3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr argyfwng yn y GIG y gaeaf hwn, yn sgil adroddiadau bod gwasanaethau wedi’u hymestyn i’r eithaf? 96
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'r gaeaf, fel erioed, yn gyfnod heriol iawn. Mae GIG Cymru a'r system gofal cymdeithasol ehangach o dan gryn bwysau ac mae hynny'n gyson â'r pwysau sy'n cael ei nodi ar draws y DU. Er gwaethaf prysurdeb, digynsail ar adegau, mewn rhannau o'r system, mae ein staff ymroddedig a gweithgar yn parhau i ddarparu ymateb proffesiynol a thosturiol.
Mae hynny'n wir, ac mewn gwirionedd, y staff ymroddedig a gweithgar hyn sydd wedi dwyn nifer sylweddol o bryderon i fy sylw dros y 10 diwrnod diwethaf. Rydym wedi gweld colegau brenhinol yn cyflwyno sylwebaeth a datganiadau am y pwysau enfawr sydd wedi bod ar eu staff. Rwyf wedi cyfarfod â cholegau brenhinol yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â meddygon, nyrsys, staff rheng flaen a gweithiwr ambiwlans. Mae pob un ohonynt yn sôn am yr un peth: sylwadau fel 'nid wyf erioed wedi gweld GIG Cymru yn y fath gyflwr', fod eu cydweithwyr 'ar ymyl y dibyn' a bod staff rheng flaen 'o dan bwysau aruthrol'. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain eu hun wedi dweud nad oedd gan un ardal bwrdd iechyd yng Nghymru unrhyw staff llanw o gwbl o ran meddygon teulu. Rydym wedi colli dros 2,000 o oriau ambiwlans yn ystod y saith neu wyth diwrnod diwethaf. Dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys bod rhai pobl yn aros dros 80 awr mewn adrannau achosion brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae hwn yn fater enfawr. Rwy'n derbyn yn llwyr nad ydych chi yn bersonol yn gyfrifol am faterion rheng flaen sy'n mynd o chwith. Rwy'n derbyn yn llwyr y cafwyd mwy o broblemau yn ystod y gaeaf hwn a bod y gaeaf hwn gryn dipyn yn llymach nag y rhagwelodd pawb. Ond fy mhryder i yw eich bod wedi neilltuo tua £50 miliwn cyn y gaeaf i baratoi ar gyfer hyn a hoffwn ofyn i chi gynnal asesiad brys o sut y gwariwyd y £50 miliwn hwnnw. A gyrhaeddodd yr arian y rheng flaen, ac os felly, ble a sut, a beth y llwyddodd i'w wella? A lwyddodd y rheolwyr i gynnwys y bobl gywir yn y gwaith cynllunio? Oherwydd mae meddygon teulu yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae meddygon ysbyty yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae arweinwyr unedau achosion brys yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Ni chafwyd cyfrif o'r tri neu bedwar diwrnod, felly, i bob pwrpas, cawsom bythefnos gyfan gydag ond ychydig iawn o staff llanw tebyg i'r hyn a geir ar wyliau banc. Roedd gwasanaethau cymdeithasol yn absennol am bythefnos i bob pwrpas. Gwelsom oedi enfawr wrth drosglwyddo gofal. Roedd gan ysbyty Mynydd Bychan ddwy ward gyfan yn llawn o bobl yn aros i fynd adref.
A fyddech chi hefyd yn derbyn, neu'n edrych ar y rheolwyr o fewn y GIG, oherwydd mae'n ymddangos ein bod yn gwneud yn wych o ran strategaeth, ond rydym yn ei chael hi'n anodd rhoi'r strategaeth honno ar waith? Pan fo gennych nyrs neu reolwr gwelyau yn dweud, 'Nid wyf am agor gwely a rhoi gwely ychwanegol ar y ward honno oherwydd bydd y gwely hwnnw'n creu risg i'r ward honno', rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond mae risg yn ymwneud â chydbwysedd risg. Felly, pa un yw'r gwaethaf: cael un gwely ar agor ar ward, neu gael person ar droli am 80 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gofyn i chi sicrhau ein bod yn dwyn y rheolwyr, rheolwyr y GIG, i gyfrif am y materion hynny.
