– Senedd Cymru am 2:41 pm ar 16 Ionawr 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James, i wneud y datganiad—Julie James.
Diolch, Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae busnes y tair wythnos nesaf i'w weld ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Diolch, arweinydd y tŷ. A gaf i ofyn am ddau beth heddiw, os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, fe wnes i sôn wrthych am y mater ynghylch trigolion a oedd yn wynebu problemau traffig yn eu hardal o amgylch y ffordd fynediad ogleddol yn Sain Tathan, ac fe wnaethoch chi nodi'n garedig y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cysylltu â'm swyddfa i, a hefyd yn ymgysylltu â'r trigolion lleol. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi amserlen i mi ar gyfer pryd y bydd yr ymgysylltu hwnnw yn dechrau, oherwydd mae hwn yn fater pwysig i'r trigolion yn arbennig, sydd â phryderon difrifol am y mynediad i'w safle. Yn anffodus, yn dilyn datganiad busnes yr wythnos diwethaf, nid wyf wedi cael unrhyw ohebiaeth eto gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n sylweddoli bod gan Ysgrifennydd y Cabinet yr ewyllys da i wneud hynny—sylwad yw hynny—a byddai'n fuddiol pe byddwn i'n gallu cael rhyw syniad o'r llinell amser.
Yn ail, cefais ateb ysgrifenedig yn ôl gan Rebecca Evans, y Gweinidog, o ran y Gronfa Buddsoddi mewn Adfywio ar gyfer Cymru a'r ymchwiliadau parhaus ar gyfer gwerthu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio. Mae'n dweud y bydd hi'n gwneud datganiad cyn bo hir ar y cynnydd ynghylch y camau cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd. Byddwn i'n ddiolchgar—fel arweinydd y tŷ, a ydych chi'n ymwybodol pryd y bydd y datganiad hwnnw yn cael ei wneud efallai, oherwydd y mae gan y cyhoedd diddordeb sylweddol yn y mater penodol hwn? Bu cryn amser, bellach, ers i amryw o bwyllgorau'r Cynulliad hwn archwilio'r mater penodol hwn, ac yn sicr bydd y wybodaeth ddiweddaraf, fel y mae'r Gweinidog wedi nodi y mae hi'n fodlon ei rhoi, yn cael ei groesawu yn sicr, ond byddai llinell amser ynghylch pryd y bydd hynny'n digwydd yn rhoi gwell gwybodaeth i ni allu archwilio'r cynnydd ar adfer arian trethdalwyr Cymru o'r gwerthiant hwn, os gellir adennill yr arian hwnnw, a hefyd y camau cyfreithiol y mae Llywodraeth Cymru eu cymryd yn yr achos penodol hwn.
Diolch i chi am y ddau cwestiwn yna. O ran yr un cyntaf, yn sicr, byddaf yn siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet ac yn sicrhau y bydd ef yn cysylltu â chi ac yn rhoi llinell amser i chi ar gyfer hynny. Mae'r Gweinidog yma i glywed eich sylwadau ac rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu dweud wrthych chi cyn gynted â phosibl pryd y bydd hi'n cyflwyno'r datganiad hwnnw. Nid yw hynny yn yr amserlen busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Tybed a allem ni gael datganiad o ran y cynnig gofal plant. Rwyf wedi clywed—nid gan etholwyr; yn fy swydd fel deiliad y portffolio—bod canllawiau ariannu Llywodraeth Cymru ynghylch y cynnig gofal plant bellach wedi newid i adlewyrchu'r rhai yn Lloegr, sy'n golygu na fydd gwarchodwyr plant cofrestredig mwyach yn gallu cynnig lleoedd gofal plant a ariennir, i berthynas. Roedd y rheoliadau blaenorol yn nodi, cyhyd â bod y gofal ar gyfer y rhai o dan 12 oed yn bennaf neu'n gyfan gwbl yn cael ei gyflawni y tu allan i'r cartref, gallai perthynas, fel gwarchodwr plant, ddarparu'r gofal hwnnw. Mae'n golygu bod teuluoedd sydd â threfniadau gofal plant preifat hirdymor gyda gofalwyr plant yn gorfod gwneud trefniadau gwahanol, a allai fod yn gost sylweddol ac a allai amharu ar ddilyniant gofal. Mae'r gwaharddiad ar blant sy'n perthyn yng Nghymru yn unigryw i warchodwyr plant. Mae unigolion sy'n gweithio neu sy'n berchen ar feithrinfa yn dal i allu hawlio ar gyfer plant sy'n perthyn, fel af y mae'r rhai sy'n derbyn budd-dal plant. Felly, pe gallem ni gael datganiad gan y Gweinidog am hynny, byddai hynny'n wych.
Mae'r ail gais sydd gennyf, yn ymwneud â'r ymateb a roddodd y Prif Weinidog i David Rees ynghylch y llythyr oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch carchar Baglan. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi ysgrifennu at y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac, oherwydd nad yw wedi cael ymateb boddhaol, nid oedd Llywodraeth Cymru o blaid gwerthu'r tir ar hyn o bryd. Roeddwn i'n meddwl tybed a allai Llywodraeth Cymru rannu'r llythyr hwnnw â phob Aelod Cynulliad fel y gallem ni i gyd ei weld a deall rhesymeg y Prif Weinidog wrth ddweud hynny.
Diolch i chi am y ddau bwynt pwysig yna. O ran yr un cyntaf, roedd y Gweinidog yma yn gwrando ar eich sylwadau. Rwy'n credu os byddech chi'n ysgrifennu at y Gweinidog ac yn ei holi am y pwyntiau penodol hynny, rwy'n siŵr y byddai'n gallu ateb y cwestiynau hynny, ac efallai y byddech chi'n gallu dweud yn y llythyr hwnnw pa un a oes unrhyw ddiddordeb ehangach yn gyffredinol, heblaw am yr achosion yr ydych chi'n sôn amdanynt.
