Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 10 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd Cabinet, nid wyf yn gwybod os ydych yn ymwybodol, ond cafodd y B4286, a elwir gennym yn lleol yn Heol Cwmafan, un o'r ddwy brif ffordd i gwm Afan, ei chau oherwydd tirlithriad yn dilyn y tywydd stormus dros y Nadolig. Diolch byth, ni arweiniodd hyn at unrhyw anafiadau, ond achoswyd problemau traffig sylweddol, gyda chiwiau hir ar adegau. Roedd hynny'n peri pryder i mi, mewn perthynas â hygyrchedd ein gwasanaethau brys ar yr adegau prysur hynny. Roeddwn yn awyddus i ganmol yr awdurdod lleol. Maent wedi gwneud gwaith aruthrol. Maent wedi cael gwared ar oddeutu 200 tunnell o rwbel, mwd a phren ac wedi sicrhau bod y ffordd ar agor unwaith eto, ac ar yr un pryd, wedi cadw diogelwch trigolion a defnyddwyr yn nod craidd. Mae hwnnw'n waith ardderchog. Ond petai hyn wedi digwydd ddwy filltir arall i fyny'r cwm, byddai Cwm Afan wedi bod ar gau, yn y bôn. Fel y cyfryw, byddai wedi rhwystro hygyrchedd cymunedau a gallu'r gwasanaethau brys i'w cyrraedd. A wnewch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a chydag awdurdodau lleol i edrych ar yr ardaloedd a allai fod yn achosion pryder i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto?