Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:33, 10 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, yn sicr. Mae hierarchaeth angen Maslow yn datgan bod angen i ni deimlo ein bod wedi ein cysylltu â'n gilydd, ac nid yn ystod dyddiau'r wythnos yn unig y dylem fod wedi ein cysylltu â'n gilydd drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Mewn gwirionedd, mae'r cynllun peilot a roddwyd ar waith gennym gan ddefnyddio gwasanaeth teithio am ddim TrawsCymru ar benwythnosau wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus. Rydym yn parhau i fonitro perfformiad y gwasanaeth am ddim hwnnw, ond mae wedi dangos bod pobl bellach yn newid eu ffyrdd o deithio o geir preifat i drafnidiaeth gyhoeddus, a gallai hynny, o bosibl, arwain at ddefnyddio bysiau yn ystod yr wythnos hefyd. Ond yn sicr ar y penwythnos, credaf ei bod yn hollbwysig fod gweithredwyr bysiau, ein bod ni fel Llywodraeth, fod awdurdodau lleol a bod gweithredwr a phartner datblygu'r fasnachfraint nesaf yn gweithio gyda'n gilydd i wella darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar benwythnosau.