Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 10 Ionawr 2018.
Bydd Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid yn gweld yn yr ohebiaeth fod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â nifer fach o bryderon niferus y pwyllgor, ond mae’r rhan fwyaf o'n cwestiynau yn dal i fod heb eu hateb. Ond rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â’r rheini heddiw. Mae ein hadroddiad, 'Y Llanw’n troi?', yn mynd i'r afael â nifer o bethau, gan gynnwys dull Llywodraeth Cymru o orfodi, argaeledd data dibynadwy a chyllid, a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig ar ôl Brexit. Ond heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar y tri maes allweddol a ddeilliodd o'r ymchwiliad: yr angen i Lywodraeth Cymru fabwysiadu rôl arweiniol gryfach, yr angen am lefelau priodol o adnoddau, o ran arian a staffio, a'r angen am fwy o dryloywder yn y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo.
Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom feirniadaeth gan randdeiliaid ynglŷn â diffyg arweiniad Llywodraeth Cymru. Nid yw hon yn gŵyn newydd. Clywodd y pwyllgor blaenorol alwadau am arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2012. Mae rhanddeiliaid eisiau i Lywodraeth Cymru roi cyfeiriad strategol clir. Byddai hyn yn sicrhau bod system reoli gydlynol ar waith ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a bod pawb yn ei deall. Yn syml, os yw Cymru am wireddu manteision ei hardaloedd morol gwarchodedig yn llawn, mae’n rhaid eu rheoli’n effeithiol. Mae'r pwyllgor felly wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a bod yr holl awdurdodau rheoli, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â rheoli ardaloedd morol gwarchodedig. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n amlwg o’r ymateb na fydd unrhyw strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig. Gobeithio fy mod wedi camddeall hynny ac y bydd yna strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig. Bydd yna gynllun gweithredu. Y pryder amlwg yw nad honno fydd y ddogfen strategol sydd ei hangen mor ddybryd. Gobeithio y bydd y term 'cynllun gweithredu' yn cael ei gychwyn gan strategaeth, ac y bydd y cynllun gweithredu yn dod o dan y strategaeth honno, oherwydd rydym angen strategaeth er mwyn bwrw ymlaen, a dylai’r cynllun gweithredu fod o dan y strategaeth honno yn hytrach na bodoli ar wahân.
Ysgrifennydd Cabinet, mae rhanddeiliaid wedi bod yn mynegi pryder am ddiffyg arweinyddiaeth ers pum mlynedd o leiaf. Mae'r rhain yn bryderon diffuant gan bobl ynglŷn â’r amgylchedd morol. Mae'r rhain yn bobl sy'n gweithio yn yr amgylchedd, pobl sydd â diddordeb dwfn yn yr amgylchedd ac sydd eisiau gweld gwelliant yn y modd y rheolir ardaloedd morol gwarchodedig. Dylid mynd i’r afael â’u pryderon. Nid yw'n glir yn eich ymateb beth, os oes rhywbeth, fydd yn cael ei wneud yn wahanol yn y dyfodol. Dyma bobl sy'n poeni o ddifrif am yr amgylchedd morol, ac er y bydd Aelodau eraill yma'n codi i areithio amdano, mae'r bobl hyn yn poeni amdano bob dydd o'r flwyddyn, ac i lawer ohonynt dyma sy'n rhoi angerdd i'w bywydau.
Yr ail faes allweddol oedd adnoddau, yn ariannol ac o ran staffio. Ni ofynnodd rhanddeiliaid am symiau enfawr o arian na chynnydd enfawr yn y niferoedd staffio. Credaf eu bod, mewn gwirionedd, yn deall eu bod yn annhebygol o gael y naill na'r llall. Roeddent yn bragmataidd iawn ac yn deall y pwysau ariannol ehangach sydd ar Lywodraeth Cymru. Ond roeddent yn glir: ni ellir rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn effeithiol heb y lefel briodol o adnoddau. Mae'r pwyllgor yn nodi bod £0.5 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer y môr a physgodfeydd yng nghyllideb 2018-19. Bwriedir iddo fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y costau sy'n gysylltiedig â nodi a dynodi pump o ardaloedd morol gwarchodedig newydd a sicrhau bod ardaloedd morol gwarchodedig yn cyrraedd ac yn parhau mewn cyflwr ffafriol. Wrth gwrs, mae’r adnodd ychwanegol hwn i'w groesawu, ond rydym wedi ceisio sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet fod yr adnodd hwn yn ddigonol i gyflawni’r nifer o flaenoriaethau uchelgeisiol sydd ganddynt. Yn syml, a oes digon o arian i gyflawni'r hyn rydym eisiau ei weld yn cael ei gyflawni?
Ni chawsom sicrwydd fod yr adnoddau staffio presennol o fewn Llywodraeth Cymru yn ddigonol i gyflawni ei chyfrifoldebau cadwraeth forol. Roeddem hefyd yn pryderu y byddai diffyg adnoddau yn cael effaith negyddol ar weithgaredd Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gysylltiedig ag ardaloedd morol gwarchodedig ar unwaith ac yn y tymor canolig. Rydym hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer cyllido dull sy’n seiliedig ar ardal, gyda swyddog penodedig i bob ardal reoli. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod manteision i’r dull hwn, yn arbennig o ran atgyfnerthu darpariaeth leol a hwyluso cydweithrediad traws-safle, a buaswn yn dadlau, efallai yn bwysicaf oll, y dylai pobl adnabod y person y mae’n rhaid iddynt fynd i’w gweld ynglŷn â phroblem yn yr ardal. Rwy’n credu bod cael rhywun wrth y llyw, rhywun sy'n gyfrifol amdano, yn gwneud bywyd yn llawer haws. Eir i’r afael â’r materion hyn yn ein hail argymhelliad, a dderbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei bod yn anghytuno â dull sy’n seiliedig ar ardal, gan ddweud ei bod yn credu y byddai canolbwyntio ar brosiectau penodol yn fwy costeffeithiol ac yn darparu gwell gwerth am arian.
Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet hawl i anghytuno ag argymhellion y pwyllgor wrth gwrs. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth i egluro’r safbwynt amgen hwnnw. Bydd yr Aelodau'n gweld, yn ein gohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet, fod y pwyllgor wedi gofyn am gael gweld unrhyw ddadansoddiad ariannol sy'n cefnogi safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet. Nid ydym wedi derbyn hwnnw eto, ond rwy’n siŵr, unwaith eto, y bydd hwnnw’n cael ei ddarparu i ni y prynhawn yma.
Tryloywder—fe drown yn awr at ein trydydd maes allweddol. Roedd llawer o randdeiliaid yn teimlo’n gryf fod yna ddiffyg tryloywder mewn perthynas â chyfarfodydd y nifer sylweddol o grwpiau a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymrwymiad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd cofnodion y grŵp llywio ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu cyhoeddi.
Cawsom wybod hefyd fod diweddariadau gan y grŵp llywio yn cael eu rhannu â grŵp cynghori a gweithredu rhanddeiliaid Cymru ar faterion morol, ac ar gael ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, nid yw cofnodion y grŵp hwn ar gael, dim ond eu cylch gorchwyl. Rwy’n siomedig fod ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod nodiadau grŵp cynghori ar bysgodfeydd môr Cymru ar gael, ond ar gais yn unig. Pam na ellir eu rhoi ar y rhyngrwyd? Mae pobl yn rhoi llawer o bethau ar y rhyngrwyd. Bydd pobl sydd â diddordeb ynddo yn gallu cael mynediad ato. Os gallwn sicrhau un peth heddiw, os gwelwch yn dda, a gawn ni ofyn i’r rheini gael eu rhoi ar y rhyngrwyd? Os ydynt ar gael i unrhyw un sy'n gofyn amdanynt, yna nid ydynt yn cael eu cadw'n gyfrinachol am unrhyw reswm penodol, felly, i arbed pobl rhag gorfod gofyn amdanynt, gadewch i ni eu rhoi ar y rhyngrwyd, a gadael i bobl gael mynediad atynt.
Ar gyfer grwpiau eraill a arweinir gan Lywodraeth Cymru, mae crynodeb o'r cyfarfodydd ar gael, ond unwaith eto, ar gais yn unig. Ac rwy’n gwneud yr un cais i Lywodraeth Cymru—peidiwch â’u darparu ar gais yn unig, gwnewch yn siŵr eu bod ar gael ar y rhyngrwyd. Nid yw hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon sylweddol a fynegwyd gan randdeiliaid ynglŷn â diffyg tryloywder y grwpiau hyn. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam na ellir cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd y grwpiau hyn i gyd.
I gloi, mae hwn yn faes hollbwysig, o ystyried gwerth ein hardaloedd morol gwarchodedig i gefnogi bywyd gwyllt, ein diwydiant twristiaeth arfordirol a’n pysgodfeydd. Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r rhanddeiliaid a’r aelodau o'r cyhoedd a gyfrannodd at waith y pwyllgor. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i aelodau'r pwyllgor, a roddodd lawer iawn o amser ac ymdrech i’r prosiect hwn. Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig, ond er gwaethaf y ffaith fod pob un ond un o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn, mae’n rhaid i mi ddirwyn i ben drwy ailadrodd pryderon y pwyllgor fod diffyg eglurder ynglŷn â beth fydd yn newid yn ymarferol, ac o ganlyniad, pa un a fydd unrhyw gynnydd yn cael ei wneud mewn gwirionedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwelsom ddoe yn y ddadl ar y cynllun morol, mae hwn yn gyfnod cyffrous i bolisi morol yng Nghymru, ac mae cefnogaeth ar draws y Siambr i bwyslais newydd ar y polisi hwn. Ceir cefnogaeth ymhlith y cyhoedd, yn enwedig yn y sector gwirfoddol a sectorau eraill sydd â diddordeb yn yr amgylchedd morol a'r polisi hwn. Mae gennych lawer iawn o ewyllys da gan Aelodau yn y fan hon, a’r cyhoedd yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithio y byddwch yn defnyddio'r ewyllys da hwnnw i barhau i fwrw ymlaen. Croesewais yr adroddiad morol ddoe, a chredaf fod hwnnw'n gam ymlaen. Gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle i sicrhau rhanddeiliaid fod hwn yn flaenoriaeth i chi, ac y gallant ddisgwyl gweld gwelliannau ystyrlon o ganlyniad i'r adroddiad hwn. Rydym wedi aros am amser hir i’r môr wneud ei ffordd i frig yr agenda wleidyddol yng Nghymru, ac rydym wedi ei wthio yno yr wythnos hon. Gadewch i ni obeithio y gallwn wneud cynnydd sylweddol yn dilyn y ddadl hon.