1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith stormydd y gaeaf ar y rhwydweithiau ffyrdd? OAQ51504
Gwnaf. Dros y gaeaf, gosodwyd cyfyngiadau dros dro ar sawl rhan o'r rhwydwaith cefnffyrdd, neu cawsant eu cau oherwydd gwyntoedd cryfion neu lifogydd. Cafwyd problemau teithio hefyd o ganlyniad i eira trwm ar nifer o ffyrdd yn ystod penwythnos 9 a 10 Rhagfyr, ond gwnaed pob ymdrech i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau o'r fath.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod tagfeydd yn costio £1.5 biliwn y flwyddyn i yrwyr Cymru. Mae INRIX, y prif ddarparwr gwybodaeth traffig amser real drwy'r byd, wedi cyfrifo bod cost economaidd tagfeydd yn cyfateb i gyfartaledd o £939 y gyrrwr y flwyddyn. Yn ychwanegol at hynny, mae nifer o ddamweiniau, a achoswyd gan dywydd y gaeaf, wedi arwain at gau ffyrdd ac oedi ar yr A5, yr A483 a'r A55 yr wythnos diwethaf. O ran llif y traffig ar yr A55 yng ngogledd Cymru, ac adroddiad cam 1 diweddar arweiniad arfarnu trafnidiaeth Cymru ar gydnerthedd y rhwydwaith, pryd y byddwch yn rhoi'r atebion risg isel a chyflym a grybwyllwyd yn yr adroddiad hwnnw ar waith?
Mae astudiaeth gydnerthedd yr A55, a gomisiynwyd gennyf, yn nodi sawl ateb cyflym y gellir eu darparu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Rwy'n bwriadu rhoi'r atebion cyflym hynny ar waith cyn gynted â phosibl. Credwn y gellir cyflawni'r rhan fwyaf ohonynt o fewn chwe mis. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, yr wythnos diwethaf—gan fy mod yn byw yn agos iawn at yr ardal lle caewyd yr A5/A483 dros dro—roedd hi'n hanfodol ein bod yn cau'r man penodol hwnnw ar y rhwydwaith ffyrdd. Roedd y rhan o'r ffordd ar draphont. Roedd yn gwbl hanfodol nad oeddem yn caniatáu i gerbydau uchel fynd ar draws y ffordd honno. Prin y gallent sefyll yn y gwynt yn yr ardal benodol honno. Roeddem eisoes yn cael adroddiadau ar y rhwydwaith cefnffyrdd o ôl-gerbydau yn cael eu chwythu drosodd. Felly, roedd yn hollbwysig nad oeddem yn peryglu unrhyw fywydau. Buaswn yn cytuno bod tagfeydd yn costio gormod i economi Cymru ac i'r trethdalwr, a dyna pam y comisiynais astudiaeth gydnerthedd yr A55. Dyna pam rydym yn bwrw ymlaen â'r rhaglen mannau cyfyng ledled Cymru a chyda buddsoddiad sylweddol mewn ffyrdd osgoi o amgylch trefi a chymunedau eraill, a pham rydym wedi ymrwymo i uwchraddio'r seilwaith ledled y wlad.
Ysgrifennydd Cabinet, nid wyf yn gwybod os ydych yn ymwybodol, ond cafodd y B4286, a elwir gennym yn lleol yn Heol Cwmafan, un o'r ddwy brif ffordd i gwm Afan, ei chau oherwydd tirlithriad yn dilyn y tywydd stormus dros y Nadolig. Diolch byth, ni arweiniodd hyn at unrhyw anafiadau, ond achoswyd problemau traffig sylweddol, gyda chiwiau hir ar adegau. Roedd hynny'n peri pryder i mi, mewn perthynas â hygyrchedd ein gwasanaethau brys ar yr adegau prysur hynny. Roeddwn yn awyddus i ganmol yr awdurdod lleol. Maent wedi gwneud gwaith aruthrol. Maent wedi cael gwared ar oddeutu 200 tunnell o rwbel, mwd a phren ac wedi sicrhau bod y ffordd ar agor unwaith eto, ac ar yr un pryd, wedi cadw diogelwch trigolion a defnyddwyr yn nod craidd. Mae hwnnw'n waith ardderchog. Ond petai hyn wedi digwydd ddwy filltir arall i fyny'r cwm, byddai Cwm Afan wedi bod ar gau, yn y bôn. Fel y cyfryw, byddai wedi rhwystro hygyrchedd cymunedau a gallu'r gwasanaethau brys i'w cyrraedd. A wnewch chi weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a chydag awdurdodau lleol i edrych ar yr ardaloedd a allai fod yn achosion pryder i weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto?
I raddau, credaf ein bod yn ffodus fod y digwyddiad wedi digwydd lle gwnaeth. Fel y dywedodd yr Aelod, gallai'r digwyddiad fod wedi bod yn llawer mwy difrifol o ran canlyniadau. Ond hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r awdurdod lleol am eu gwaith rhagorol yn sicrhau bod canlyniadau'r digwyddiad wedi cael eu trin yn briodol. Er ein bod yn gyfrifol am gefnffyrdd yng Nghymru, rwy'n fwy na pharod i fy swyddogion weithio gyda swyddogion awdurdodau lleol, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn perthynas â llifogydd ar Ynys Môn. Rwy'n falch o ddweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod cyflwr y rhwydwaith ffyrdd lleol, a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu harfer ledled Cymru, ac i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol i sicrhau bod ein ffyrdd yn glir ac mewn cyflwr da.