O ran yr ymateb i'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, unwaith eto, rwyf yn gofyn ichi ysgrifennu at y Prif Weinidog gan ofyn iddo rannu'r llythyr hwnnw. Nid wyf i'n credu bod hwnnw'n fater ar gyfer datganiad, ond rwyf yn siŵr os oes ganddo fwriad o wneud hynny, y byddai'n rhoi gwybod i chi.
Rwyf yn galw am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, a fyddai'n bosibl cael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol ynghylch sut y mae Deddf Hela 2004 yn cael ei gorfodi yng Nghymru? Rwy'n credu bod bron i 13 mlynedd ers i'r Ddeddf hon ddod i rym, ac rwy'n falch iawn bod Prif Weinidog y DU yn awr, o'r diwedd, wedi rhoi gorau i'r cynlluniau i'w diddymu. Fodd bynnag, mae llwynogod yn parhau i gael eu lladd yn rheolaidd ar lwybrau hela honedig, ac mae cŵn hela yn aml heb fod o dan reolaeth yn gyhoeddus, weithiau ar brif ffyrdd a rheilffyrdd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi galwadau gan y League Against Cruel Sports ac eraill, i'r gwaharddiad gael ei orfodi'n fwy llym? Dyna oedd y datganiad cyntaf.
O ran yr ail ddatganiad, rwy'n cyfeirio yn ôl eto at ddioddefwyr y sgandal gwaed halogedig. A fyddai'n bosibl gofyn i'r Gweinidog Iechyd i wneud datganiad ar ba un a yw wedi cael unrhyw wybodaeth ychwanegol o gwbl gan yr adran iechyd yn San Steffan, oherwydd cafodd dioddefwyr y sgandal addewid y byddai archwiliad yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf gan Theresa May ac addawyd y byddai Cadeirydd yn cael ei benodi erbyn y Nadolig? Rydym ni'n dal heb glywed pwy fydd y Cadeirydd ac, yn y cyfamser, mae'r rhai yr effeithir arnynt yn dal i aros ac, wrth gwrs, mae rhai ohonyn nhw'n marw.
Wel, diolch yn fawr iawn am godi'r ddau bwynt pwysig iawn yna. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn nad yw'r Ddeddf hela yn fater datganoledig, ac mai mater i'r heddlu yw gorfodi'r ddeddf. Fodd bynnag, rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod y rhan fwyaf o bobl yn credu bod hela llwynogod yn ffiaidd ac yn eithriadol o greulon. Rydym ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried hynny wrth orfodi'r ddeddf. Ond rwy'n credu mai'r ffordd gywir o weithredu yw sicrhau bod comisiynydd yr heddlu lleol yn gwneud yn siŵr bod gorfodi'r Ddeddf bresennol yn brif flaenoriaeth ar gyfer yr heddlu, a byddwn i'n barod iawn i gynorthwyo'r Aelod i gael siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet am ymgysylltu â chomisiynwyr yr heddlu ar y pwynt pwysig hwnnw.
O ran mater y gwaed halogedig, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r Cadeirydd wedi ei benodi eto. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau ei ddisgwyliadau ar gyfer yr ymchwiliad, i'r Cadeirydd cyn gynted ag y caiff y Cadeirydd ei benodi. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, os na fydd y Cadeirydd wedi ei benodi yn y dyfodol agos iawn, yn dangos ei anfodlonrwydd yn amlwg iawn ynghylch pa mor hwyr yw'r penodiad hwnnw.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Mae'r cyntaf yn ymwneud â chael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yng ngoleuni'r ddau ymgynghoriad nad ydynt wedi cael sylw, y cyntaf oedd yr ymgynghoriad ar y cylchlythyr drafft ar gyfer cynllunio safleoedd Sipsiwn/Teithwyr a phobl sioe, a ddaeth i ben, rwy'n credu, ar 23 Mai, bron i wyth mis yn ôl; a'r ail, y cylchlythyr drafft ar alluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a ddaeth i ben ar 22 Rhagfyr, ychydig cyn y Nadolig. Roedd y Sipsiwn a'u cefnogwyr a'u ffrindiau y cyfarfum â nhw yng Nghonwy ddydd Gwener diwethaf, wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru y byddai adroddiad terfynol ymgynghoriad cyntaf yr ymgynghoriadau hynny yn cael ei gyhoeddi cyn Nadolig 2017. Dywedasant wrthyf, oni bai bod gan awdurdod lleol ganiatâd cynllunio ar gyfer safle penodol, ni chaiff wneud cais am gyllid grant, ond nad oes unrhyw awdurdod lleol yn y gogledd ar hyn o bryd mewn sefyllfa o barodrwydd a chaniatâd cynllunio ar gyfer cyflwyno ceisiadau am gyllid grant. Dywedasant wrthyf hefyd, pan gyfarfuon nhw â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno, roedden nhw'n ansicr ynghylch pa gamau y gallai Ysgrifennydd y Cabinet eu cymryd yn erbyn awdurdod lleol sy'n methu â chyflwyno cymeradwyaethau cynllunio a cheisiadau grant ar gyfer safleoedd, a'u barn nhw ar hyn o bryd yw mai prin yw dylanwad Llywodraeth Cymru ar awdurdodau lleol. Felly, byddem yn ddiolchgar pe byddech chi'n gallu, neu os gallai Llywodraeth Cymru, wneud datganiad sy'n adlewyrchu'r ddau ymgynghoriad hyn a'r pryderon a fynegir, un sicr i mi ddydd Gwener diwethaf, gan aelodau o'r gymuned yn y gogledd.