Rydych newydd ddyfarnu £10 miliwn arall yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae angen i ni wneud yn siŵr fod y £10 miliwn hwnnw yn mynd i'r rheng flaen ac yn datrys y problemau hyn. Cynhaliwyd ymchwiliad rhagorol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Llwyddasom i greu adroddiad cryf ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. Daeth y bobl atom a dweud wrthym nad oeddent yn cael eu cynnwys. Maent yn parhau i ddweud hynny heddiw. Mae angen i chi ddarganfod beth aeth o'i le, a buaswn yn gofyn i chi geisio mynd at wraidd hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae rhywbeth yn rhywle heb weithio. Ac fel y dywedoch hi ar y cychwyn, mae gennym lawer o bobl ragorol sy'n gweithio'n galed iawn ac sydd o dan bwysau aruthrol. Ein gwaith ni yw codi'r pwysau hwnnw oddi ar eu hysgwyddau.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Wrth feddwl am ein sefyllfa ac am y pwysau sy'n bodoli ar draws y system, mae llawer o'n sylwebaeth, yn y pen draw, yn anochel yn ymwneud â charreg drws ysbyty a'r adran achosion brys, ond mewn gwirionedd, mae'r pwysau ar draws y system, gan gynnwys ym maes gofal sylfaenol, lle maent, ar ddiwrnodau prysur, wedi cael 100,000 o gysylltiadau mewn gofal sylfaenol ar draws y wlad. Rhan o fy syniad oedd nid yn unig y £10 miliwn i fynd i mewn i'r system, ond hefyd drwy'r holl Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau a dyletswyddau gweinyddol meddygon teulu er mwyn rhoi mwy o amser iddynt ei dreulio gyda chleifion sydd angen eu gofal a'u cymorth.
Ceir hefyd y pwysau hwnnw ar draws y system gofal cymdeithasol. Rwy'n credu efallai fod awgrymu bod gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn absennol am bythefnos i bob pwrpas braidd yn angharedig a heb fod yn gwbl gywir, oherwydd, mewn gwirionedd, rhan o'r rheswm pam fod gwasanaethau'n parhau i weithio yw oherwydd ymrwymiad staff gofal cymdeithasol, yn ogystal â'u cydweithwyr o fewn y gwasanaeth iechyd. Ond nid yw'r her sy'n ein hwynebu wrth symud ymlaen drwy hyn—a deallaf y bydd angen i ni wneud yn well yn y dyfodol—fel bob amser, yn ymwneud yn unig â'r hyn sy'n digwydd wrth y drws blaen mewn gofal sylfaenol, practis cyffredinol neu adran achosion brys, mae hefyd yn ymwneud â chyrraedd y pen arall a'r angen i ryddhau pobl i'w cartrefi eu hunain, boed hynny'n gartref eu hunain mewn preswylfa breifat neu mewn gofal preswyl. Felly, rydym yn credu y bydd yr arian a gyhoeddwyd gennym yn helpu'r cysylltiad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig, oherwydd sylweddolwyd ar un adeg yr wythnos diwethaf pan wneuthum gyfweliad fod tua 350 o bobl sy'n feddygol iach mewn gwelyau yn ein system ysbytai. Nid her sy'n ymwneud â nifer gwelyau yw honno, ond her sy'n ymwneud â llif o fewn ein system iechyd a gofal gyfan. Felly, mae yna her i'w datrys sy'n ymestyn ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Roedd y £50 miliwn yn ymwneud â chynnal perfformiad, nid gofal heb ei drefnu yn unig, ond gofal wedi'i drefnu yn ogystal. Rydym yn disgwyl y byddwn mewn gwell sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon o ran ein rhestrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn ogystal. Felly, rydym wedi gwneud penderfyniadau gwahanol. Nid ydym wedi canslo gofal dewisol ledled y wlad. Rydym wedi gweld peth o hwnnw'n parhau, ond cafodd rhai llawdriniaethau eu canslo er mwyn gwneud yn siŵr bod derbyniadau brys yn cael eu trin. Wrth gwrs, byddwn yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol, a disgwyliaf y byddaf yn wynebu craffu yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor ynglŷn â'r hyn y mae'r £50 miliwn wedi'i ddarparu. Bydd yn darparu hyd at ddiwedd y flwyddyn, felly ni fyddaf yn ymgymryd ag ymchwiliad hanner ffordd, yn hytrach na deall beth y mae'r system gyfan wedi'i wneud o ran paratoi ar gyfer y gaeaf a chyflawni ar hyd y gaeaf.
