Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 10 Ionawr 2018.
Rwy'n croesawu dadl Plaid Cymru heddiw a'r cyfle i gyfrannu ati.
Nid Cymru yw'r wlad gyfoethocaf yn y byd, ond rydym yn rhan ddatblygedig o'r byd gorllewinol, ac yn un o'r economïau mwyaf a chyfoethocaf yn y byd, ac eto caiff rhai pobl eu gorfodi i fod yn ddigartref, ac mae hynny'n golygu, fel cymdeithas, ein bod oll yn methu ar un o'r pethau sylfaenol. Dyna pam y mae arnom angen llawer mwy o dosturi mewn perthynas â'r cwestiwn hwn.
Rhaid i roi diwedd ar ddigartrefedd ddod yn amcan cenedlaethol, ond mae safbwyntiau anghywir ac wedi'u gorliwio yn dal i fodoli am bobl ddigartref. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch yn cofio'r Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiynau gan Blaid Cymru ychydig cyn y Nadolig, yn dweud ei bod yn amlwg
'bod rhai pobl wedi byw ar y strydoedd ers blynyddoedd, ac i rai pobl mae'n ymddangos ei fod yn ddewis y maen nhw'n ei wneud'.
Wel, mewn gwirionedd nid wyf yn ei gofio'n ei ddweud ar y pryd, ond yn ôl ym 1988, drwy gyd-ddigwyddiad, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau a ffrind Margaret Thatcher, Ronald Reagan:
Maent yn ei wneud yn ddewis iddynt eu hunain i aros yno. Ceir llochesi ymron bob dinas, ac mae llochesi yma, ac mae'n well gan y bobl hynny fod allan ar y pafin neu'r lawnt na mynd i un o'r llochesi hynny.
A welwch chi'r tebygrwydd?
Mae llochesi'n chwarae rôl hanfodol yn atal y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd rhag cynyddu ymhellach, ond mae yna resymau cymhleth pam nad yw rhai pobl yn eu defnyddio, ac yn dewis peidio â mynd i lochesi. Mae'r rhesymau hynny'n amrywio o broblemau camddefnyddio sylweddau, euogfarnau troseddol blaenorol, i ba un a yw anifeiliaid yn cael eu caniatáu mewn llochesi a pha un ai ystafelloedd sengl neu gyfleusterau cymunedol sydd ganddynt.
Felly, sut y gallwn fynd i'r afael â phroblem digartrefedd? Bellach mae angen inni weithredu'r hyn a elwir yn bolisi tai yn gyntaf. Byddai hyn yn rhoi dewis o opsiynau i bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl ddigartref wrth ddod o hyd i lety parhaol.
Gan droi at y mesurau sydd ar waith i atal digartrefedd, rwyf wedi dadlau ers amser hir fod angen mwy o weithredu a mwy o uchelgais. Fis yn ôl, pan heriais y Prif Weinidog ynghylch pa gamau yr oedd yn eu rhoi ar waith mewn gwirionedd, nid oedd yn swnio'n hyderus iawn yn ei atebion. Mae'n ddiddorol nodi na soniodd ar y pryd ei fod yn bwriadu buddsoddi £10 miliwn mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc—cyhoeddiad a wnaed oddeutu wythnos yn ddiweddarach.
Roedd yn dda gweld bod y pwysau ychwanegol hwn wedi sicrhau'r buddsoddiad o £10 miliwn ond fel y mae pethau, mae'n swm bach iawn ac mae'n dangos diffyg uchelgais go iawn. Ni chafwyd unrhyw ymgynghori ymlaen llaw, er syndod amlwg i'r sector. Hefyd, mae'n ymddangos ei fod yn anwybyddu bodolaeth polisi a sefydlwyd ers 10 mlynedd a oedd i fod i gael gwared ar ddigartrefedd erbyn y flwyddyn nesaf. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynllun strategol i roi terfyn ar bob math o ddigartrefedd. Ceir rhaglenni eraill da iawn allan yno: cynlluniau mwy o faint, mwy uchelgeisiol, lle y cafwyd tystiolaeth briodol o ymgynghoriadau, yn enwedig y rhaglenni y mae rhai wedi sôn amdanynt eisoes sy'n cael eu datblygu ym Manceinion.
Rwyf am droi yn awr, er hynny, at y cwestiwn o atal digartrefedd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn deall gwerth y gyllideb Cefnogi Pobl. Pan fo Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi argymell dileu'r cynllun, mae Plaid Cymru wedi camu i'r adwy i'w ddiogelu. Mae bron yn draddodiad bellach ein bod wedi gorfod gwneud hyn. Cytundeb y gyllideb yn ddiweddar yw'r trydydd tro y bu'n rhaid i ni ymyrryd i sicrhau bod y llif arian gwerthfawr hwn yn cael ei ddiogelu. Beth y mae'n ei ddweud ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi gorfod gwneud hyn? Rydym wedi cael sicrwydd fel rhan o'r fargen gyllidebol ddiweddar y caiff cyllid Cefnogi Pobl ei diogelu am y ddwy flynedd nesaf. Os daw tystiolaeth i'r fei o unrhyw lithriad yn y diogelwch hwnnw, bydd hynny'n torri cytundeb y gyllideb ac yn bwysicach, yn gwneud cam â phobl sydd mewn perygl yn y wlad hon, ac nid yw'r bobl hynny'n haeddu cael eu siomi ymhellach.
Ceir newidiadau polisi y gallai'r Llywodraeth eu rhoi ar waith yn awr. Gallech roi diwedd ar angen blaenoriaethol, gallech roi diwedd ar y prawf Pereira, gallech roi diwedd ar brawf bwriad, gallech greu dyletswydd gyffredinol wedi ei hariannu i ddarparu llety addas, hyd yn oed os mai lloches addas tra doir o hyd i gartref parhaol ydyw. Mae digartrefedd yn bla yn 2018. Mae'n broblem gymdeithasol gynyddol, ac mae angen ymagwedd newydd radical ar ôl bron i ddegawd o gyni. Dylai niferoedd y bobl sy'n cysgu ar strydoedd Cymru neu sy'n byw o un soffa i'r llall godi cywilydd ar bob un ohonom. A ydym yn cywilyddio digon i wneud rhywbeth ystyrlon am y broblem?
Ni ddylai'r hyn y mae Plaid Cymru yn ei amlinellu yma heddiw swnio'n rhy radical oherwydd dyma'n union a gynigiwyd ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth yn 2012. Rydym wedi bod yn siarad am hyn ers llawer gormod o amser bellach; mae'n bryd gweithredu o ddifrif.