Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Cwpl o sylwadau, ac yna gwnaf geisio ymdrin, rwy’n meddwl, â’ch pum maes penodol o gwestiynau. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod, wrth gwrs, cyfraniad Plaid Cymru at fodolaeth yr adolygiad hwn. Gwnaethom geisio, cyn yr etholiad diwethaf, gael cytundeb trawsbleidiol ar adolygiad iechyd a gofal ac mae rhywbeth ynghylch amseru yn hyn oll a chydnabod amseru, oherwydd a dweud y gwir o fewn blwyddyn olaf y Llywodraeth ddiwethaf, roedd yn anodd perswadio pleidiau i gytuno i’w wneud. Ac mae'n ddealladwy pam. Does dim beirniadaeth i bleidiau unigol, ond flwyddyn cyn yr etholiad mae'n anodd argyhoeddi pobl i ddweud, 'Dewch inni fod yn drawsbleidiol a gweithio gyda'n gilydd.' Rydym ni wedi achub ar y cyfle hwnnw ar ddechrau'r tymor hwn i ddechrau’r broses hon o gynnal adolygiad annibynnol, cytuno ar y telerau a chytuno ar yr aelodaeth. Nawr mae angen inni wneud dewisiadau gyda'n gilydd hefyd.
Yr her i bob un ohonom, yn y Llywodraeth, wrth gwrs, hefyd—. Rwy'n eithaf mwynhau’r cyfrifoldeb o fod mewn Llywodraeth ac mae gennyf gyfrifoldeb i wneud dewisiadau nawr ac yn y dyfodol hefyd. Ond un her ganolog i bob un ohonom fel cynrychiolwyr gwleidyddol yw’r hyn yr ydym yn dewis ei wneud a sut i gynnal y ddadl a sut i wneud dewisiadau gyda'n gilydd ynglŷn â’r dyfodol, oherwydd os ydym ni'n rhwystro dewisiadau rhag cael eu gwneud mae hynny’n ddewis ynddo'i hun, ac mae’r adroddiad yn dweud wrthym, mewn sawl ffordd, mai dyna’r perygl mwyaf i ddyfodol iechyd a gofal. Rhaid inni gael y lle, y weledigaeth, y gallu a'r parodrwydd i wneud dewisiadau anodd am y dyfodol, ac roedd hynny’n ddewis a wnaethom ar y dechrau, ond nid, fel y dywedais wrth Angela Burns—. Ni wnaethom ddisodli 'Law yn Llaw at Iechyd' ar ddechrau'r tymor hwn, oherwydd roeddem yn mynd i gynnal yr adolygiad hwn yn lle hynny, a dyna oedd y dewis cywir i’w wneud a dyna’r sylw y mae’r panel yn ei wneud am fod â gweledigaeth. Mae angen y weledigaeth honno arnom—dyna’r cynllun hirdymor yr wyf wedi sôn amdano ar gyfer iechyd a gofal—erbyn diwedd y gwanwyn. Dyna'r hyn yr hoffem ei ddarparu, y weledigaeth honno ar gyfer y dyfodol, i fwrw ymlaen â’r adolygiad ac nid, fel y mae Angela wedi’i awgrymu, ei adael ar silff yn y Llywodraeth.
Ac am wn i, ar y pwynt hwnnw am ymgysylltu cyn y cynllun hirdymor—eich cwestiwn cyntaf—rydym yn disgwyl ymgysylltu’n agored â rhanddeiliaid, o fewn y gwasanaeth iechyd, â gwahanol grwpiau o staff a gwahanol gynrychiolwyr o’r Coleg Brenhinol hefyd. Mae'n ddiddorol sut y mae’r colegau brenhinol eu hunain yn groesawgar ac yn galw am fwy o newid hefyd. Gall hynny fod yn anodd iddyn nhw ac i rai o’u haelodau, ac i’n cydweithwyr ehangach mewn undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd, ond yn llawer mwy na hynny wrth gwrs, ein partneriaid mewn llywodraeth leol a thu hwnt. Roedd hwn, yn fwriadol, yn adolygiad o iechyd a gofal cymdeithasol. Nid dim ond y gwasanaeth iechyd sydd dan sylw yma; mae'n ymwneud â sut y mae iechyd a gofal cymdeithasol yn rhan o system ehangach, gan gynnwys cydweithwyr o’r sector tai hefyd. Rwy’n disgwyl iddyn nhw i gyd ddangos diddordeb yn y cynllun hwnnw i’r dyfodol ac, wrth gwrs, y cyhoedd hefyd. Hoffem i’r cyhoedd gael ymgysylltiad cyhoeddus a llais yn y cynllun hirdymor hwnnw ar gyfer y dyfodol.
O ran eich pwynt am fesur profiad cleifion, unwaith eto, mae'n bwysig, wrth gwrs, yn rhan o'r nod pedwarplyg i ddeall sut yr ydym yn mesur profiad cleifion ac yn ei wella a’i werthfawrogi. Mae angen inni ganfod mesurau sy'n ddefnyddiol i ychwanegu gwir werth at yr hyn yr ydym yn ei fesur. Fel arall, y perygl yw mai dim ond mesur rhifau yr ydym, ac mae hynny bob amser yn eich arwain yn ôl at weithgarwch, swm y gweithgarwch, yr amser mae’n ei gymryd i wneud rhywbeth yn hytrach nag ansawdd yr hyn sy’n cael ei wneud a phrofiad rhywun, ac mae hynny ychydig yn anoddach. Ond rwy’n meddwl ei bod yn fwy gwerthfawr gwneud hynny hefyd.
Byddwn yn anghytuno'n gwrtais â chi am beidio â diddymu cynghorau iechyd cymuned. Os ydym ni eisiau i ddinasyddion gael llais, ac eiriolaeth ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol, mae arnom angen sylfaen ddeddfwriaethol newydd i’r grŵp hwnnw. Ni allwch ei wneud â chyfansoddiad presennol cynghorau iechyd cymuned, felly mae'n rhaid ichi ddod o hyd i ffordd newydd o gyfansoddi corff newydd. Mae’r drafodaeth yn sôn am pa bwerau a pha gyfrifoldebau sydd ganddyn nhw yn y system newydd. Gallwch chi ei gyfleu fel diddymu, ond bydd corff newydd yn cymryd eu lle i weithio ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan, ac rwy’n meddwl mai dyna'r peth iawn i’w wneud. Yn wir, mae Bwrdd cenedlaethol y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru yn cytuno mai dyna'r peth iawn i'w wneud hefyd.
O ran gweithlu, rydym wedi bod yn glir o'r blaen yn ein hymateb ynglŷn â’ch pwyntiau penodol am hyfforddiant meddygol yn y gogledd, a byddaf wrth gwrs yn cyflwyno datganiad am y gwaith y mae’r tair prifysgol eisoes yn ei wneud o ran sut yr ydym yn arfogi mwy o bobl yn fwy cyffredinol ledled y wlad i gael gyrfa mewn meddygaeth ac yn benodol sut yr ydym ni'n darparu mwy o hyfforddiant meddygol yn y gogledd.
O ran arloesi a arweinir gan dechnoleg a’r ffigurau, unwaith eto, mae amrywiaeth o bobl, o fewn y Siambr hon a'r tu allan, sydd yn cydnabod potensial go iawn ac, yn wir, y gwir angen i fanteisio mwy ar dechnoleg i ddarparu arloesedd a gwelliant a fydd yn darparu gwerth go iawn. Nid dim ond mater o arbed ychydig o bunnoedd yw hyn, ond cydnabod yn wir sut y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn gwneud dewisiadau. A dweud y gwir, mae angen i’r gwasanaeth iechyd ddal i fyny â hynny. Unwaith eto, mewn rhai rhannau o ofal cymdeithasol, mae angen inni weithio gyda'n gilydd i lunio systemau sydd wir yn gweithio gyda'i gilydd ac yn gallu siarad â'i gilydd, eto i’w gwneud yn haws i ddinasyddion. Ni ddylem ddisgwyl i bobl ag anghenion iechyd a gofal lywio eu ffordd drwy system gymhleth. Mae’n rhaid inni ei gwneud yn haws iddyn nhw wneud hynny.
Yn olaf, ynglŷn â’ch pwynt am fesurau, rwyf wedi nodi bod angen inni gymryd yr adolygiad o ddifrif ac ymateb iddo’n briodol, ond bydd angen, ac rwy’n cydnabod hynny nawr, dod yn ôl, o leiaf o fewn blwyddyn, i edrych ar y cynnydd y byddwn wedi’i wneud, yn ogystal â bod yn agored i graffu, nid dim ond yn y ffordd arferol yn y Siambr a drwy’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ond o safbwynt Llywodraeth i feddwl o ddifrif am yr argymhelliad yn yr adolygiad ein bod, bob blwyddyn, yn rhoi diweddariad blynyddol gan y Llywodraeth a’r gwasanaeth iechyd a'r system gofal cymdeithasol am ble rydym yn meddwl yr ydym, pa heriau sydd gennym o hyd a beth arall y mae angen inni ei wneud. Rwy’n meddwl bod hynny'n awgrym buddiol y mae angen inni ei ystyried o ddifrif, oherwydd rwy’n meddwl y byddai hynny'n rhoi rhywfaint o’r eglurder yr ydych chi eich hun wedi awgrymu y dylem geisio ei roi.