Mae'r un peth yn wir am y wers y byddwn yn amlwg yn ei dysgu o'r gaeaf hwn, ar adeg o bwysau eithafol, fel y mae bron bob amser yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr, ond wedyn i edrych ar gyfnod y gaeaf yn ei gyfanrwydd. Oherwydd, ar yr adeg y gofynnoch chi'r cwestiwn hwn yn wreiddiol, roedd hynny ar un o'r adegau brig o ran pwysau. Yn ffodus, mae wedi lleihau ledled y wlad. Rydym yn gweld lefel wahanol o gynnydd erbyn hyn. Ond yn sicr nid yw'r gaeaf ar ben ac rwy'n tybio y bydd llawer mwy o ddiwrnodau anodd.
Felly, mae angen i ni ddeall yr hyn a ddigwyddodd y tro hwn gyda chynllunio ar gyfer y gaeaf, a chafodd y lleisiau rydych yn dweud na chawsant eu hystyried eu cynnwys yn rhai o'r cynlluniau ar gyfer y gaeaf mewn gwirionedd, oherwydd roedd cydweithwyr yn cynrychioli pob rhan o'r gwasanaeth, nid gofal iechyd yn unig, ond roedd cydweithwyr gofal cymdeithasol yn yr ystafell hefyd. Mae yna her bob amser o ran y modd yr ydym yn crynhoi lleisiau staff ac yn deall sut y maent yn cynllunio gyda'i gilydd i ddarparu ein gwasanaeth. Byddwn, wrth gwrs, yn dysgu o'r gaeaf hwn. Rydym eisiau paratoi'n well ar gyfer y gaeaf nesaf, ac rwy'n disgwyl y byddaf yn gwbl dryloyw am yr hyn rydym wedi'i ddysgu a'r hyn rydym yn disgwyl ei wneud yn well yn ystod y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, rwyf eisiau gwella ein hymateb ar gyfer gweddill y gaeaf cyfredol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym mai'r rheswm dros y pwysau yn ystod gaeaf 2017-18 hyd yma yw'r cynnydd digynsail yn y galw. Nawr, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl fod yna adegau prysurach na'i gilydd. Maent yn bodoli yn ystod y gaeaf, yn ogystal ag ar adegau eraill o'r flwyddyn, ac rydym wedi clywed bod rhai adegau eithriadol o brysur wedi bod. Ond ni allwch barhau i wthio'r un stori ar bobl dro ar ôl tro, oherwydd nid ydych yn adlewyrchu'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd a beth y mae pobl ar y rheng flaen yn ei ddweud wrth bobl fel fi a llefarydd y Ceidwadwyr gyferbyn â mi.
