Datblygiadau Seilwaith ar Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:40, 10 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n edmygu'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar Barc Gwyddoniaeth Menai, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y cyfleuster gwych hwn ar agor ac yn weithredol cyn gynted â phosibl. Nawr, rwy'n cofio'r canolfannau technium a sefydlwyd gan y Cynulliad cyn y diwethaf, ond ni ddenodd y busnes. A allwch roi sicrwydd i fy etholwyr y bydd y cyfleuster gwych hwn yn denu'r busnes, y swyddi a'r arloesedd y mae'n eu haddo, a'i fod yn cael ei farchnata yn weithredol yn y sectorau perthnasol?