Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 10 Ionawr 2018.
Roeddwn yn falch o glywed cyfeiriad y Cwnsler Cyffredinol at bwysigrwydd cefndir economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â rhyw ac ethnigrwydd, mewn perthynas ag amrywiaeth. Soniodd am y Comisiwn Penodiadau Barnwrol a bod yn ddarostyngedig i'w weithdrefnau. A yw'n rhagweld unrhyw welliant yn amrywiaeth y corff hwnnw i'r graddau fod lleisiau Cymry yn cael eu clywed i'r un graddau ag y sicrheir ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon? I ba raddau y mae ef fel Cwnsler Cyffredinol yn dehongli ei rôl yn ehangol o ran amrywiaeth, ac yn hyrwyddo hynny ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru?