Datblygiadau Seilwaith ar Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:37, 10 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto am ei gwestiwn? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn, a buaswn yn ei gefnogi'n llwyr. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn cefnogi parth arddangos Morlais ac yn sicrhau'r cydsyniadau a fydd yn denu datblygwyr ynni'r môr. Noda'r Aelod y cymorth a gafwyd gan Ewrop. Mae'n fwy na £4 miliwn o gyllid. Mae'n gwbl hanfodol fod y gwaith hwn yn parhau ar unwaith. Credaf hefyd fod hyn yn ategu buddsoddiadau sylweddol eraill a wnaed ledled Ynys Môn, nid yn unig mewn perthynas ag Wylfa Newydd, ond hefyd, o fewn yr ardal fenter, yr uwchgynllun sy'n cael ei ddiweddaru ar gyfer porthladd Caergybi. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gyda'i blaid ar y gronfa borthladdoedd, sydd wedi cael ei defnyddio gan borthladd Caergybi a llawer o borthladdoedd eraill o amgylch arfordir Cymru.