Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 16 Ionawr 2018.
Wel, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth ateb hynny fyddai ein bod ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac rydym wedi cael tystiolaeth gan aelodau o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n dweud y bydd cael gwared ar y clustnodi hwn mewn gwirionedd yn caniatáu ar gyfer lefelau mwy hyblyg o gymorth. Felly, rwyf i o'r farn fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni gadw golwg arno mewn gwirionedd, ond nid wyf i'n credu bod achos i bryderu'n fawr ar y cam hwn.
Fan arall, mae ymyriadau o ran digartrefedd, trais domestig a gofal plant yn bolisïau cymdeithasol pwysig. Mae effaith anallu economaidd Llywodraeth y DU a dideimladrwydd bwriadol, a achoswyd gan bolisïau fel y credyd cynhwysol a'r cap ar gyflogau'r sector cyhoeddus, wedi arwain at broblemau cymdeithasol fel y cynnydd sydyn yn y defnydd o fanciau bwyd. Unwaith yn rhagor, mae Llywodraeth Cymru a Llafur Cymru yn dewis gwneud pethau'n wahanol.
I gloi, hoffwn wneud sylwadau am yr hyn yr wyf yn teimlo sy'n rhai o elfennau mwyaf cyffrous y gyllideb. Y trethi newydd ar drafodion tir a gwarediadau tirlenwi yw'r rhain. Gyda'r ddeubeth, mae'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle i ddefnyddio ei galluoedd datganoledig newydd. Yn benodol, mae cynigion sy'n golygu na fydd 65 y cant o'r holl brynwyr tai yng Nghymru yn talu unrhyw dreth trafodiad tir yn fendith wirioneddol i gymunedau dosbarth gweithiol ledled y wlad. Rwy'n edrych ymlaen at y gwaith manwl yn y dyfodol gan yr Ysgrifennydd dros Gyllid ar gynigion trethiant ychwanegol dros y cyfnod sydd i ddod.
Mae Llywodraeth Cymru, wrth ddatblygu'r cynigion hyn, wedi amlygu ei hymrwymiad i gael y fargen orau i Gymru, i gefnogi dinasyddion Cymru, a gwasanaethau Cymru ac economi Cymru. Rwy'n llawn balchder wrth gefnogi'r gyllideb hon heddiw.