Yn ail ac yn olaf, a gaf i ofyn am ddatganiad ar wasanaethau bws lleol? Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad ar 16 Rhagfyr, dydd Sadwrn, bod y cwmni bysiau, D. Jones a'i Fab, a leolir yn Acrefair, yn rhoi'r gorau i fasnachu, ddeufis ar ôl bod yn destun craffu gan ymchwiliad cyhoeddus Comisiynydd Traffig Cymru. Fel Aelodau eraill yn sicr, cefais bryderon gan y trigolion yr effeithiwyd arnynt a oedd wedi colli gwasanaethau bws lleol, yn gofyn am gymorth ynghylch cael cysylltiadau bysiau newydd. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet ddeuddydd yn ddiweddarach, ar y dydd Llun canlynol. Rwy'n dal i aros am ateb i'r cwestiwn hwnnw. Cysylltais hefyd ag aelod arweiniol Cyngor Wrecsam dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, a ddywedodd wrthyf fod swyddogion yn parhau i edrych ar wahanol ddewisiadau; a bod hyn yn anodd, oherwydd bod nifer o weithredwyr bysiau wedi rhoi'r gorau i weithredu ledled y rhanbarth; ac er gwaethaf uwchgynhadledd bysiau Ysgrifennydd y Cabinet, nid oedden nhw wedi gweld unrhyw ddatblygiad sylweddol yn digwydd; ac ar ôl bod mewn dau o'r tri gweithdy bysiau, roedd hwn yn sicr yn fater ehangach ledled Cymru. Cynhaliodd Ysgrifennydd y Cabinet ei uwchgynhadledd bysiau flwyddyn yn ôl, ym mis Ionawr 2017, gan ddweud mai ei bwrpas oedd atal tranc y diwydiant, yn dilyn cwymp cwmni bysiau GHA o Riwabon, yn ystod yr haf blaenorol. Felly, gan ystyried y pryderon sy'n cael eu codi nid yn unig gan drigolion yr effeithir arnynt, sydd yn aml ar lwybrau masnachol yn hytrach nag ar lwybrau a gomisiynir, a gan ystyried y pryderon sy'n cael eu mynegi ynghylch y ffaith nad oes unrhyw gamau sylweddol yn dod o'r uwchgynhadledd bysiau a gweithdai dilynol, byddwn i'n croesawu datganiad sy'n adlewyrchu eu pryderon gan obeithio rhoi rhywfaint o sicrwydd iddyn nhw bod rhywun yn gwrando arnynt.
Diolch am y ddau gwestiwn yna. O ran yr un cyntaf, y fi yw'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol am safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, ac rwy'n bwriadu cyflwyno datganiad i'r Senedd cyn gwyliau'r Pasg er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am fy sefyllfa ers imi gymryd rheolaeth dros y portffolio ar nifer o faterion. Fodd bynnag, soniodd yr Aelod am rai materion penodol iawn ynghylch safleoedd penodol y mae ganddo ddiddordeb ynddynt, a byddwn i'n fwy na pharod i gwrdd â'r aelod i drafod rhai o'r materion penodol iawn hynny. Rwyf wedi gwneud trefniadau i ymweld â rhai o safleoedd dan sylw hefyd, felly byddai'n ddelfrydol pe byddai'r aelod yn trefnu i drafod y materion penodol iawn â mi. Ond, o ran y pwyntiau mwy cyffredinol, byddaf yn cyflwyno datganiad yn y dyfodol agos.
O ran y gwasanaethau bws lleol, mae'n codi pwynt pwysig iawn. Dywedodd ei fod yn aros am ateb i'w gwestiynau ysgrifenedig, a byddwn i'n awgrymu bod yr Aelod yn aros i weld beth yw'r ateb i'r cwestiwn ysgrifenedig, ac os oes pwynt mwy cyffredinol y mae ef yn dymuno ei godi wedyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet a fydd o fudd i'r Senedd gyfan, rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod i ystyried hynny, gan fod blwyddyn ers y cynhaliwyd yr uwchgynhadledd bysiau.
A allwn ni gael dadl yn amser y Llywodraeth ar bolisi'r Llywodraeth ar ddadleuon cynnig y gwrthbleidiau? Mae'n debyg nad oes yn rhaid i mi atgoffa arweinydd y tŷ fod y Llywodraeth, yr wythnos diwethaf, wedi colli pleidlais am y tro cyntaf yn y Cynulliad. Nawr, mewn ymateb i hynny, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, a dyfynnaf,
Mae'r Diwrnod pleidleisio i'r gwrthbleidiau yn... ddiystyr. Nid ydyn nhw'n orfodol ac nid ydynt nhw'n cael unrhyw effaith ar bolisi na chyflawniad y Llywodraeth.
Nawr, pan wnaeth Llywodraeth San Steffan sylwadau yr un mor drahaus yn ddiweddar, dywedodd arweinydd y tŷ yr wrthblaid Lafur yn San Steffan, bod y sylwadau hynny yn gwneud y Senedd yn destun sbort. Nawr, onid yw hi'n cytuno bod y sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf yn gwneud y Senedd yn gyff gwawd? Maen nhw'n ddiraddiol i'r sefydliad hwn. Maen nhw'n amharchus i'r holl bobl sydd wedi brwydro yn galed iawn i greu democratiaeth yng Nghymru lle, yn wahanol i gyfnod y Swyddfa Gymreig, mae'r Llywodraeth yn gorfod ildio ei hun i atebolrwydd Senedd etholedig, ni waeth pa mor gwbl anghyfleus y gall hynny deimlo weithiau.
Wel, diolch am godi'r pwynt pwysig iawn yna. Nid wyf yn credu o gwbl bod hynny'n rhywbeth addas i'w gyflwyno ar gyfer dadl y Llywodraeth yn amser y Llywodraeth. Rwyf yn credu ei bod yn drueni mawr bod y ffordd gydsyniol y mae'r Cynulliad hwn bob amser wedi gweithredu, gan gynnwys caniatáu y Llywodraeth i baru, er enghraifft, i gynnal busnes pwysig y Llywodraeth, wedi dirywio, ac rwy'n credu y ceir canlyniadau amlwg ar gyfer y ffordd yr ydym ni'n cynnal y Llywodraeth o ganlyniad. Mae'n fater pwysig y mae angen ei ystyried yn ofalus, ac ar hyn o bryd mae'r Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth ofalus iddo.
A gaf i ofyn am ddatganiad ar effaith toriadau heddlu y Torïaidd ar droseddu yn ein cymunedau? Rydym wedi gweld cynnydd o 18 y cant ers y llynedd mewn troseddu treisgar, cynnydd o 14 y cant mewn troseddu â chyllyll yn y de, ond cynnydd o 25 y cant mewn troseddu â chyllyll ledled Cymru gyfan, cynnydd i 84,000 o droseddau heb eu datrys, sy'n fwy na'r ddwy flynedd flaenorol, ac, ers 2010, mae Cymru wedi colli 682 o swyddogion. Nawr, efallai nad yw plismona wedi'i ddatganoli eto, ond yn sicr mae'r toriadau heddlu hynny wedi cael effaith sylweddol ar ein cymunedau, ac mae'n ymddangos i mi y byddai'n briodol i'r Llywodraeth, yn ei hamser ei hun, gael dadl ar effaith toriadau heddlu y Torïaid.
Wel, diolch am godi'r pwynt pwysig iawn yna. Mae diogelwch cymunedol, wrth gwrs, yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Mae'r Aelod yn amlwg yn ymwybodol nad yw plismona yn fater sydd wedi'i ddatganoli, er gwaethaf y sylwadau amrywiol sydd wedi'u gwneud i San Steffan ar y pwynt hwnnw.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus setliad dros dro yr heddlu ar 19 Rhagfyr 2017, ac, yn debyg i flynyddoedd diweddar, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu eto i droshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion â mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn sicrhau y gall yr holl heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael setliad arian gwastad ar gyfer 2018-19 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2017-18. Bydd cyfanswm y cymorth ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn £349.9 miliwn. O fewn y swm hwn, cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2018-19 yw £140.9 miliwn.
Rydym wedi cytuno hefyd i amddiffyn y gyllideb ar gyfer y 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ar gyfer 2018-19. Mae hynny'n £16.8 miliwn sydd wedi’i glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf i barhau i ddarparu'r ymrwymiad pwysig hwnnw.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymrwymedig iawn i weithio gyda'r heddlu a chomisiynwyr troseddu a'r prif gwnstabliaid i sicrhau bod y toriadau yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Bydd ef, ynghyd â'i swyddogion, yn fodlon iawn i gyfarfod â'r holl gyrff plismona i drafod cyllid a materion eraill i sicrhau bod y materion pwysig sy'n ymwneud â diogelwch cymunedol yn cael eu cynnwys yn briodol.
Mae wedi bod yn anodd iawn gwneud rhai o'r penderfyniadau hyn, gan gofio'r pwysau ar gyllidebau. Rwyf wedi gweld rhai pethau da iawn, yn ystod fy nghyfnod byr yn y portffolio hwn, o ran peth o'r gwaith aml-asiantaeth y mae'r heddlu wedi'i gyflawni er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ganddynt ar lawr gwlad, ond mae'r Aelod yn iawn, mae'n fater pwysig, ac rwy'n siŵr y gallwn ni gael dadl yn y dyfodol agos iawn ynglŷn â phwysigrwydd y mater hwnnw i Gymru.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar daliadau gan ymddiriedolaethau GIG Cymru am iawndal a ffioedd cyfreithiol oherwydd esgeulustod meddygol? Yn ôl gwaith ymchwil, yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae pedwar o'r saith bwrdd iechyd lleol wedi talu dros £200 miliwn. Mae'n ffigur trawiadol, Gweinidog, ac, yn y bôn, gellid defnyddio hyn i drechu tlodi plant, digartrefedd a banciau bwyd yng Nghymru. Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan dalodd y swm uchaf, sef £67 miliwn, yn ystod y cyfnod, er bod £2 filiwn ar gyfer camgymeriadau hanesyddol sy'n gysylltiedig â digwyddiadau cyn 1997. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar ba gamau y mae ef yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r symiau enfawr hyn oherwydd esgeulustod meddygol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Wel, mae hwnnw'n fater pwysig iawn mewn gwirionedd, a gan ei fod yn fater mor bwysig, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno adroddiad yn flynyddol ar y ffigurau hynny. Rwy'n siŵr ei fod ef wedi clywed eich sylwadau heddiw ac y bydd yn rhoi ystyriaeth iddynt yn ei adroddiad nesaf ar y pwnc.
Roedd arweinydd y tŷ yn hael iawn yr wythnos diwethaf wrth ateb ceisiadau gennyf i. Gobeithio y bydd hi yr un mor hael yr wythnos yma. A gaf i ddechrau gan groesawu'r ffaith bod datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog y bore yma ynglŷn â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn dweud, oni bai bod rhywbeth yn digwydd erbyn diwedd y mis, ei bod hi'n fwriad gan y Llywodraeth gyflwyno ei Bil parhad ei hun? Rwy'n croesawu hynny, ond rwy'n gofyn i arweinydd y tŷ jest i fynd dau gam ymhellach heddiw, os oes modd. Fe fydd fy nghydweithiwr, Steffan Lewis, yma yfory i gynnig ei Fil parhad ei hun, yn y slot y mae ef wedi'i gael fel Aelod mainc gefn. A wnaiff ysgrifennydd y tŷ, fel prif chwip, ddatgan y bydd y Llywodraeth yn cefnogi, mewn egwyddor, gais Steffan Lewis yfory? Mae’n siŵr y byddai’n licio clywed hynny heddiw, os caiff e. Yn ail, a fyddai nawr, felly, yn gam positif i gyhoeddi’r Bil ar ffurf ddrafft, fel bod modd inni i gyd weld beth sydd gan y Llywodraeth mewn golwg? Nid ei gyflwyno yn ffurfiol, ond ar ffurf ddrafft, inni weld hynny a’i ddefnyddio fel ffordd o grisialu’r angen i gael y gwelliannau y mae’r Llywodraeth yn dymuno eu gweld yn Nhŷ’r Arglwyddi erbyn hyn.
