Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 16 Ionawr 2018.
Wrth gwrs, rwy'n deall pam mae Aelodau'r gwrthbleidiau yn gwneud y pwynt hwn—efallai eich bod yn iawn i wneud hynny, ac yn sicr mae pob hawl ganddyn nhw i —. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i —breuddwyd gwrach. Ac yn sicr, mae gan Blaid Cymru bob hawl i'w wneud. Ond, wyddoch chi, ymladdodd Llafur dros faniffesto 2010 ar yr un rhagamcanion ariannol fwy neu lai â'r rhai a gaiff eu derbyn gan y Blaid Geidwadol. Fe wnaethoch chi ymladd etholiad 2015 ar sail ychydig yn wahanol, ond nid yn gwbl wahanol o ran y swm sydd wedi ei wario. Nawr, yn 2017, mae'n amlwg, eich bod wedi ymladd mewn dull gwahanol iawn. Ond, wyddoch chi, ni fyddem mewn sefyllfa wahanol iawn pe byddai Llywodraeth Lafur wedi cael ei hailethol yn y DU yn 2010. Felly, yn fy marn i, mae hwn yn bwynt rhyfedd braidd.