Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 16 Ionawr 2018.
Er fy mod yn cefnogi cyllideb Llywodraeth Cymru, rwy'n cydnabod mai annigonol yw'r gyllideb ar gyfer anghenion Cymru. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod ei araith, mae rhwng £1.1 biliwn a £4 biliwn yn llai o wariant gennym nag a ddylai fod gennym pe byddem hyd yn oed wedi aros ar y gwastad yn unig, ar y naill law o ran arian parod, ac ar y llaw arall o ran cynnydd termau real yn unol a symudiad yr economi. Felly, gallwn naill ai symud gyda'r economi, neu gallwn symud yn y ffordd y mae pethau'n mynd rhagddynt. Ni wnaethom hynny ac rydym yn brin o'r arian hwnnw. Byddai'n gyllideb hollol wahanol heddiw pe byddai gan Ysgrifennydd y Cabinet rywbeth rhwng £1.1 biliwn a £4 biliwn i'w ddyrannu.
Byddai gennym ddadl well oherwydd byddem yn dweud fel hyn, 'A ddylem ni roi mwy i iechyd neu a ddylem roi mwy i addysg, neu a ddylem roi mwy i'r gwasanaethau cymdeithasol?'. Byddem i gyd yn mwynhau cael y ddadl honno yn hytrach na dweud fel hyn 'Wel, rydym yn mynd i roi mwy o arian i iechyd felly bydd yn rhaid inni gymryd arian oddi ar lywodraeth leol.'