Yr ail beth y byddwn i’n hoffi, yn benodol, ei glywed yw: a oes modd cael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd yn egluro’r sefyllfa yng Nghaerdydd ac yn enwedig Nant Lleucu a Pharc y Rhath? Nid yw hi yn fy rhanbarth i, ond mae sawl un wedi cysylltu â fi dros yr wythnosau diwethaf yn poeni yn arw am y ffordd y mae’r ymgynghoriad wedi digwydd yn ardal Parc y Rhath a’r gwaith sydd nawr yn bwrw ymlaen yn y fan honno. Rwy’n poeni bod rhai o’r ffigurau a ddefnyddiwyd yn yr ymgynghoriad yn ddiffygiol, ac rwyf hefyd eisiau gofyn a oes yna wersi i’w dysgu fan hyn ar lefel genedlaethol. Rwy’n meddwl y byddai’n braf iawn cael datganiad yn egluro beth sydd wedi digwydd, beth yw gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru a’r cyngor a dderbyniodd y Llywodraeth, a pham y mae’r gwaith wedi gorfod bwrw ymlaen yn y ffordd y mae. Mae'n sicr wedi bod yn loes calon i nifer o bobl yn yr ardal honno.
Y peth olaf, os caf i—a dydw i ddim hyd yn oed yn gwybod os yw hwn yn rhywbeth ar gyfer y rheolwr busnes mewn gwirionedd, efallai ar gyfer y Llywydd o bosibl, efallai i ni i gyd fel Cynulliad o bosibl, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn cael ei godi. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi ceisio am yr ail flwyddyn yn olynol i gael Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddod i'r Pwyllgor Cyllid i roi, mewn sesiwn agored, gyhoeddus, ei farn ef ar sut y mae pwerau treth yn cael eu datganoli yng Nghymru. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yno yr wythnos diwethaf, mae Trysorlys Cymru wedi bod yno, bydd yr awdurdod cyllid yno yr wythnos hon, ac rwy'n credu, fel cyd-ddeiliaid datganoli treth fel a nodir yn Neddf Cymru—mae wedi'i ddiffinio'n glir mai cyfrifoldeb Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru fydd llunio adroddiadau blynyddol ar sut y gweithredir datganoli treth, ac felly, y nhw yw cyd-randdeiliaid a deiliaid y broses ddatganoli hon—hoffwn weld yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi o'i amser i bwyllgor o'r Cynulliad hwn i esbonio sut y mae hyn yn digwydd. Mae wedi beio, ar ddau achlysur nawr, ymrwymiadau eraill yn ei ddyddiadur. Yr wythnos diwethaf—oherwydd bod y cyfryngau cymdeithasol yn beth gwych—wrth i ni gyfarfod, gwelais y byddai'n rhaid bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi mynd heibio i ni er mwyn cyrraedd ei apwyntiadau yn Abertawe. Byddem wedi gwneud pob trefniant, fel yr wyf yn siŵr eich bod yn ymwybodol, rheolwr busnes, i'w groesawu ar ei ffordd i Abertawe. Felly, credaf fod yna neges yma y byddem yn hoffi gweld, pan fo hynny'n briodol a gan ei fod yn gyfrifol yn gyfansoddiadol am y camau hyn, yr Ysgrifennydd Gwladol yn sicrhau ei fod ar gael i bwyllgor y Cynulliad hwn.
Wel, diolch i chi am y tri phwynt pwysig iawn hynny. Ar y Bil Parhau, rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at ddadl Steffan Lewis yfory. Mae'r Llywodraeth yn ei gefnogi ac mae pleidlais rydd i Aelodau'r meinciau cefn. Rydym ni yn bendant o'r farn y byddai'n well pe byddai Llywodraeth y DU yn rhoi'r safbwynt cywir yn ei Bil ei hun ac yn gwneud y gwelliannau cywir ac yn cymryd y gyfres gywir o gamau gweithredu, ond, yn absenoldeb hynny, rydym ni'n ei gwneud yn glir iawn—ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn codi yn y ddadl yfory—ein bod yn barod i wneud hynny yn eu lle ac i gydlynu â gweinyddiaethau datganoledig eraill wrth wneud hynny. Felly, rwy'n hapus iawn i ddweud ein bod o'r un farn yn union ac rydym ni'n edrych ymlaen at y ddadl honno yfory.
Ar fater Parc y Rhath, mae hwn yn fater a godwyd gan nifer fawr o bobl dros gyfnod y cynllun atal llifogydd. Bydd y Gweinidog yn ateb cwestiynau yn rhan o amser holi Ysgrifennydd y Cabinet yfory, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn manteisio ar hynny. Ac os oes ganddo bethau manwl penodol iawn yr hoffai ofyn iddi, efallai y byddai cystal ag ysgrifennu ati i nodi rhai o'r pethau penodol iawn hynny. Mae hi yma, yn gwrando ar rai o'i bryderon ar hyn o bryd.
O ran yr Ysgrifennydd Gwladol, rwy'n cytuno'n llwyr â dadansoddiad yr Aelod ohono. Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn fater i mi, mewn gwirionedd, ond mae'n amlwg yn wir bod angen i'r Pwyllgor Cyllid gael y dystiolaeth orau bosibl a deall yn llwyr y naill ochr a'r llall o'r setliad datganoli. Felly, os yw o ryw werth, rwy'n cytuno y byddai'n dda iawn pe byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn ddigon caredig i ganiatáu i ni fanteisio ar ei bresenoldeb yma. Ac mae'n rhaid i mi ddweud—rwy'n siŵr, Llywydd, y gwnewch chi faddau imi am wneud hyn—ond y tro nesaf y bydd ef yn Abertawe, efallai y bydd gystal â chyhoeddi ymrwymiad ariannol y morlyn llanw ar yr un pryd.