Y gwir amdani yw nad oes gan ein GIG y cydnerthedd i allu ymdopi ag adegau prysur bellach. Mae nifer y gwelyau wedi parhau i fod yn uwch na'r lefel ddiogel o 85 y cant ers 2011. Dros yr un cyfnod ers hynny, mae Llywodraethau Llafur olynol wedi torri nifer y gwelyau 10 y cant. Nid wyf yn credu bod hynny'n gyd-ddigwyddiad. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn dweud, 'Gwrthdrowch y toriadau i nifer y gwelyau'. Rydym wedi amlinellu sut y byddem eisiau hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol a miloedd o nyrsys ychwanegol dros y degawd nesaf.
Mae prinder gwelyau a staff mewn ysbytai, a diffyg integreiddio gyda gofal cymdeithasol yn golygu bod llawdriniaethau'n cael eu canslo; mae'n golygu ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau achosion brys; mae'n golygu cleifion mewn gwelyau ar y coridorau; ac mae'n golygu bod ein staff ardderchog a grybwyllwyd gennych ac a drysorir gan bob un ohonom yn cael eu rhoi o dan bwysau cynyddol. Mae'n anghynaliadwy. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ac rwyf am ei ddweud eto yma yn awr: ar ôl rhedeg GIG Cymru am y 19 blynedd diwethaf bron iawn, rwy'n ofni nad yw Llafur yn gallu wynebu dyfnder problemau'r GIG bellach, oherwydd byddai cyfaddef bodolaeth y problemau hynny'n golygu cyfaddef eich rhan yn achosi'r problemau. Pa bryd y bydd y Llywodraeth hon yn tynnu ei phen o'r tywod, a chyfaddef ei rhan yn y problemau a rhoi cynllun priodol, hirdymor, cynaliadwy ar waith i fynd i'r afael â hwy?
Rwy'n gresynu at gywair Rhun ap Iorwerth wrth fynd i'r afael â'r mater difrifol iawn hwn—[Torri ar draws.] Mae awgrymu ein bod yn gwthio stori ar bobl yn gwadu realiti. Nid yw cynnydd o 54 y cant yn y galw am ambiwlansys coch ar Nos Calan yn wthio stori ar bobl. Mae hwnnw'n gynnydd gwirioneddol yn y galw nas cynlluniwyd ar ei gyfer—a sut ar y ddaear y gallech chi gynllunio ar gyfer hynny beth bynnag. Ddydd Calan, roedd cynnydd o 29 y cant yn y galw am ambiwlansys coch. Rydym wedi gweld gwyro eithriadol rhag y norm. Er enghraifft, mewn gofal y tu allan i oriau, gwelsom gynnydd sylweddol yng Nghaerdydd a'r Fro, sydd fel arfer yn ystod cyfnod y Nadolig—ar noswyl Nadolig a dydd Nadolig—yn gweld cwymp yn y galw am wasanaethau, ond eleni, gwelsom gynnydd sylweddol. Felly, nid yw'n bwysau y gallech, yn rhesymol, gynllunio ar ei gyfer o ran y cynnydd hwnnw. Dyma gyflwyniad ffeithiol o'r hyn sy'n digwydd.
