Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 10 Ionawr 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'i chroesawu i Siambr y Cynulliad? Fel rhywun nad yw'n byw yn rhy bell oddi wrthyf, rwy'n credu mai'r tro diwethaf i ni ddadlau oedd yn Ysgol Maelor, yn ystod etholiad 2015.
Mae'n rhaid i mi ddweud fod cyflymder y gwaith o ddatblygu Parc Gwyddoniaeth Menai wedi creu argraff fawr arnaf innau hefyd. Nid oes llawer o amser ers inni dorri'r dywarchen gyntaf ar y prosiect, ond mae hwnnw, ynghyd â buddsoddiadau eraill, fel y Sefydliad Gweithgynhyrchu Uwch ar yr ochr arall i ogledd Cymru, yn hollol wahanol i'r canolfannau technium, gan y byddant yn dod â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac addysg at ei gilydd mewn ffordd newydd a fydd yn sicrhau bod yr holl ddatblygiad o ran darparu addysg a hyfforddiant yn cael ei lywio gan anghenion cyflogwyr, a bod addysg a hyfforddiant yn fwy ymatebol i'r hyn sydd ei angen ar gyflogwyr a buddsoddwyr.