Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 16 Ionawr 2018.
A fyddai'r Aelod yn ildio ar y pwynt hwn? Rwy'n ddiolchgar iawn, ac yn cytuno â hi; rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â phrosiectau Cefnogi Pobl, ac rwy'n credu ein bod yn rhannu gwerth cyffelyb wrth sicrhau bod yr arian ar gael. Bydd hi'n ymwybodol o'r dryswch neu'r drafodaeth, o leiaf, sydd wedi bod o ran sut y caiff yr arian ei wario. A fyddai hi o leiaf yn cytuno bod angen inni fonitro ar hyn o bryd sut y caiff yr arian ei wario i wneud yn siŵr y bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer mynd i'r afael â'r materion gwirioneddol hyn yn ein cymunedau?