Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 10 Ionawr 2018.
Fe fyddaf i'n ateb y cwestiwn yma gan ei fod yn dod o fewn fy mhortffolio i ac fy mod wedi ateb ar y mater yma yn y gorffennol.
Mae'r newidiadau yma yn ein perthynas ni â Pinewood yn dilyn newidiadau masnachol o fewn strwythur Pinewood fel cwmni a'r cwmni sydd bellach yn gyfrifol am adnoddau Pinewood. Nid yw'n gywir i ddweud ein bod ni fel Llywodraeth yn talu i Pinewood, ond mae Pinewood wedi peidio â darparu gwasanaeth ar gyfer rheoli cyllid a chronfeydd trydydd parti. Hwnnw yw'r newid mwyaf sylweddol. Mae'r cytundeb y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ailnegodi gyda Pinewood, o fewn y cydweithrediad, yn golygu bod Pinewood yn parhau i weithredu'r stiwdio ond nad ydy Pinewood yn hyrwyddo yn yr un ffordd ag yr oedden nhw o dan y cytundeb blaenorol.