Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 10 Ionawr 2018.
Rwy'n falch o gymryd rhan mewn dadl mor bwysig yma y prynhawn yma. Nawr, fel y bydd yr Aelodau'n deall, mae'r ymchwiliad a'r adroddiad hwn yn arbennig o berthnasol i Sir Benfro, gan fod mwyafrif helaeth y môr o amgylch y sir wedi'i leoli mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Yn wir, ar daith ddiweddar i Ynys Dewi gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, gan wisgo fy het hyrwyddwr rhywogaethau, cefais gyfle i drafod yr ymchwiliad penodol hwn ac i siarad am ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi a diogelu ardaloedd morol gwarchodedig yn well yng Nghymru.
O'r drafodaeth honno ac o drafodaethau gyda rhanddeiliaid a grwpiau lleol eraill—ac rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ei chynllun gweithredu morol drafft—mae'n amlwg o'r adroddiad hwn fod y cyfarwyddyd strategol hwnnw ar reolaeth forol yng Nghymru wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun yn awr sy'n gweithio gyda'r diwydiant morol a rhanddeiliaid, ac un y gellir ei gyflawni ar lawr gwlad. Daeth adolygiadau blaenorol o waith rheoli morol i'r casgliad yn gyson fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth uwch i reoli ardaloedd morol gwarchodedig, ac er bod bwriadau Llywodraeth Cymru yn rhai da, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, mae angen inni weld arweinyddiaeth ar y mater hwn.
Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw bod cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet yn dynn a bod adnoddau weithiau'n annigonol i ddiwallu'r dibenion a fwriadwyd, ac yn sicr, nid wyf yn eiddigeddus o sefyllfa Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn glir iawn fod angen mwy o adnoddau o ran staffio a chyllid er mwyn gallu rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn gynaliadwy ledled Cymru, ac mae rhanddeiliaid wedi dweud yn glir iawn fod diffyg adnoddau yn rhwystro'r gallu i gyflawni gwaith sy'n ymwneud ag ardaloedd morol gwarchodedig. Felly, mae'n hollbwysig, wrth symud ymlaen, fod y gyllideb ar gyfer gweithgaredd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael ei fonitro'n drylwyr. Er fy mod yn falch o weld ymateb Llywodraeth Cymru y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadw'r gyllideb hon dan arolwg, wrth ymateb i'r ddadl heddiw efallai y gall ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau'n fwy rheolaidd ar y lefel o adnoddau a chyfeiriad strategol ei pholisïau morol.
Wrth gwrs, nid staffio ac adnoddau yw'r unig broblemau sy'n wynebu ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae argymhelliad 3 yn adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn gwbl glir fod rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ardaloedd morol gwarchodedig ac ymgysylltu'n well â rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Mae ardaloedd morol gwarchodedig, pan gânt eu rheoli'n briodol, yn cynnig manteision eang ac mae'r moroedd sy'n ffinio â fy etholaeth i yn Sir Benfro wedi'u dynodi ar gyfer diogelu rhywogaethau pwysig, gan gynnwys poblogaeth fwyaf y byd o adar drycin Manaw sy'n nythu a niferoedd pwysig yn rhyngwladol o'r pâl, ac rwy'n falch o fod yn un o hyrwyddwyr y rhywogaeth honno. Yn wir, bob blwyddyn, mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i Sir Benfro i weld ein bywyd gwyllt hardd, a thra'u bod yno wrth gwrs, maent yn gwario arian yn yr ardal leol ac yn helpu i gefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3, gan ei gwneud yn glir fod ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018 yn gyfle gwych i hyrwyddo gwerth ein hardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, rwy'n bryderus na ddangoswyd dull o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ardaloedd morol gwarchodedig a manteision y mesurau diogelu hyn y tu hwnt i 2018 a Blwyddyn y Môr, ac ni amlinellwyd unrhyw ymrwymiadau pellach yn y llythyr dilynol ar 2 Tachwedd, yn sgil llythyr gan y pwyllgor yn gofyn am eglurhad pellach. Felly, o gofio bod ein bywyd gwyllt a'n twristiaeth yng Nghymru yn dibynnu cymaint ar iechyd ein moroedd, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig rhagor wrthym ynglŷn â pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo manteision ardaloedd morol gwarchodedig a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'u pwysigrwydd y tu hwnt i ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018.
Ddirprwy Lywydd, fel John Griffiths, hoffwn grybwyll argymhelliad 9 yn fyr, a'r effaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Rwy'n sylweddoli bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, ni roddwyd unrhyw fanylion ynghylch unrhyw asesiadau sy'n cael eu gwneud o effaith gadael yr UE ar ein hardaloedd morol gwarchodedig. Fel y cyfeiriodd Simon Thomas, mae'r rhan fwyaf o'r môr a warchodir yn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru wedi'i ddynodi o dan gyfarwyddebau natur yr UE o fewn safleoedd morol Ewropeaidd, gan gynnwys ardal gadwraeth forol arbennig Sir Benfro, sy'n ymestyn dros 130,000 hectar. Fel y dywedodd Neil Hamilton yn gynharach, rwy'n credu, cynlluniwyd ardaloedd morol gwarchodedig yn benodol i gyd-fynd â safleoedd morol Ewropeaidd fel rhan o system warchodaeth ddwy haen, sef cyfreithiol ac ecolegol. Felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i gadw'r system warchodaeth ddwy haen hon fel y gall y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig yn nyfroedd Cymru weithredu fel y bwriadwyd.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni ellir gorbwysleisio manteision ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, ond rhaid iddynt gael eu rheoli'n gywir gyda'r adnoddau priodol. Wrth symud ymlaen, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo o ddifrif i ddarparu mwy o arweinyddiaeth a hybu gwerth ardaloedd morol gwarchodedig Cymru lawer yn fwy nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, gan y bydd hyn, yn ddiau, yn cryfhau ein diwydiant twristiaeth yn ogystal â gwarchod amgylchedd ein moroedd yn y dyfodol.