Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 10 Ionawr 2018.
Mae hynny'n wir, ac mewn gwirionedd, y staff ymroddedig a gweithgar hyn sydd wedi dwyn nifer sylweddol o bryderon i fy sylw dros y 10 diwrnod diwethaf. Rydym wedi gweld colegau brenhinol yn cyflwyno sylwebaeth a datganiadau am y pwysau enfawr sydd wedi bod ar eu staff. Rwyf wedi cyfarfod â cholegau brenhinol yn yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â meddygon, nyrsys, staff rheng flaen a gweithiwr ambiwlans. Mae pob un ohonynt yn sôn am yr un peth: sylwadau fel 'nid wyf erioed wedi gweld GIG Cymru yn y fath gyflwr', fod eu cydweithwyr 'ar ymyl y dibyn' a bod staff rheng flaen 'o dan bwysau aruthrol'. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain eu hun wedi dweud nad oedd gan un ardal bwrdd iechyd yng Nghymru unrhyw staff llanw o gwbl o ran meddygon teulu. Rydym wedi colli dros 2,000 o oriau ambiwlans yn ystod y saith neu wyth diwrnod diwethaf. Dywedodd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys bod rhai pobl yn aros dros 80 awr mewn adrannau achosion brys cyn cael eu derbyn i'r ysbyty.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae hwn yn fater enfawr. Rwy'n derbyn yn llwyr nad ydych chi yn bersonol yn gyfrifol am faterion rheng flaen sy'n mynd o chwith. Rwy'n derbyn yn llwyr y cafwyd mwy o broblemau yn ystod y gaeaf hwn a bod y gaeaf hwn gryn dipyn yn llymach nag y rhagwelodd pawb. Ond fy mhryder i yw eich bod wedi neilltuo tua £50 miliwn cyn y gaeaf i baratoi ar gyfer hyn a hoffwn ofyn i chi gynnal asesiad brys o sut y gwariwyd y £50 miliwn hwnnw. A gyrhaeddodd yr arian y rheng flaen, ac os felly, ble a sut, a beth y llwyddodd i'w wella? A lwyddodd y rheolwyr i gynnwys y bobl gywir yn y gwaith cynllunio? Oherwydd mae meddygon teulu yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae meddygon ysbyty yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae arweinwyr unedau achosion brys yn dweud nad oeddent yn rhan o'r paratoadau ar gyfer y gaeaf. Ni chafwyd cyfrif o'r tri neu bedwar diwrnod, felly, i bob pwrpas, cawsom bythefnos gyfan gydag ond ychydig iawn o staff llanw tebyg i'r hyn a geir ar wyliau banc. Roedd gwasanaethau cymdeithasol yn absennol am bythefnos i bob pwrpas. Gwelsom oedi enfawr wrth drosglwyddo gofal. Roedd gan ysbyty Mynydd Bychan ddwy ward gyfan yn llawn o bobl yn aros i fynd adref.
A fyddech chi hefyd yn derbyn, neu'n edrych ar y rheolwyr o fewn y GIG, oherwydd mae'n ymddangos ein bod yn gwneud yn wych o ran strategaeth, ond rydym yn ei chael hi'n anodd rhoi'r strategaeth honno ar waith? Pan fo gennych nyrs neu reolwr gwelyau yn dweud, 'Nid wyf am agor gwely a rhoi gwely ychwanegol ar y ward honno oherwydd bydd y gwely hwnnw'n creu risg i'r ward honno', rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond mae risg yn ymwneud â chydbwysedd risg. Felly, pa un yw'r gwaethaf: cael un gwely ar agor ar ward, neu gael person ar droli am 80 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys? Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gofyn i chi sicrhau ein bod yn dwyn y rheolwyr, rheolwyr y GIG, i gyfrif am y materion hynny.
Rydych newydd ddyfarnu £10 miliwn arall yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae angen i ni wneud yn siŵr fod y £10 miliwn hwnnw yn mynd i'r rheng flaen ac yn datrys y problemau hyn. Cynhaliwyd ymchwiliad rhagorol gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Llwyddasom i greu adroddiad cryf ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. Daeth y bobl atom a dweud wrthym nad oeddent yn cael eu cynnwys. Maent yn parhau i ddweud hynny heddiw. Mae angen i chi ddarganfod beth aeth o'i le, a buaswn yn gofyn i chi geisio mynd at wraidd hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae rhywbeth yn rhywle heb weithio. Ac fel y dywedoch hi ar y cychwyn, mae gennym lawer o bobl ragorol sy'n gweithio'n galed iawn ac sydd o dan bwysau aruthrol. Ein gwaith ni yw codi'r pwysau hwnnw oddi ar eu hysgwyddau.