Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 10 Ionawr 2018.
I raddau, credaf ein bod yn ffodus fod y digwyddiad wedi digwydd lle gwnaeth. Fel y dywedodd yr Aelod, gallai'r digwyddiad fod wedi bod yn llawer mwy difrifol o ran canlyniadau. Ond hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r awdurdod lleol am eu gwaith rhagorol yn sicrhau bod canlyniadau'r digwyddiad wedi cael eu trin yn briodol. Er ein bod yn gyfrifol am gefnffyrdd yng Nghymru, rwy'n fwy na pharod i fy swyddogion weithio gyda swyddogion awdurdodau lleol, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar mewn perthynas â llifogydd ar Ynys Môn. Rwy'n falch o ddweud y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn cyfarfod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod cyflwr y rhwydwaith ffyrdd lleol, a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod arferion gorau yn cael eu harfer ledled Cymru, ac i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n partneriaid awdurdod lleol i sicrhau bod ein ffyrdd yn glir ac mewn cyflwr da.