A gaf i alw am ddau ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, os gwelwch yn dda? Adroddwyd yn helaeth yn y cyfryngau ddoe bod athrawon o 16 o'r 22 o awdurdodau lleol, y llynedd, wedi adrodd achosion o hiliaeth. Rwy'n siŵr eich bod yn bryderus iawn am hynny, arweinydd y tŷ. Hefyd, bu cynnydd eithaf sydyn, wrth gwrs, mewn troseddau casineb crefyddol a gofnodwyd yng Nghymru. Credaf fod llawer o ysgolion yn ceisio gwneud gwaith da o ran addysgu pobl ifanc am wahanol grwpiau ethnig a chrefyddau, ond wrth gwrs, yn amlwg dydyn ni ddim yn ymdrin â'r broblem mor effeithiol ag y gallem ni. Rwy'n gwybod bod rhai gwersi treialu yn cael eu cynnal mewn ysgolion yng Nghaerdydd, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, ac rwy'n credu bod hynny'n beth cadarnhaol iawn, a meddwl oeddwn i tybed pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi'i wneud o ffurf y cwricwlwm newydd sydd ar y gorwel, a pha un a yw hwnnw wedi'u lywio gan yr wybodaeth gywir am y tueddiadau diweddaraf hyn, er mwyn i ni allu gwneud unrhyw newidiadau a allai fod yn angenrheidiol. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater penodol hwnnw.
A gaf i hefyd wneud cais am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar gydnerthedd ar-lein a'r cymorth a roddir i bobl ifanc mewn ysgolion? Cyhoeddwyd adroddiad eithaf brawychus gan y comisiynydd plant yn Lloegr yn y flwyddyn newydd a oedd yn dangos bod pobl ifanc yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer plant hŷn ac oedolion, ac o ganlyniad i hynny, mae llawer, yn arbennig pan fyddan nhw'n mynd i'r ysgol uwchradd, yn neidio o gyfnod pontio lle maen nhw'n bennaf yn chwarae gemau ar eu dyfeisiau i fod wedi'u trochi yn sydyn mewn awyrgylch cymdeithasol dwys iawn ar y cyfryngau cymdeithasol, lle maen nhw'n chwilio am ddilysiad cymdeithasol drwy nifer y bobl sy'n hoffi ac yn ymateb i rai o'r pethau y maen nhw'n eu postio mewn ffordd nad yw'n iach, ac yn aml mae ganddyn nhw ddelwedd nad yw'n iach o'r byd, yn arbennig os ydyn nhw'n dilyn llawer o enwogion ac yn ceisio cadw wyneb. Mae'n eithaf amlwg i mi fod y duedd hon yn tyfu, mae'n dod yn broblem gynyddol yn ein hysgolion, a chlywsom yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am hunan-niwed, gorbryder a phroblemau iechyd meddwl—a bod llawer ohonyn nhw â'u gwreiddiau yn rhai o'r cyfryngau cymdeithasol y mae pobl ifanc yn eu defnyddio. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol cael diweddariad ar rywfaint o'r gwaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi bod yn ei wneud ledled Cymru i annog ysgolion i roi trefn ar y sefyllfa cydnerthedd ar-lein er mwyn gallu amddiffyn ein plant a'n pobl ifanc rhag y niweidiau posibl hyn.
Mae'r Aelod yn codi dau bwynt eithriadol o bwysig, ac mae'r ddau ohonyn nhw, fel mae'n digwydd, yn gorgyffwrdd â'm portffolio fy hun, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg arnyn nhw. Felly, yr un cyntaf, o ran adrodd am droseddau casineb ar sail hil, troseddau casineb ar sail crefydd ac ati, rwy'n credu mewn gwirionedd mai fi fydd yn cyflwyno datganiad ar hynny maes o law. Does gen i ddim amserlen ar gyfer hynny ar hyn o bryd, ond rydym ni wrthi'n trafod, Ysgrifennydd y Cabinet a minnau, rai o'r materion pwysig sy'n ymwneud â hynny, a phan fydd gennym rywbeth i'w adrodd yn ôl ar y pwnc pwysig hwn—. Rwy'n credu mai fi fydd yn gwneud hynny, dydw i ddim yn hollol siŵr, ond fe fydd un ohonom ni yn cyflwyno datganiad i ddweud ble'r ydym ni ar hynny. Bydd hynny'n cynnwys nifer o bethau, nid y cwricwlwm a materion athrawon yn unig, ond y mater ehangach yng Nghymru, sy'n bwysig iawn. Ac, wrth gwrs, mae'r sector addysg yn rhan o'r sector ehangach hwnnw ac mae'n ddylanwadol iawn ynddo. Felly byddwn yn edrych ar y ddau ohonyn nhw.
