Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'r gaeaf, fel erioed, yn gyfnod heriol iawn. Mae GIG Cymru a'r system gofal cymdeithasol ehangach o dan gryn bwysau ac mae hynny'n gyson â'r pwysau sy'n cael ei nodi ar draws y DU. Er gwaethaf prysurdeb, digynsail ar adegau, mewn rhannau o'r system, mae ein staff ymroddedig a gweithgar yn parhau i ddarparu ymateb proffesiynol a thosturiol.