Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch i chi am eich ateb. Rydym i gyd yn deall yr egwyddor o gydraddoldeb gerbron y gyfraith, ond mewn gwirionedd y cwestiwn yw: beth am gydraddoldeb o fewn y gyfraith? A chyda'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn ystyried sut y gallai system gyfiawnder benodol i Gymru weithio, credaf ei bod yn hanfodol ein bod hefyd yn myfyrio ar sut olwg sydd ar y system honno o ran ethnigrwydd, rhywedd a chefndir cymdeithasol. Mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cymryd y camau angenrheidiol a gafodd eu hargymell gan adroddiad Lammy i greu barnwriaeth fwy amrywiol. Felly, rwy'n gofyn: beth y gallwn ni ei wneud, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, i greu barnwriaeth fwy amrywiol, a hyrwyddo mwy o amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol drwyddo draw?