i'r ardd ganolog; nid oes ganddynt ardd eu hunain. Ystyrir bod cael mynediad i'r gerddi hynny'n fantais gymdeithasol fawr. Felly, mae yna ffyrdd o adeiladu tai digon mawr i deulu yn effeithlon iawn a dileu tlodi tanwydd o bosibl oherwydd byddech yn cael arian yn ôl o'ch cartref mewn gwirionedd.
A gaf fi ddweud i orffen, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn credu bod busnesau bach a chanolig mewn sefyllfa dda iawn i fanteisio yn y sector hwn? Hefyd, byddai'r diffyg sydd gennym o ran rhai sgiliau adeiladu yn cael ei ddatrys yn gyflymach yn y sector hwn. Ceir llawer o gyfleoedd yno. Credaf eu bod wedi bod heb eu caru yn rhy hir, a dylem weld ei bod hi'n bryd cael dadeni ym maes adeiladu modiwlar. Unwaith eto, diolch i UKIP.