Credaf fod ceisio awgrymu mai'r rheswm am hyn yw oherwydd bod plaid wedi difetha ein gwasanaeth—. Mae'n bosibl ei fod yn creu penawdau gwych ar gyfer ffyddloniaid y blaid, ond mewn gwirionedd nid yw'n ein galluogi i ddeall natur yr heriau sy'n ein hwynebu nac yn ein galluogi i wneud rhywbeth yn ei gylch. Credaf mai fy swydd yn y Llywodraeth yw ceisio bod yn gyfrifol ac yn ymatebol ac yn adeiladol ynglŷn â sut rydym yn gwneud hynny. Dyna pam, mewn gwirionedd, o ran eich pwynt olaf ynglŷn â dyfodol hirdymor iechyd a gofal yn y wlad hon a'r methu paratoi i wneud rhywbeth, dyna'n union rydym wedi'i wneud. Ar sail drawsbleidiol, rydym wedi cyfarwyddo panel o arbenigwyr i gynnal adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd gennym yr adroddiad hwnnw o fewn wythnos, ac yna byddwn yn trafod ac yn gorfod gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyfodol hirdymor y system iechyd a gofal yma yng Nghymru. Ymhell o geisio osgoi'r heriau go iawn a hynod o anodd, rydym wedi ceisio bod yn adeiladol ac yn aeddfed wrth wneud hynny, ac yna bydd gennym sail ddilys, ystyrlon a heriol i'r Llywodraeth hon, a gweithredwyr gwleidyddol eraill hefyd yn y lle hwn a thu hwnt, allu gwneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, er gwaethaf eich tystiolaeth yn ein pwyllgor ynglŷn â phwysau'r gaeaf a sut y mae'n effeithio ar y GIG yng Nghymru, ymddengys nad ydym byth yn dysgu o'r profiadau hyn; ymddengys ein bod yn cael ein dal ar y gamfa bob tro, fel pe bai pwysau'r gaeaf yn rhywbeth newydd. Ymddengys bod y gair 'digynsail' yn codi bob tro, fel pe bai'r gair hwn yn esgusodi'r ffaith nad ydym yn dysgu o brofiadau'r gorffennol.
Wrth gwrs, mae'r £10 miliwn ychwanegol i'w groesawu, ond rwyf eisiau gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y cafodd y £50 miliwn ei wario wrth fynd i'r afael â'r sefyllfa hon sy'n digwydd yr adeg hon bron bob blwyddyn? Pa wersi sy'n cael eu dysgu o un flwyddyn i'r llall mewn perthynas â phwysau'r gaeaf, a sut rydych yn gweithredu arnynt? Unwaith eto, rydym yn clywed bod achosion ffliw wedi ychwanegu at y pwysau, fel y byddent wrth gwrs, ond unwaith eto, nid yw ffliw yn rhywbeth newydd i'n gwlad ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Rydym yn ei ddisgwyl—mae'n oeri—ac rydym yn disgwyl i'r ffliw fod yn ganlyniad i hyn, yn rhannol. Mae'n digwydd ar yr un pryd bob blwyddyn ac mae'n rhaid i ni fod yn barod am hyn.
Dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod adrannau achosion brys yn ysbytai Cymru yn teimlo fel maes brwydr i staff. Gwyddom fod y nifer a ymwelodd ag adrannau damweiniau ac achosion brys yn uwch nag 1 filiwn. Ond pam, pan ydym yn annog pobl i ddefnyddio fferyllfeydd, er enghraifft, eu bod yn dal i fynd i adrannau damweiniau ac achosion brys? Ai'r rheswm am hyn yw oherwydd na allant gael yr apwyntiadau meddyg teulu y maent yn teimlo eu bod eu hangen ac mai adrannau damweiniau ac achosion brys yw'r dewis amgen bellach?
Pa drafodaethau y byddwch yn eu cael gyda staff gofal sylfaenol a staff gofal eilaidd i gael syniad o'r sefyllfa rydym ynddi? Pa gyfran o'r derbyniadau brys hyn y gellid bod wedi ymdrin â hwy drwy ddulliau eraill, megis ymweliadau â meddygon teulu a fferyllfeydd? A oedd y staff ysbyty yn yr adrannau hyn yn barod a niferoedd llawn yn bresennol?
