Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 10 Ionawr 2018.
Fel yr esboniais i pan atebais i gwestiwn ar hyn cyn y Nadolig, y mae amodau'r cytundeb gyda'r cwmni yn gyfrinachol i bwrpas masnachol. Ond fe fedraf i gadarnhau fod y berthynas gyda'r hyn yr oedd uned Pinewood yn parhau, ond nad ydy Pinewood bellach yn gweithredu'r rôl o reolaeth cronfeydd trydydd parti. Dyna'r sefyllfa fel ag y mae hi, ac y mae'r sefyllfa yna yn parhau yn yr un modd ar hyn o bryd.