O ran cydnerthedd ar-lein, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn yn y fan hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn o waith mewn ysgolion cynradd, mewn gwirionedd, gyda'r ceidwaid rhyngrwyd, rwy'n credu mai dyna beth yr ydym ni'n eu galw nhw, mewn rhai ysgolion. Ceir gwarcheidwaid rhyngrwyd—dyna yr oedden nhw yn eu galw nhw mewn un ysgol gynradd yr ymwelais â hi. Yn y bôn, maen nhw'n blant oed ysgol gynradd sy'n cynorthwyo ei gilydd i ddeall beth fydd yr effaith, yn arbennig ym mlwyddyn 6 ac yn y cyfnod pontio i'r ysgol uwchradd. Oherwydd, mae'r Aelod yn llygad ei le; mae'n nodi'r newid mewn tôn ac ati yn y fan honno, a gwn fod hynny'n rhan bwysig iawn o gyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac mae'n rhan fawr o'r adnoddau Hwb yr ydym wedi eu rhoi ar waith hefyd. Unwaith eto, mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd ar sut yr ydym yn gwneud hynny wrth inni fwrw ymlaen i'r oes ddigidol yn rhan o'm portffolio: sut yr ydym yn gwneud yn siŵr, unwaith eto, nid yn unig o ran plant ysgol—er ei bod yn bwysig iawn i blant ysgol—ond mewn gwirionedd hefyd pethau fel mentrau bach a chanolig ac entrepreneuriaid, pobl sy'n rhedeg busnesau bach gwledig ac ati, eu bod nhw yn aros yn ddiogel ar-lein, yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd y rhyngrwyd, ond hefyd yn gwneud pethau fel amddiffyn eu heiddo deallusol, trefnu bod ganddyn nhw y gydnerthedd gywir, cydnerthedd seiberddiogelwch, ac ati. Mae'n rhan o'r un darlun wrth inni fwrw ymlaen. Felly gobeithio y bydd yr Aelod yn dawel ei feddwl o wybod ein bod yn trafod hyn, ac eto, maes o law, pan fydd gennym rywbeth i'w adrodd yn ôl ynghylch ble'r ydym ni ar hyn, fe fyddwn ni'n gwneud hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd ynglŷn â'r effaith y bydd torri cyllideb y rhaglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan, neu SchoolBeat, yn ei gael ar y gwaith pwysig y mae'r rhaglen honno yn ei ddelifro? Rydw i'n gwybod, yng ngogledd Cymru, ei fod yn cyflogi 16 o swyddogion sydd yn ymweld â phob ysgol ac sydd yn cyfleu negeseuon pwysig i'r plant, o'r ieuengaf yn bedair oed lan i 16 oed, ar faterion megis dysgu am beryglon cyffuriau, camddefnyddio sylweddau, diogewlch ar y we—rydym ni newydd gyfeirio at hynny, wrth gwrs—secstio, trais yn y cartref ac yn y blaen. Mi fyddai torri'r gyllideb honno, wrth gwrs, o beth rydw i'n ei ddeall, yn golygu y gallai'r gwasanaeth fod yn cael ei adael â dim ond wyth o swyddogion yn y gogledd, ac yn golygu y byddai dim ond yn ymweld ag ysgolion uwchradd. Nawr, o gofio pwyslais y Llywodraeth, a nifer ohonom ni, wrth gwrs, ar yr angen i daclo profiadau plentyndod niweidiol—adverse childhood experiences—oni fyddai hyn, a thorri'r gwasanaeth yma, yn gam yn ôl o safbwynt mynd i'r afael â rhai o'r problemau yna? Ac, wrth gwrs, byddai'n tanseilio cyfrwng pwysig i gyfleu negeseuon pwysig iawn yn uniongyrchol i'r bobl ifanc a allai gael eu heffeithio ganddyn nhw. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi datganiad ar hynny.
Rydw i hefyd am ofyn am ddatganiad arall. A gaf i fod efallai yn un o'r cyntaf i groesawu'r datganiad ysgrifenedig sydd wedi'i ryddhau o fewn yr awr ac ychydig ddiwethaf ynglŷn ag arian cyfalaf ychwanegol gan y Llywodraeth, yn arbennig, wrth gwrs, yr elfen ychwanegol o safbwynt ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? Rydym ni fel plaid wedi bod yn awyddus i weld elfen benodol ar gyfer annog addysg Gymraeg, ac rydw i'n cydnabod y ffaith bod y Llywodraeth wedi clustnodi £30 miliwn eleni, ac, yn wir, £30 miliwn bob blwyddyn am y blynyddoedd nesaf, ac yn datgan yn y datganiad hefyd bod hynny nawr yn flaenoriaeth rydych chi'n ei rannu gyda ni ym Mhlaid Cymru. A gawn ni felly, yn sgil hynny, ddatganiad buan gan Weinidog y Gymraeg er mwyn amlinellu'r criteria y bydd hi'n awyddus i'w ddefnyddio ar gyfer dosbarthu a dosrannu yr arian ychwanegol yna? Ac hefyd i ategu y ffaith, wrth gwrs, na ddylem ni weld y £30 miliwn ychwanegol yma fel y ddarpariaeth ar gyfer addysg Gymraeg, ond bod yna bwyslais clir ynglŷn ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ei chyfanrwydd yn dal i orfod bod yn gweithredu'n gwbl rhagweithiol i hyrwyddo addysg Gymraeg, a bod y £30 miliwn yma yn ychwanegol ac yn cynnig ychwanegolrwydd—additionality—i hynny hefyd. Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig nad yw'r neges yna ddim yn cael ei golli.
Wel, diolch yn fawr iawn am hynny. Mae hynny'n bwysig iawn. O ran yr un cyntaf, mae gennym ni nifer fawr o benderfyniadau anodd iawn i'w gwneud o ran darparu adnoddau ac ati, ond un o'r pethau sy'n wirioneddol dda ynghylch lle yr ydym ym maes cydnerthedd ysgolion yw'r ffaith ein bod bellach wedi cyflwyno Hwb i bob un ysgol a disgybl ledled Cymru. Ac er nad yw yr un fath â chlywed rhywun wyneb yn wyneb, erbyn hyn gallwn ni gael llawer o'r adnoddau hynny ar Hwb a gwneud yn siŵr bod gan bob ysgol, mewn gwirionedd, fynediad at rywfaint o'r deunydd hwnnw. Rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar hynny'n ofalus iawn, ac os hoffai Llyr ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ac amlinellu rhai o'r pryderon penodol iawn hynny, rwy'n siŵr y bydd hi'n gallu mynd i'r afael â hynny gan ystyried rhai o'r datblygiadau yr ydym wedi'u gweld. Rwyf wedi bod yn trafod gyda hi, pan fo hynny'n gorgyffwrdd â fy mhortffolio fy hun, sut y gallwn ddefnyddio'r adnoddau hynny yn y modd hwnnw i wneud yn siŵr bod pob ysgol yn elwa ar rai o'r pethau pan nad yw'n bosibl mynd i bob un ohonyn nhw'n unigol.
O ran y cyllid ychwanegol i'r Gymraeg, dywedir wrthyf ei bod yn rhyddhau'r £13 miliwn ychwanegol ar gyfer blynyddoedd y dyfodol, felly dylai'r Aelod fod yn dawel ei feddwl ynghylch hynny. Ac, unwaith eto, o ran y materion penodol iawn, rwy'n credu bod y Gweinidog yn ystyried y rhai hynny, ac mae disgwyl iddi gyflwyno datganiad. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth yw'r amserlen ar gyfer hynny, ond rwy'n gwybod y bydd yn cyflwyno datganiad ar y sefyllfa o ran rhai o'r diwygiadau i'r polisi iaith Gymraeg, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n ystyried hynny pan fydd yn cyflwyno'r datganiad hwnnw maes o law.
