1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fudd economaidd datblygiadau seilwaith ar Ynys Môn? OAQ51522
Diolch yn fawr iawn, Rhun ap Iorwerth.
Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o ddatblygwyr prosiectau, yn ogystal â rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys Cyngor Ynys Môn, i hwyluso'r broses o gyflawni nifer o brosiectau seilwaith sylweddol a fydd yn fuddiol i economi'r ynys drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth sgìl uchel a hyfforddiant.
Diolch. Yn y ddadl brynhawn ddoe ar y cynllun morol, mi wnes i bwysleisio wrth eich cydweithwraig, yr Ysgrifennydd Cabinet dros yr amgylchedd, yr angen i sicrhau bod cyswllt trydan yn cael ei ddarparu ar fyrder i gynllun cyffrous Morlais—y porth arbrofi ynni llif llanw oddi ar arfordir gorllewin Ynys Môn. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud yn fawr o bob cyfle mewn ynni adnewyddol er mwyn ein hamgylchedd ni, ond, a ydych chi, fel Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi, hefyd yn gweld bod sicrhau'r seilwaith trydanol hwnnw, y cyswllt hwnnw i Morlais—rhywbeth y mae arian eisoes wedi cael ei neilltuo ar ei gyfer drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru—yn rhywbeth y dylai'r Llywodraeth fod yn ceisio ei wireddu cyn gynted â phosibl er mwyn y budd economaidd mawr allai ddod i Ynys Môn a thu hwnt o wireddu potensial y parth arbrofi hwnnw? A wnewch chi roi ymrwymiad i chwarae eich rhan chi i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i gael y cysylltiad hwnnw yn ei le?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiwn? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn, a buaswn yn ei gefnogi'n llwyr. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn cefnogi parth arddangos Morlais ac yn sicrhau'r cydsyniadau a fydd yn denu datblygwyr ynni'r môr. Noda'r Aelod y cymorth a gafwyd gan Ewrop. Mae'n fwy na £4 miliwn o gyllid. Mae'n gwbl hanfodol fod y gwaith hwn yn parhau ar unwaith. Credaf hefyd fod hyn yn ategu buddsoddiadau sylweddol eraill a wnaed ledled Ynys Môn, nid yn unig mewn perthynas ag Wylfa Newydd, ond hefyd, o fewn yr ardal fenter, yr uwchgynllun sy'n cael ei ddiweddaru ar gyfer porthladd Caergybi. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda'i blaid ar y gronfa borthladdoedd, sydd wedi cael ei defnyddio gan borthladd Caergybi a llawer o borthladdoedd eraill o amgylch arfordir Cymru.
Fel y gwyddoch, cyflwynwyd cynnig twf gogledd Cymru gan yr holl gynghorau a'r holl bartneriaid yn gynnar yn ystod toriad y Cynulliad. Roedd yn cynnig mesurau nid yn unig er mwyn cryfhau'r economi yn y gogledd-ddwyrain, ond i ymestyn y ffyniant hwnnw o'r diwedd tua'r gorllewin. Mae'n cynnwys cynigion ar gyfer buddsoddiadau i ehangu Parc Cefni yn Llangefni, Parc Cybi yng Nghaergybi a £50 miliwn ar gyfer ailddatblygu porthladd Caergybi, ochr yn ochr â chanolfan cynhyrchu ynni Trawsfynydd ar y tir mawr. Mae'r cynnig yn gofyn i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gynnal trafodaethau â hwy yn gynnar eleni ar y cynigion hyn a chynigion eraill. A allwch chi, felly, roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut rydych yn bwriadu ymgymryd â hynny ac yn ôl pa fath o amserlenni wrth inni fwrw ymlaen â hyn? Hefyd, wrth wneud hynny, sut y byddwch yn hyrwyddo'r cyfleoedd yn y canolfannau hyn i Iwerddon, lle cyfarfûm fore ddoe ag Ieuan Wyn Jones, ein cyn-Aelod a chyfarwyddwr gweithredol Parc Gwyddoniaeth Menai bellach, a ddywedodd y newyddion da wrthyf fod ganddynt eisoes 11 o denantiaid yn barod i fynd i mewn, ond bod diddordeb cynyddol o Iwerddon yng nghyd-destun ehangach Brexit?
