Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 9 Ionawr 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gyfrifoldebau erlyn mewn cysylltiad â'i swyddogaethau. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn ymwneud yn bennaf â lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd, a physgodfeydd. Pan fo cyfreithiau’n creu rhwymedigaethau rheoleiddiol a throseddau cysylltiedig, rhaid sicrhau eu bod yn cael eu gorfodi’n briodol er budd llywodraethu da, ac ni fydd yn syndod i Aelodau, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr angen i orfodi’r materion hyn o ddifrif.