Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:32, 10 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf fod y cwestiwn ynglŷn â mynediad yn hollol allweddol, ac mae'n golygu bod cysylltiadau rheolaidd a dibynadwy—rheilffyrdd, bysiau—yn hanfodol. Ond wyddoch chi, mae wedi bod yn broblem wirioneddol yn y gorffennol, ac nid yw'n ymwneud â mynediad at swyddi yn unig, ond at asedau diwylliannol yng Nghaerdydd, a mwynhau'r rheini. Wyddoch chi, mae gan bobl yn y cymoedd gogleddol gymaint o hawl i wneud hynny â'r rhai ohonom sydd yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y fasnachfraint a osodwn—y gofynion hyn.