Credaf ei bod yn deg dweud bod Ynys Môn yn gartref i rai o brosiectau seilwaith mwyaf cyffrous y DU dros y blynyddoedd i ddod, a rhai o'r mwyaf hefyd. Mae'n hollbwysig fod yr holl bartneriaid—Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ar draws gogledd Cymru—yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer twf o ran swyddi, profiad gwaith a hyfforddiant i bobl sy'n byw ar yr ynys ac yn y cyffiniau hefyd. Am y rheswm hwnnw, rwy'n awyddus i barhau gyda'r trafodaethau adeiladol gyda Llywodraeth y DU a chydag awdurdodau lleol. Yn wir, cyfarfûm ag arweinydd cyngor Ynys Môn a'r prif weithredwr cyn y Nadolig i drafod cynnydd ar Wylfa Newydd a chynnig y fargen twf. Rwy'n bwriadu parhau â thrafodaethau pellach fel rhan o drafodaethau'r fargen twf, a chredaf ein bod ar fin cynhyrchu set o gynigion gyda gweledigaeth gyffredinol a allai arwain at dwf sylweddol o ran cyflogaeth a chyfoeth ar draws gogledd Cymru, ond nid yw hynny'n mynd i'n hatal rhag gwneud y buddsoddiadau cywir yn y cyfamser. Yn benodol, mewn perthynas â ffyrdd, mewn perthynas â pharatoi safleoedd cyflogaeth ar Ynys Môn, credaf ei bod yn hanfodol fod yr arian yn parhau i lifo, ac mae arian eisoes wedi'i ddarparu i gefnogi safle cyflogaeth strategol yn Llangefni, ac un arall ym Mhenrhos yng Nghaergybi. Ond wrth gwrs, daw'r arian hwnnw o Ewrop—enghraifft arall o ba mor bwysig y mae arian Ewropeaidd wedi bod i sawl rhan o Gymru.
Mandy Jones.
Diolch, Llywydd, a blwyddyn newydd dda.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n edmygu'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar Barc Gwyddoniaeth Menai, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cyfleuster gwych hwn ar agor ac yn weithredol cyn gynted â phosibl. Nawr, rwy'n cofio'r canolfannau technium a sefydlwyd gan y Cynulliad cyn y diwethaf, ond ni ddenodd y busnes. A allwch roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd y cyfleuster gwych hwn yn denu'r busnes, y swyddi a'r arloesedd y mae'n eu haddo, a'i fod yn cael ei farchnata yn weithredol yn y sectorau perthnasol?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'i chroesawu i Siambr y Cynulliad? Fel rhywun nad yw'n byw yn rhy bell oddi wrthyf, rwy'n credu mai'r tro diwethaf i ni ddadlau oedd yn Ysgol Maelor, yn ystod etholiad 2015.
Mae'n rhaid i mi ddweud fod cyflymder y gwaith o ddatblygu Parc Gwyddoniaeth Menai wedi creu argraff fawr arnaf innau hefyd. Nid oes llawer o amser ers inni dorri'r dywarchen gyntaf ar y prosiect, ond mae hwnnw, ynghyd â buddsoddiadau eraill, fel y Sefydliad Gweithgynhyrchu Uwch ar yr ochr arall i ogledd Cymru, yn hollol wahanol i'r canolfannau technium, gan y byddant yn dod â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac addysg at ei gilydd mewn ffordd newydd a fydd yn sicrhau bod yr holl ddatblygiad o ran darparu addysg a hyfforddiant yn cael ei lywio gan anghenion cyflogwyr, a bod addysg a hyfforddiant yn fwy ymatebol i'r hyn sydd ei angen ar gyflogwyr a buddsoddwyr.