4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cod Erlyn Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:39, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r camau gorfodi a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru o ran lles anifeiliaid a chynhyrchu bwyd wedi arwain at erlyniadau. Yn fwyaf diweddar, er enghraifft, cafwyd erlyniad yn enw'r Cwnsler Cyffredinol am drosedd â rheoliadau CE o ran marchnata wyau a thwyll. Rwy'n falch o ddweud bod yr erlyniad hwn wedi arwain at euogfarn, dirwy a gorchymyn enillion troseddau. Mae'r achos hwn, ac eraill tebyg, yn ein hatgoffa pan fydd torcyfraith yn dod i'r amlwg—yn yr achos hwn, o fewn y diwydiant wyau yng Nghymru— y dylai troseddwyr fod yn gwbl sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gynnal y gyfraith.

O ran pysgodfeydd, mae swyddogion gorfodi morol sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru wedi ymchwilio i nifer o droseddau yn erbyn deddfau pysgodfeydd yn nyfroedd Cymru, gan arwain at nifer o erlyniadau llwyddiannus. Mae'r erlyniadau hyn yn diogelu uniondeb a chynaliadwyedd y sector pwysig hwn. Er hynny, nid yw ein cyfrifoldebau erlyn yn dod i ben gyda hynny. Mae gennym hefyd gyfrifoldebau erlyn o ran gweithgaredd a reoleiddir ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal iechyd annibynnol a gofal plant. Felly, gellir dwyn erlyniadau yn erbyn unigolion sy'n ddarparwyr cofrestredig yn un o'r meysydd hynny am dorri gofynion rheoliadol. Yn yr un modd, gellir dwyn erlyniadau yn erbyn unigolion sy'n cyflawni gweithgareddau rheoleiddiedig heb fod wedi eu cofrestru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i erlyniad teg ac effeithiol fel ffordd o gynnal cyfraith a threfn, amddiffyn unigolion, y cyhoedd a'n hadnoddau, a sicrhau bod pob un ohonom yn byw mewn cymdeithas ddiogel a chyfiawn. Mae penderfyniad i erlyn neu hyd yn oed argymell rhybudd yn gam difrifol iawn sy'n effeithio nid yn unig ar yr unigolyn sydd dan amheuaeth mewn achos, ond yn effeithio ar bawb sy'n gysylltiedig â'r achos, yn ddioddefwyr a thystion yn benodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn cadw hyder y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau o ran erlyniadau. Rhan fawr o hynny yw esbonio sut yr ydym yn gwneud ein penderfyniadau a'r egwyddorion sydd yn gymwys wrth wneud y penderfyniadau hynny. Rhaid cymryd pob penderfyniad i erlyn yn deg, yn ddiduedd ac yn ddidwyll. Rwyf felly wrth fy modd o ddatgan heddiw fy mod wedi cyhoeddi Cod Erlyn Llywodraeth Cymru.

Yn Gwnsler Cyffredinol, rwy'n gyfrifol yn gyffredinol am benderfyniadau erlyn yn Llywodraeth Cymru, er y gwneir rhai penderfyniadau erlyn yn enw Gweinidogion Cymru o dan statud. Ym mhob achos, mae angen i mi ystyried a yw'n achos sy'n addas ar gyfer ei erlyn. Hyd yn hyn, gwnaed hynny drwy gyfeirio at God Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer erlynwyr y goron. Fodd bynnag, o heddiw ymlaen bydd pob penderfyniad erlyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wneud drwy gyfeirio at god erlyn Llywodraeth Cymru. Mae cod Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar god presennol Gwasanaeth Erlyn y Goron ond wedi ei addasu i gymryd swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru i ystyriaeth.

Cafodd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron CPS ei ddatblygu yn bennaf i'w ddefnyddio mewn perthynas â thramgwyddau troseddol prif ffrwd. Mae felly yn cymryd i ystyriaeth y math o erlyniadau sy'n cael eu cychwyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu. Mae'n anochel nad yw rhannau o god Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gymwys i Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynnwys prawf trothwy sy'n gymwys i achosion dalfa. Yng ngoleuni hyn, ac ynghyd â'r ffaith bod swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru yn parhau i dyfu, mae'n briodol i Lywodraeth Cymru gael ei chod erlyn ei hunan. Bydd y cod hwn, sydd wedi ei deilwra'n benodol, yn sicrhau y gwneir penderfyniadau teg a chyson am erlyniadau gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cod newydd yn pennu fy ngallu cyffredinol i ddechrau erlyniadau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ymhellach, mae'r cod yn cynnwys y prawf erlyniad, a fydd yn berthnasol i holl achosion erlyn. Mae dau gam ar wahân i'r prawf hwn: yn gyntaf, prawf y dystiolaeth ddigonol, ac yn ail, cam lles y cyhoedd. Mae'r cam tystiolaeth ddigonol yn ei gwneud yn ofynnol i'r erlynydd gael ei fodloni bod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn yn erbyn pob un sydd dan amheuaeth ar gyfer pob trosedd. Mae cam lles y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fynd ymlaen i ystyried a yw erlyniad yn ofynnol er lles y cyhoedd.