4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cod Erlyn Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:50, 9 Ionawr 2018

A allaf i groesawu datganiad y Cwnsler Cyffredinol? A allaf i hefyd groesawu'r bwriad a hefyd croesawu ymddangosiad cod erlyn Llywodraeth Cymru, achos mae hyn yn adeiladau ar gael pwerau deddfwriaethol yma yng Nghymru? Wrth gwrs, fe fydd y Cwnsler Cyffredinol yn rhy ifanc i gofio Deddfau Hywel Dda ar y pryd, dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl, ond rydym wedi cael y gallu yma yng Nghymru i greu deddfwriaeth o'r blaen ac i erlyn pobl, felly rwy'n gweld hyn fel cam cyntaf i adennill y tir deddfwriaethol. Dyna pam y cewch chi groeso cynnes o'r blaid hon am eich bwriad. 

Wrth gwrs, mae yna rai heriau, achos, fel rydych wedi crybwyll eisoes, ac mae'n wybyddus i bawb fod cyfiawnder troseddol fel y mae e heb ei ddatganoli, ond mae gan y Llywodraeth yn fan hyn rym i erlyn pobl sydd yn troseddu yn y meysydd datganoledig yna—fel rydych wedi crybwyll: pysgodfeydd, lles anifeiliaid, bwyd, gofal cymdeithasol a phlant. Wrth gwrs, mae yna her yn mynd i ddod pan mae'r broblem neu'r drosedd yn cael ei gweld yn fwy difrifol na beth sydd gyda ni'r pwerau i'w herlyn nhw o dan jest y meysydd datganoledig. Fe fuaswn i jest eisiau gwybod mwy am y broses, ond rwy'n croesawu'r bwriad i gael y cefndir clir yma rydych chi'n datgan i'r cod, a bod y cod yma'n mynd i fod yn glir ac yn hygyrch ac yn gymesur efo'r gwaith. Achos mae'n bwysig iawn—er taw dim ond y grym i erlyn pobl sy'n troseddu ym meysydd datganoledig sydd gyda ni ar hyn o bryd, mae'r meysydd hynny, er hynny, yn feysydd pwysig iawn. Mae diogelu ein hadnoddau naturiol yn allweddol bwysig. Mae'n bwysig felly eich bod chi fel Cwnsler Cyffredinol yn gallu cael y grym i fynd i'r afael efo'r her yna. 

Rwy'n dilyn cwestiwn David Melding ynglŷn â deddfwriaeth hawliau dynol yn yr un un achos yna o feddwl sut mae materion gweddol ddifrifol mewn meysydd datganoledig yn mynd i gael eu delio efo nhw pan mae gyda chi ddau gwahanol god, fel rydych wedi awgrymu—eich cod chi a hefyd cod y CPS. Mae her yn fanna. Fe fuaswn i'n eich cefnogi chi i wthio pob maen i bob wal a sicrhau bod pob ffin yn cael ei gwthio i'r eithaf i sicrhau bod eich cod erlyn chi fel Llywodraeth yn cael digon o rym i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud beth rydym ni'n disgwyl iddo fe ei wneud. Achos ar ddiwedd y dydd, beth rydym ni eisiau gweld yn y fan hyn wrth inni gamu ymlaen a chael rhagor o ddatganoli ydy, wrth gwrs, gwasanaeth erlyn Cymreig hefyd, a hefyd awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig sydd ar wahân i awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr, sydd gyda ni ar hyn o bryd.

Yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth gwrs, rydym wedi bod yn craffu ar ddeddfwriaeth yn y lle yma sydd nawr yn naturiol ddwyieithog, ac mae yna her yn hynny hefyd yn sut rydym ni'n datblygu Deddfau wrth fynd ymlaen, a sut rydym ni'n erlyn pobl yn y meysydd datganoledig yma wrth fynd ymlaen hefyd. Roeddwn i'n gweld un o'r ymadroddion yn yr ymgynghoriad yn dweud, 'Wel, beth am yr iaith Gymraeg, felly?' ac 'A ydy'n bosib i herio ac i erlyn yn yr iaith Gymraeg?', a buaswn i'n gobeithio y buasech ni'n gallu cyfiawnhau a chadarnhau ei bod hi yn bosib erlyn rhywun yn y meysydd yma drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. 

Wrth gwrs, wrth imi gloi rŵan, mae angen inni fod yn cysoni Deddfau newydd wrth fynd ymlaen hefyd. Rydym ni wedi cael sôn yn y Siambr hon o'r blaen am yr angen i wneud hynny—cydredeg Deddfau newydd efo'r hen rai a hefyd dod â'r agwedd ddwyieithog yma i mewn iddo fe, fel ein bod ni yn y pen draw yn gallu symleiddio pob cod cyfreithiol sydd yn mynd ymlaen. A allaf i ofyn i chi egluro faint o waith ehangach sydd yn digwydd yn nhermau yr angen i wneud yn siŵr bod cod erlyn eich Llywodraeth chi yn mynd i fod yn llwyddiannus yn hyn o beth?

Y pwynt sylfaenol, wrth gwrs, ydy eich bod wedi sôn am beth sy'n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac ati, a gyda'r holl sôn am erlyn a deddfwriaeth rydym ni ar y meinciau hyn yn gredwyr cryf yn yr angen i ddatganoli y materion hyn ta beth yn eu cyfanrwydd. Mi fuasai yn symleiddio'r broses. Fuasech chi ddim yn cael y mur yma rhwng eich cod chi a chod y CPS wedyn. Buasai'n llawer haws petai'r heddlu wedi eu datganoli yma yn y lle cyntaf, fel y mae i'r Alban a Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion hyd yn oed. Pe bai'r llysoedd, y gwasanaeth prawf, carchardai ac ati i gyd wedi eu datganoli i'r lle yma, mi fuasai yn gwneud eich gwaith chi o ddatblygu'r cod erlyn yma yn llawer haws ac yn llawer cryfach hefyd. A fuasech chi yn cytuno efo'r bwriad yna taw'r ffordd ymlaen ydy gweithio yn gyson i ddatganoli rhagor o bwerau deddfwriaethol i'r Siambr yma? Diolch yn fawr.