– Senedd Cymru am 4:03 pm ar 9 Ionawr 2018.
Eitem 5 ar agenda yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018. Rwy'n credu y bydd angen mwy o amser arnoch ar gyfer hyn os y bydd yn rhaid i chi ailadrodd hynny o hyd. Felly, rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i symud y cynnig hwnnw. Mark Drakeford.
NDM6618 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2017.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw.
Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei adroddiad ar y rheoliadau. Mae'r rheoliadau o flaen y Cynulliad y prynhawn yma yn diwygio rheoliadau gostyngiadau'r dreth gyngor 2013. Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddileu budd-dal y dreth gyngor o 1 Ebrill 2013 ymlaen, a phasio'r cyfrifoldeb am ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Fe wnaethon nhw hefyd wneud 10 y cant o doriad i'r cyllid ar gyfer y cynllun. Ymatebodd Llywodraeth Cymru trwy ddarparu cyllid i alluogi tua 300,000 o aelwydydd llai cefnog yng Nghymru i barhau i gael hawl i gymorth. Mae angen y ddeddfwriaeth ddiwygio er mwyn gwneud yn siŵr bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl pob aelwyd i ostyngiad yn y dreth gyngor yn cael eu codi i gymryd i ystyriaeth bod costau byw wedi cynyddu.
Gydag ychydig yn fwy o fanylder, Dirprwy Lywydd, yn y rheoliadau gerbron y Cynulliad y prynhawn yma, mae'r ffigurau ariannol ar gyfer pobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr ar gyfer 2018-19 yn cynyddu yn unol â mynegai prisiau defnyddwyr, hynny yw, 3 y cant. Mae hyn yn cyferbynnu â pholisi Llywodraeth y DU o rewi budd-daliadau pobl o oedran gweithio tan 2019-20. Y bwriad yw cynyddu'r ffigurau sy'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn y rheoliadau i fod yn unol â gwariant isafswm incwm safonol Llywodraeth y DU ac adlewyrchu'r uwchraddio o ran budd-dal tai. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyfyngiadau newydd ar fudd-dal tai i deuluoedd gyda dau o blant neu fwy, a phlentyn wedi ei eni ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017. Mae hynny'n ychwanegol at y cyfyngiadau a gyflwynwyd o fis Ebrill 2016, sydd yn dileu'r premiwm teulu ar gyfer genedigaethau newydd a hawliadau newydd am fudd-dal tai. Nid wyf i'n bwriadu mabwysiadu'r newidiadau hyn o ran gostyngiadau'r dreth gyngor yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i amddiffyn teuluoedd ar incwm isel yr effeithiwyd arnynt gan ddiwygiadau lles rhag toriadau pellach yn eu hincwm.
Wrth wneud y rheoliadau hyn, cafwyd cyfle hefyd i gynnwys mân newidiadau technegol ac i wneud newidiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau a thaliadau cysylltiedig. Er enghraifft, o fis Ebrill 2018, bydd nifer o fudd-daliadau a thaliadau ychwanegol, os cymeradwyir y rheoliadau hyn, yn cael eu diystyru o ran cyfrifo'r gostyngiadau i'r dreth gyngor. Mae'r rhain yn cynnwys y taliadau cymorth profedigaeth newydd, y grant cynllun gwaed heintiedig, a'r grant iechyd thalidomid ymysg eraill. Ni fydd y rhai sy'n derbyn cymorth o'r fath yng Nghymru dan anfantais wrth gael help gyda'u treth gyngor.
Mae'r rheoliadau hyn, Dirprwy Lywydd, yn cadw'r hawl am ostyngiad yn miliau treth gyngor ar gyfer aelwydydd yng Nghymru. Gwnaed darpariaeth o £244 miliwn yn y gyllideb am 2018-19 at y dibenion hyn. O ganlyniad i'r cynllun, bydd tua 220,000 o aelwydydd sydd o dan y pwysau mwyaf yng Nghymru yn parhau i dalu dim treth gyngor yn 2018-19. Gwn fod gan y cynllun gefnogaeth gref ymysg Aelodau mewn gwahanol rannau o'r Siambr hon ers ei gyflwyno yn 2013, ac rwy'n gobeithio y bydd y gefnogaeth hon yn ymestyn i gymeradwyaeth o'r rheoliadau ger eich bron y prynhawn yma.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadaol, Mick Antoniw?
