Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 10 Ionawr 2018.
Mae'n flin gyda i, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog nid yw'n ddigon da jest i ail-ddarllen sgript sydd wedi cael ei rhoi i chi yn y fath fodd. Mae hyn ar ben, wrth gwrs, y cwestiynau di-rif sydd wedi cael eu gosod, yn bennaf gan Suzy Davies. Nid ydym ni wedi cael atebion i'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Rydym ni wedi gorfod—Suzy ac eraill wedi gorfod—defnyddio ceisiadau rhyddid gwybodaeth er mwyn canfod nad yw Pinewood bellach yn denant nac yn talu rhent. Rydw i'n deall bod yna bosibilrwydd y bydd yna bwyllgor o'r Senedd yn dechrau ymchwiliad i'r mater yma. Byddwn ni'n croesawu hynny, ac rydw i wedi gofyn i'r archwilydd gwneud hynny. Ond onid yw'n wir, oherwydd pwysigrwydd deuol y sector yma, nid yn unig, fel rwyf yn ei ddweud, o ran ein heconomi ni, ond o ran ein diwylliant ni, nad yw'n dderbyniol i gelu tu ôl i'r esgus yma o gyfrinachedd masnachol? Mae'n sector rhy bwysig, a dweud y gwir, i chi, fel Gweinidog, wrthod ateb cwestiynau a rhoi tryloywedd angenrheidiol i ni yn fath fodd.