Datblygiadau Seilwaith ar Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:36, 10 Ionawr 2018

Diolch. Yn y ddadl brynhawn ddoe ar y cynllun morol, mi wnes i bwysleisio wrth eich cydweithwraig, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr amgylchedd, yr angen i sicrhau bod cyswllt trydan yn cael ei ddarparu ar fyrder i gynllun cyffrous Morlais—y porth arbrofi ynni llif llanw oddi ar arfordir gorllewin Ynys Môn. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn fawr o bob cyfle mewn ynni adnewyddol er mwyn ein hamgylchedd ni, ond, a ydych chi, fel Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi, hefyd yn gweld bod sicrhau'r seilwaith trydanol hwnnw, y cyswllt hwnnw i Morlais—rhywbeth y mae arian eisoes wedi cael ei neilltuo ar ei gyfer drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru—yn rhywbeth y dylai'r Llywodraeth fod yn ceisio ei wireddu cyn gynted â phosibl er mwyn y budd economaidd mawr allai ddod i Ynys Môn a thu hwnt o wireddu potensial y parth arbrofi hwnnw? A wnewch chi roi ymrwymiad i chwarae eich rhan chi i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i gael y cysylltiad hwnnw yn ei le?