Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 10 Ionawr 2018.
Gwnaf, yn sicr. Roeddwn yn croesawu penderfyniad Arriva i ymestyn gwasanaethau ar ddydd Sul. Mae diffyg trafnidiaeth briodol, ddibynadwy a fforddiadwy yn parhau i fod yn un o'r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu pobl o ran cael mynediad at waith, ac aros mewn gwaith. Felly, roeddwn yn falch iawn fod Trenau Arriva Cymru wedi penderfynu rhoi'r gwasanaethau ychwanegol hyn ar waith, ac rwy'n gobeithio bod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac y gallai arwain at ddarparu gwasanaethau ychwanegol yn y tymor hwy. Ond gallaf ddweud, o ran y tymor hir, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod, fod Trafnidiaeth Cymru yn asesu'r tri chynnig a gyflwynwyd ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r gororau ar hyn o bryd. Ac mae'n ofyniad sylfaenol pendant gennym fod y gwasanaethau'n cyfateb i'r rhai a ddarperir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn cymell cynigwyr i wella gwasanaethau ar draws y rhwydwaith, gan gynnwys, yn hollbwysig yn fy marn i, ar ddydd Sul, o gofio bod llawer o bobl bellach yn gweithio ar benwythnosau, ac yn enwedig ar ddydd Sul.