Arweinydd y tŷ, roeddwn yn falch iawn o gynnal arddangosfa yn y Pierhead y prynhawn yma i goffáu hanner can mlynedd ers pasio Deddf Erthylu 1967, ond rwy'n credu bod yr Aelodau Cynulliad a oedd yn bresennol i gyd yn syfrdanu braidd o glywed cyn lleied o gynnydd sydd wedi bod yn yr hanner canrif diwethaf hwn wrth ymdrin ag anghydraddoldebau yn y mynediad at erthyliad yng Nghymru. Oherwydd, mae'n ymddangos ein bod mewn sefyllfa lawer gwaeth nag mewn rhannau eraill o Brydain, ac, o ganlyniad, mae oedi artiffisial i allu menywod i gael erthyliad gan fod yn rhaid iddyn nhw weld eu meddyg teulu cyn y gallan nhw gael y gwasanaethau gynaecoleg sydd eu hangen arnyn nhw, ac mae llawer o'r rhai hynny sy'n cael eu hatgyfeirio at y sector gwirfoddol yn gorfod talu £600 eu hunain oherwydd yr oedi hyn, a hefyd maen nhw'n gorfod cael erthyliad llawfeddygol oherwydd ei bod yn rhy hwyr iddyn nhw gael erthyliad meddygol, sy'n amlwg yn llawer llai ymyrrol. Felly, tybed a allem ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y gallai ef fynd i'r afael â hyn. Rwy'n credu bod un eithriad, Gwent, sy'n dda iawn am atgyfeirio pobl na allan nhw ddarparu ar eu cyfer eu hunain i'r British Pregnancy Advisory Service, ond nid oes gan fyrddau iechyd eraill hanes da o wneud hynny. Rwy'n credu, ar draws y Siambr, y dylai fod braw ynghylch hyn ac mae angen inni wybod sut yr ydym ni'n mynd i fynd i'r afael a hyn yn y dyfodol.
Wel, diolch ichi am godi'r mater pwysig iawn hwnnw. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yma i wrando ar eich pryderon ac rwy’n credu ei fod yn nodi y byddai'n croesawu cyfarfod â chi i drafod y pryderon hynny ymhellach ac i weld beth y gallwn ei wneud ynglŷn â nhw.
Arweinydd y tŷ, rwy’n falch iawn o gyhoeddi i'r Siambr bod yr Ymddiriedolaeth Cynefinoedd Dŵr Croyw wedi fy mhenodi’n hyrwyddwr rhywogaeth newydd y Cynulliad dros y fisglen berlog dŵr croyw yn rhan o'u hymgyrch #ShowTheLove, ac rwy’n siŵr y gwnaf fwynhau’r swyddogaeth honno. Byddaf yn gofyn llawer o gwestiynau am warchod y rhywogaeth honno i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl setlo yn y swyddogaeth—ar wely'r môr. [Chwerthin.]
Yn y cyfamser, ar fater ehangach yr amgylchedd morol, rhywbeth sydd yn y newyddion ar hyn o bryd yw, wrth gwrs, problem llygredd plastig. Gwyddom fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban hefyd—. Mae archfarchnadoedd fel Iceland, yn benodol, wedi dweud eu bod yn bwriadu dileu deunydd pacio plastig o'u holl frandiau erbyn 2023, rwy’n meddwl. Tybed a allem ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru, neu ddadl hyd yn oed, ynglŷn â sut yr ydych yn bwriadu cefnogi camau fel hyn.
Rwy’n credu bod archfarchnadoedd fel Iceland, wrth gymryd y camau beiddgar hyn, yn haeddu cefnogaeth. Rwy’n credu y byddai'n beth da pe gallem ni annog ymddygiad fel hyn gan bawb er mwyn gallu glanhau’r llygredd plastig ofnadwy hwn o’n hamgylchedd morol cyn gynted â phosibl, fel y gall rhywogaethau eraill heblaw am y fisglen berlog dŵr croyw werthfawrogi cefnforoedd glân, moroedd glân a’r amgylchedd dyfrol y maen nhw'n ei haeddu.
Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig, ac ni allaf beidio ag achub ar y cyfle i ddweud mai fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y wystrysen frodorol, fel mae'n digwydd. Rwy’n gweld bod ganddo ef a mi farn debyg iawn ynghylch rhywogaethau blasus i’w hyrwyddo. Yn ddiweddar, cafodd bae Abertawe ei ailhadu â’r wystrysen frodorol, felly mae llygredd plastig yn ein hamgylchedd morol yn fater hynod o bwysig.
Wrth gwrs, mae Cymru wedi gwneud yn dda iawn o ran ailgylchu. Dim ond yr Almaen sydd wedi gwneud yn well. Rwy’n siŵr mai uchelgais Ysgrifennydd y Cabinet yw bod y gorau hefyd. Rydym ni wedi gwneud yn dda iawn—nid yw hynny'n golygu na ellir gwneud mwy. Mae'n bwynt pwysig iawn ac mae’n fater difrifol iawn i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n meddwl bod yr Aelod wedi gwneud yn dda iawn i'w godi. Ond gallwn ni fod yn falch yma yng Nghymru o’r ailgylchu yr ydym eisoes wedi ei wneud ac o ba mor galonogol yw’r camau unigol a gymerwyd gan gwmnïau o Gymru fel Iceland a hefyd gan unigolion o Gymru sy'n cymryd o ddifrif eu cyfrifoldeb personol am geisio cyfyngu ar ddefnyddio plastigion untro ac ati.
Dirprwy Lywydd, maddeuwch i mi am achub ar y cyfle hwn, ond os gallaf argymell i’r Aelodau eu bod i gyd yn ystyried defnyddio brwshys dannedd bambŵ a pheidio â defnyddio gwelltyn plastig yn eu diod, yna byddwn i'n meddwl bod y datganiad busnes hwn wedi cael canlyniad da iawn.
Diolch yn fawr iawn. Diolch.