Diolch ichi am hynny. Rhoddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ystyriaeth i'r offeryn hwn yn ein cyfarfod ar 11 Rhagfyr. Adroddwyd ar un pwynt rhinweddol a nodwyd o dan Reol Sefydlog 21.3. Mae'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth yn gymhleth a thechnegol iawn o'i ddarllen ar ei ben ei hun. Mae'r memorandwm esboniadol sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau hyn yn defnyddio iaith bob dydd i esbonio'r newidiadau technegol a wneir ac mae'n help mawr i'r darllenydd i wneud synnwyr o'r ddeddfwriaeth. Roedd y pwyllgor yn gwerthfawrogi'r dull defnyddiol hwn, o ystyried pa mor gymhleth fo'r ddeddfwriaeth. Fel Cadeirydd y pwyllgor, ac ar ran y pwyllgor, rwy'n gwybod y byddwch yn falch iawn ac yn hapus i wybod mai barn y pwyllgor oedd y dylid rhoi canmoliaeth i Lywodraeth Cymru am yr enghraifft hon o arfer da.
Mae cynlluniau gostyngiadau treth gyngor yn hanfodol bwysig i bobl fwyaf bregus Cymru. Dyma'r cynllun sy'n caniatáu i lawer iawn o bobl hawlio gostyngiad ac mae o'n bodoli, i raddau, oherwydd nad ydy'r dreth gyngor yn ddigon blaengar. Felly, hoffwn ofyn i ddechrau a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i edrych ar system decach o drethiant fel na fydd angen cynllun gostyngiadau treth gyngor mor eang a phellgyrhaeddol ag sydd gennym ni ar hyn o bryd yn y dyfodol.
Mi fyddwch chi'n cofio mai Plaid Cymru wnaeth orfodi'r Llywodraeth flaenorol i gymryd cyfrifoldeb dros y cynllun cymorth yma gan arwain at basio rheoliadau yn 2013, ac ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn llenwi'r diffyg cyllid blynyddol ar gyfer y cynllun, gan sicrhau bod bron i £0.25 miliwn o bunnoedd ar gael ar gyfer y cynllun o fewn y setliad llywodraeth leol bob blwyddyn ers 2013-14. Ond felly, mewn gwirionedd, mae'r gronfa sydd ar gael, os ydy hi'n parhau ar yr un lefel, ac rydw i'n meddwl eich bod chi newydd ddweud y bydd hi, mae hynny'n golygu ei bod hi'n llai mewn termau real nag yr oedd hi bedair blynedd yn ôl. A hyd y gwelaf i, mae'r ffigurau newydd yn golygu cynnydd yn yr hyn mae trigolion yn mynd i dderbyn mewn cymorth, er mwyn cyd-fynd efo chwyddiant a chynnydd mewn costau byw. Felly, sut mae hynny'n mynd i gael ei dalu amdano fo? A fydd yna gynnydd cyfatebol ym maint y gronfa? Rydych chi wedi dweud rŵan na fydd yna. A ydy o'n golygu y bydd yna rhai trigolion yn derbyn mwy i gyd-fynd efo cynnydd chwyddiant ac ati, tra bod yna eraill yn cael eu hepgor yn gyfan gwbl o'r cynllun oherwydd newidiadau i'r system lles? Neu, yn wir, a ydych chi'n disgwyl i'r awdurdodau lleol ganfod yr arian o'u cyllidebau sydd yn prinhau?
