1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2018.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i nodi canmlwyddiant y bleidlais i fenywod? OAQ51524
Byddwn yn cymryd rhan lawn yn y dathliadau ledled y DU ar gyfer canfed pen-blwydd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Bydd mwy o fanylion am sut y byddwn yn dathlu'r canmlwyddiant hwnnw trwy gydol y flwyddyn ar gael y mis hwn.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Ym mis Tachwedd 2017, dangosodd data gan Fforwm Economaidd y Byd waethygiad y bwlch rhwng y rhywiau o flwyddyn i flwyddyn am y tro cyntaf ers 2006. A dweud y gwir, mae'r grŵp yn rhagweld y byddai'n cymryd canrif i gau'r holl feysydd cydraddoldeb y mae'n eu monitro yn fyd-eang, cynnydd sylweddol o'r 83 mlynedd a ragwelwyd yn 2016. Maen nhw'n rhagweld y bydd yn rhaid i fenywod aros 217 mlynedd cyn y byddan nhw'n ennill cymaint â dynion ac yn cael eu cynrychioli'n gyfartal yn y gweithle. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i gefnogi nod Chwarae Teg o wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau gyda'u meincnod cyflogwr chwarae teg, ac ymgorffori hwn yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru?
Gwnaf. Rydym ni'n gweithio gyda busnesau, undebau llafur ac eraill ar weithredu'r cynllun, y cynllun gweithredu economaidd, a bydd hwnnw'n cael ei lywio gan gyngor ac argymhellion y bwrdd gwaith teg. Gan ein bod ni wedi gofyn i'r bwrdd gwaith teg roi argymhellion i ni, ni fyddai'n briodol achub y blaen ar eu canfyddiadau trwy ymrwymo i feincnod Chwarae Teg ar hyn o bryd. Ond rwy'n croesawu'n fawr iawn menter Chwarae Teg o ddatblygu'r meincnod, a fydd yn helpu i gynorthwyo sefydliadau i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle.
Gan mlynedd ar ôl i fenywod gael y bleidlais a bron i 50 mlynedd ar ôl Deddf Cyflog Cyfartal 1970, mae'n warthus bod gennym ni fwlch cyflog o tua 13 y cant rhwng y rhywiau yma yng Nghymru o hyd. Yn ddiddorol ddigon, mae'r bwlch cyflog uchaf yng Nghymru yn eich etholaeth chi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'n ganran rhyfeddol o 27 y cant. Prif Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd neu ydych chi wedi eu cymryd, gan edrych ar eich etholaeth eich hun efallai, i fynd i'r afael â hyn, ond yn fwy eang ledled Cymru? Oherwydd chi yw'r Prif Weinidog, a chi sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod cydraddoldeb gwirioneddol ledled Cymru i ddynion ac i fenywod.
Yn gyntaf oll, cyflwynwyd dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus gennym ni yn 2011 i fynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog a chyflogaeth, a gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau bryd hynny yn benodol. Mae'r dyletswyddau hynny yn berthnasol yng Nghymru. Maen nhw'n eang, ac yn cynnwys yr angen i ddeall ac ymdrin ag achosion gwahaniaethau cyflog i bawb. Mae gwella lle menywod yn y gweithlu yn newid strwythurol tymor hir. Rydym ni'n gwybod bod mwy i'w wneud—dywedodd yr Aelod hynny, wrth gwrs—trwy raglenni fel ein prosiect Cenedl Hyblyg 2, sy'n cael ei redeg gan Chwarae Teg. Rydym ni'n gweld, gyda'r hyfforddiant a'r cymorth priodol, y gallwn ni helpu menywod i symud i mewn i swyddi rheoli ac uwch. Ac, wrth gwrs, fel y soniais yn gynharach, bydd y cynllun gweithredu economaidd yn cael ei lywio gan yr argymhellion sy'n deillio o'r bwrdd gwaith teg.
Mae'n bwysig cofio beth yn union ddigwyddodd yn 1918, wrth gwrs, pan gafodd menywod bleidleisio am y tro cyntaf, ond nid oedd yna ddim cydraddoldeb efo dynion. Roedd dynion 21 oed yn cael pleidleisio, ond roedd yn rhaid i fenywod fod yn 30 oed ac yn berchen ar eiddo. Mi gymerodd hi 10 mlynedd arall cyn i ferched a dynion gael eu trin yn gydradd fel pleidleiswyr. Wrth gwrs, rydw i'n siŵr eich bod yn cytuno ein bod yn bell o fod mewn sefyllfa o gydraddoldeb rhwng menywod a dynion yng Nghymru. Rydym ni newydd glywed am y gender pay gap.
A ydych chi'n cytuno bod adroddiad 'Senedd Sy'n Gweithio i Gymru', sy'n argymell integreiddio cwota rhywedd i'r system etholiadol ar gyfer etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol, yn rhywbeth i fynd ar ei ôl o? Ac a ydych chi'n cytuno, os bydd y Cynulliad yn mabwysiadu dull STV, y dylai hi fod yn ofynnol drwy gyfraith i bob plaid gyflwyno hanner ei hymgeiswyr yn fenywod a'r hanner arall yn ddynion?
Nid ydw i yn erbyn hynny mewn egwyddor o gwbl. Mae yna lot o bethau i'w trafod ynglŷn ag STV, er enghraifft, a'r ffordd o ethol Aelodau i'r lle hyn. Mae record—wel, edrychwch ar feinciau Llafur Cymru yma. Ond mae beth mae wedi ei ddweud, a ddylem ni ystyried neu ddadlau a ddylai fod yna gyfartaledd rhwng menywod a dynion yn y lle hwn, rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y dylem ni ei drafod er mwyn sicrhau bod y record da sydd wedi bod gyda ni dros y blynyddau yn parhau yn y pen draw.