2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
3. In light of the Lammy Review, will the Counsel General make a statement on diversity in the Welsh legal profession? OAQ51523
Mae Llywodraeth Cymru yn credu mai'r unig ffordd i gyflawni system gyfiawnder deg a chynhwysol yw sicrhau bod gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth y maent yn ei gwasanaethu yn llawn.
Diolch i chi am eich ateb. Rydym i gyd yn deall yr egwyddor o gydraddoldeb gerbron y gyfraith, ond mewn gwirionedd y cwestiwn yw: beth am gydraddoldeb o fewn y gyfraith? A chyda'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn ystyried sut y gallai system gyfiawnder benodol i Gymru weithio, credaf ei bod yn hanfodol ein bod hefyd yn myfyrio ar sut olwg sydd ar y system honno o ran ethnigrwydd, rhywedd a chefndir cymdeithasol. Mae'n ymddangos nad yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cymryd y camau angenrheidiol a gafodd eu hargymell gan adroddiad Lammy i greu barnwriaeth fwy amrywiol. Felly, rwy'n gofyn: beth y gallwn ni ei wneud, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, i greu barnwriaeth fwy amrywiol, a hyrwyddo mwy o amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol drwyddo draw?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, ac am ei dadleuon parhaus dros achos amrywiaeth a chydraddoldeb yn gyffredinol.
Mae'r diffyg amrywiaeth yn y system cyfiawnder troseddol, a nodwyd yn adolygiad Lammy, yn milwrio yn erbyn mynediad at gyfiawnder, sef un o bileri allweddol ein democratiaeth yng Nghymru, a ledled y DU. Dangosodd Lammy fod diffyg amrywiaeth o'r fath i'w weld yn y rhai sy'n gwneud penderfyniadau pwysig ar draws y system cyfiawnder troseddol, o swyddogion carchar a llywodraethwyr i ynadon a'r farnwriaeth yn fwy cyffredinol. Ac mae'r rhain yn faterion pwysig i ni o ran rheolaeth y gyfraith yn y DU. O ran y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, ac o ran amrywiaeth pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, rydym ar ei hôl hi rywfaint mewn perthynas â phoblogaeth gyffredinol Cymru, ac mae mwy y gallwn ei wneud yn sicr.
O ran camau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn, ysgrifennodd y Prif Weinidog, er enghraifft, at Brif Weithredwr y Goruchaf Lys yn ddiweddar, i danlinellu pwysigrwydd sicrhau amrywiaeth yn y Goruchaf Lys, ac yn fwy cyffredinol yn y system farnwrol drwyddi draw. Yng Nghymru, caiff penodiadau i'r farnwriaeth dribiwnlysoedd yng Nghymru eu gwneud yn ôl cyngor y Comisiwn Penodiadau Barnwrol, ac felly maent yn ddarostyngedig i'w bolisïau ar hybu amrywiaeth farnwrol.
Mae'n sôn am amrywiaeth mewn termau ehangach, sy'n cynnwys rhywedd, hunaniaeth o ran rhywedd, rhywioldeb, ac ati. Credaf y byddai'n dda i ni gofio geiriau yr Arglwyddes Hale, sef Llywydd y Goruchaf Lys, a ddywedodd y canlynol pan gafodd ei phenodi,
Rwyf o'r farn fod "gwahaniaeth" yn bwysig wrth farnu a bod amrywiaeth rhwng y rhywiau, ynghyd â llawer o agweddau eraill ar amrywiaeth, yn beth da, yn wir yn beth angenrheidiol. Fodd bynnag, nid ein llais gwahanol yw'r prif reswm dros hyn, ond cyfreithlondeb democrataidd. Mewn democratiaeth a reolir gan y bobl ac nid gan frenhiniaeth absoliwt neu ddosbarth llywodraethol aristocrataidd hyd yn oed, dylai'r farnwriaeth adlewyrchu'r gymuned gyfan, nid cyfran fach ohoni.
Roeddwn yn falch o glywed cyfeiriad y Cwnsler Cyffredinol at bwysigrwydd cefndir economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â rhyw ac ethnigrwydd, mewn perthynas ag amrywiaeth. Soniodd am y Comisiwn Penodiadau Barnwrol a bod yn ddarostyngedig i'w weithdrefnau. A yw'n rhagweld unrhyw welliant yn amrywiaeth y corff hwnnw i'r graddau fod lleisiau Cymry yn cael eu clywed i'r un graddau ag y sicrheir ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon? I ba raddau y mae ef fel Cwnsler Cyffredinol yn dehongli ei rôl yn ehangol o ran amrywiaeth, ac yn hyrwyddo hynny ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru?
Ar y cwestiwn cyntaf, mewn perthynas ag amrywiaeth daearyddiaeth ac awdurdodaethau, os mynnwch, o fewn y Goruchaf Lys, mae'r ddeddfwriaeth berthnasol yn darparu, wrth gwrs, y dylai'r Goruchaf Lys gael cyfuniad o ustusiaid sy'n adlewyrchu gwybodaeth a phrofiad o bob rhan o'r DU. Safbwynt cryf Llywodraeth Cymru yw y dylai hynny gynnwys ustus ar gyfer Cymru. Fel y bydd yn gwybod, mae gan y Goruchaf Lys farnwr cyswllt Cymreig—yr Arglwydd Lloyd-Jones—a chyfarfûm ag ef yn ddiweddar i drafod rhai o'r materion hyn. Rwy'n credu'n sicr fod dadlau dros amrywiaeth yn rhan o fy rôl yn gyffredinol ac yn cynnwys y proffesiwn cyfreithiol yma yng Nghymru. Rwyf wedi cael cyfle i siarad â nifer o bobl mewn perthynas â hynny ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny'n flaenoriaeth yn ystod fy nghyfnod fel Cwnsler Cyffredinol.