Rydych yn nodi bod cyrff y GIG wedi bod yn cynllunio ar gyfer y cyfnod hwn ers diwedd y gaeaf diwethaf—wedi'u cefnogi gan y £50 miliwn o gyllid i'w helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng gweithgarwch gofal brys a gofal wedi'i gynllunio—ac eto nid oes gennym ddigon o welyau na staff i ymdopi gyda'r sefyllfa hon o hyd. Sut y gallwn gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fel nad ydym yn canslo llawdriniaethau ar gyfer cleifion a fyddai'n gallu arwain at sefyllfa lle bydd angen triniaeth ychwanegol arnynt oherwydd yr oedi hwn, sy'n cael effaith ganlyniadol ar gost wrth gwrs, oherwydd maent yn costio mwy yn y tymor hir, neu mae'n bosibl y gallent? Pa strategaeth rydych wedi'i chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf—
Rwy'n credu eich bod eisoes wedi amlinellu digon o gwestiynau i'r Gweinidog. Rwy'n amau a fydd yn gallu eu cofio erbyn hyn.
Mae'n ddrwg gennyf. Pa strategaeth rydych wedi'i chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf fel y gall pob meddyg teulu a holl staff ysbytai gyfarfod i fynd i'r afael â hyn? Diolch.
Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau manwl. Rwy'n sylweddoli mai 20 munud yn unig sydd gennym ar yr agenda ar gyfer y tri chwestiwn, felly rwyf am geisio bod yn gryno wrth ymateb. Rwy'n credu fy mod wedi ymateb i'r cwestiynau am yr arian a'r olwg ehangach ar y gaeaf eleni i geisio dysgu ar gyfer y flwyddyn nesaf yn fy ateb i Angela Burns. Mae yna gwestiwn i'r Llywodraeth, ond hefyd i'r gwasanaeth iechyd, ynghyd â chydweithwyr llywodraeth leol a thai yn ogystal, o ran deall yr hyn rydym wedi'i wneud eleni a beth arall y mae angen i ni ei wneud yn y blynyddoedd i ddod wrth i ni, yn raddol, gynllunio a darparu system fwy integredig sy'n deall anghenion y dinesydd a sut rydym yn ymdrin â hwy.
Mae hynny'n arwain at y rhan fwyaf ddiddorol o'ch cyfres o gwestiynau, o bosibl, ynglŷn â sut y gall y cyhoedd fod yn rhan o hyn hefyd. Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi'r bai ar y cyhoedd, ond yn hytrach mae'n ymwneud â sut rydym yn paratoi'r cyhoedd i wneud dewisiadau gwahanol a sut rydym yn sicrhau bod y dewisiadau hynny ar gael. Mae'r ymgyrch Dewis Doeth yn annog pobl i feddwl yn wahanol, ac ychydig cyn y Nadolig, gwelsom y gwasanaeth ambiwlans yn cynhyrchu rhestr o alwadau a gawsant ar gyfer peswch ac annwyd a phoen ysgwydd nad oeddent yn alwadau 999 o gwbl. Felly, mae honno'n rhan go iawn o'n system, ond mewn gwirionedd mae angen i ni reoli'r galw'n wahanol a newid disgwyliadau ynghylch y galw hwnnw. Mewn gwirionedd, mae'r buddsoddiad rydym yn ei wneud ym maes fferylliaeth yn enghraifft dda o'r awydd i wneud hynny.
Yn y gwersi sydd i'w dysgu yn ystod y gaeaf hwn ac ar ôl y gaeaf hwn, rwy'n disgwyl y cawn fwy nag adroddiad sych ar faterion gweithredol, ond un a fydd yn gorfod ystyried profiad go iawn staff ym mhob rhan o'n system, er mwyn ceisio cynllunio ymlaen llaw wedyn, nid yn unig ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond, yn yr ymateb i'r adolygiad seneddol, ar gyfer yr heriau tymor canolig a hwy y mae pob un ohonom yn eu hwynebu wrth i'n gwlad newid, wrth i'r galw gynyddu, ac fel y mae pawb ohonom yn gwybod, wrth i arian fynd yn brinnach ac wrth iddi ymddangos bod llai o arian nag o'r blaen i iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â gwasanaethau cyhoeddus eraill, a rheoli galw sy'n cynyddu'n barhaus.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, ac mae'r cwestiwn gan Simon Thomas.