Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddychwelyd, os caf i, at fater cefnogaeth y Llywodraeth i'r diwydiant ffilm a theledu, sydd yn sector pwysig ac arwyddocaol i'n heconomi a'n diwylliant fel ei gilydd. Fis diwethaf, fe gadarnhaodd y Llywodraeth, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, nad yw cwmni Pinewood bellach yn talu rhent nac yn denant yn stiwdio Gwynllŵg yr arwyddon nhw gytundeb rhent ar ei gyfer yn wreiddiol yn 2014. Mi wnaethoch chi, serch hynny, ein hysbysu ni bod Pinewood dal yn ymrwymedig i weithredu'r stiwdio o dan gytundeb rheolaeth, er nad yw manylion y cytundeb hynny yn y pau cyhoeddus. A ydym ni'n iawn felly i gymryd bod Pinewood yn talu Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal stiwdio yng Nghymru, a nawr rydym ni'n eu talu nhw er mwyn cynnal stiwdio yng Nghymru? Ac o ystyried nad ydyn nhw'n talu rhent, nad ydyn nhw'n denant, nad ydyn nhw bellach ag unrhyw rôl o ran y gronfa buddsoddi cyfryngol, ai stiwdio Pinewood mewn enw yn unig yw hon bellach?