Felly, fe fuaswn i'n gofyn i chi gadarnhau faint o bres sydd ar gael, oherwydd os mai'r un ffigur sydd ar gael, yna mae yna beryg, hyd y gwelaf i, y bydd yna rai o drigolion mwyaf bregus Cymru yn dioddef. Rydw i yn deall bod yna asesiad effaith wedi cael ei gynnal i gostau tebygol cydymffurfio â'r rheoliadau yma. Nid ydw i wedi cael amser i edrych ar hwnnw—i fynd ar ôl hwnnw. A fedrwch chi ddweud wrthym ni beth oedd canlyniad yr asesiad yna? Rydw i'n siŵr y medrwch chi ddeall bod angen i ni gael yr holl wybodaeth cyn ein bod ni'n gallu rhoi ein cefnogaeth i'r rheoliadau yma. Diolch.
Diolch. A gaf i alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i ymateb i'r ddadl? Mark.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch i Mick Antoniw am waith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wrth graffu ar y rheoliadau hyn. Byddaf yn sicr o adrodd am yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud wrth y rhai a fu'n helpu i baratoi'r deunydd esboniadol cysylltiedig. Rwy'n gwybod eu bod yn gweithio'n galed iawn i geisio troi deunydd technegol cymhleth a heriol yn naratif y gellir ei ddeall gan y bobl sy'n gorfod gweithredu hyn mewn awdurdodau lleol, a'r rhai sydd â diddordeb cyffredinol yn y ffordd y gellir rhoi cefnogaeth i'r teuluoedd mewn amgylchiadau fel hyn.
A gaf i ddweud wrth Siân Gwenllian hefyd, rydw i'n cydnabod y cymorth oddi wrth Blaid Cymru pan oedd y cynllun gwreiddiol yn cael ei baratoi, nôl yn 2013, ac am y cymorth rydym ni wedi'i gael oddi wrth Blaid Cymru dros y blynyddoedd i gadw'r cynllun i fynd, blwyddyn ar ôl blwyddyn?
Wrth gwrs, mae'r pwyntiau a gododd Siân Gwenllian yn bwysig, ac yn bwysig i mi fel Gweinidog Cyllid. Yr hyn sydd wedi digwydd yn y 12 mis diwethaf, Dirprwy Lywydd, yw fod nifer yr aelwydydd sy'n hawlio'r budd-dal treth gyngor wedi gostwng. Mae hyn yn gysylltiedig â chynnydd mewn lefelau cyflogaeth mewn rhannau o Gymru dros y 12 mis diwethaf, ac mae effaith hynny'n caniatáu i ni gynnal y cynllun yn llawn a'i wneud ychydig yn fwy hael mewn rhai meysydd y flwyddyn nesaf, fel na fydd angen culhau'r meini prawf cymhwyso ar gyfer y cynllun y flwyddyn nesaf o gwbl, ac y gallwn barhau, yn ein barn ni, i dalu'r costau hynny o'r gyllideb yr oedd modd ei darparu yn y flwyddyn ariannol hon. Dyna £244 miliwn o arian Llywodraeth Cymru, wedi ei ategu, mae'n wir, fel y dywedodd Siân, gan gyfraniad—o'm cof, Dirprwy Lywydd—o tua £12 miliwn gan yr awdurdodau lleol eu hunain. Nid ydym yn disgwyl y bydd yn rhaid i'w cyfraniad nhw godi y flwyddyn nesaf chwaith.
Ond, pe bai amodau yn yr economi yn newid, a phe bai cynnydd yn nifer y bobl sydd angen cymorth gan y cynllun, yna, wrth gwrs, wrth ddod â'r rheoliadau gerbron y Cynulliad Cenedlaethol y flwyddyn nesaf, byddai'n rhaid imi gyflwyno cynigion naill ai i gynyddu'r gyllideb sydd ar gael neu i ddod o hyd i ffordd o leihau'r hawliadau o fewn y cynlluniau, fel bod modd byw o fewn y gyllideb sydd ar gael. Rydym yn y sefyllfa ffodus o beidio â gorfod gwneud hynny y flwyddyn nesaf. Mae'r gyllideb sydd gennym yn ddigonol. Ni chyfyngwyd ar y cynllun, estynnwyd fymryn ar ei haelioni, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn barod i gefnogi'r cynllun sy'n rhoi swm mawr o arian Llywodraeth Cymru yn syth ym mhocedi'r rheini y mae eu hamgylchiadau ymhlith y mwyaf anodd yn y wlad.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.